Pobl ifanc o Gaerfyrddin yn wynebu’r Her ac yn anelu at ennill gwobr o fri

Postiwyd ar gan karen.smith

Criw SK8 Swap Shop (o’r chwith) Thomas Dack, gweithiwr ieuenctid; May Acreman, myfyriwr; Alun Evans, gwirfoddolwr; Donatas a Vytas Alisauskas, Lewis Thomas; Jodie Morgan, gweithiwr ieuenctid; Alfie Davies; Rhian Ainsley gweithiwr ieuenctid ac Emily Tucker (blaen).

Her Arian am Oes Lloyds TSB yn dathlu Sgiliau Arian Pobl Ifanc o’r Ardal

Mae tîm o bobl ifanc 16 i 23 oed o Gaerfyrddin yn gobeithio ennill gwobr o fri ar ôl plesio’r beirniaid yn rownd gyntaf Her Arian am Oes Lloyds TSB, sef cystadleuaeth i hybu gwell sgiliau rheoli arian.

Mae’r tîm o bobl ifanc o Brosiect Ieuenctid Caerfyrddin yn paratoi ar gyfer rownd derfynol Cymru yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar 23 Ebrill lle byddant yn cyflwyno’u prosiect Sk8 Swap Shop ar gyfer Her Arian am Oes. Ym mis Rhagfyr, roedd y prosiect yn un o 250 ledled y Deyrnas Unedig i gael grant o £500 ac, ers hynny, mae’r criw ifanc wedi rhoi eu cynllun ar waith fel arbenigwyr arbed arian trwy gynnal sesiwn drwco, gan wahodd pobl i gyfnewid pethau.

Dywedodd Martin Mansfield, 23 oed, o Sk8 Swap Shop: “Roedd yn ddiwrnod da. Fe wnaethon ni i’r bechgyn rannu’r poster ar Facebook er mwyn rhoi gwybod i bawb amdano. Yna, aethon ni i lawr i’r parc sglefrio ar y diwrnod a cheisio cael pobl i ddod gyda ni i’r sesiwn. Chwarae teg, roedd pawb yn cydweithio ac fe ddaeth llond lle o bobl!”

Bydd Sk8 Swap Shop yn ymuno â rhestr fer o bum tîm o Gymru y mae eu prosiectau rheoli arian yn cael effaith gadarnhaol ar eu cymunedau, eu teuluoedd a’u ffrindiau.

Dywedodd noddwr y tîm, Emma Pitt, gweithiwr ieuenctid gyda Phrosiect Ieuenctid Caerfyrddin: “Roedd yn dda gweld y bechgyn hŷn yn arwain ar y diwrnod ac yn gofalu am y rhai iau. Hyd yn oed os nad ydyn nhw’n sylweddoli hynny, maen nhw’n fodelau rôl i’r rhai iau ac ro’n i wrth fy modd yn eu gweld nhw’n ymddwyn felly! Roedd hefyd yn gyfle iddyn nhw anghofio’u gwahaniaethau – mae rhai’n reidio sgŵters ac eraill yn sglefrio, ond ar 4 Mawrth 2013, doedd dim ots – arbed arian oedd yr unig beth pwysig!”

Ar ddiwrnod rownd derfynol Gymreig Her Arian am Oes, bydd y timau’n cyflwyno’u prosiectau i banel o feirniaid a bydd y tîm buddugol yn mynd ymlaen i Rownd Derfynol Fawreddog y Deyrnas Unedig yn Llundain ar 23 Mai. Os mai Sk8 Swap Shop fydd yr enillydd cenedlaethol, bydd y tîm yn cael £1,000 i’w roi i elusen o’i ddewis a bydd pob aelod yn cael taleb siopa £50.

Meddai Sarah Porretta, Pennaeth y Rhaglen Arian am Oes yn y Lloyds Banking Group: “Mae Her Arian am Oes yn ffordd wych o helpu pobl ifanc i reoli eu harian yn dda trwy gefnogi eraill â’r un sgiliau yn union. Dyma ail flwyddyn yr Her ac mae safon y prosiectau cystal eleni eto. Y peth mwyaf trawiadol yw’r ffordd greadigol ac angerddol y mae’r bobl ifanc yn mynd ati i roi cig ar asgwrn eu syniad gwreiddiol er mwyn gwneud gwahaniaeth go iawn yn eu cymunedau.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at glywed am brosiect Sk8 Swap Shop yn rownd derfynol Cymru ac yn dymuno’n dda iddyn nhw.”

Bydd y tîm buddugol yn Rownd Derfynol y Deyrnas Unedig ar 23 Mai yn ennill £2,500 i elusen o’i ddewis, talebau siopa gwerth £100 i bob aelod a mentor o’r Lloyds Banking Group. Yn ogystal, bydd y gwahoddedigion ar y noson yn cael dewis enillydd Gwobr y Bobl.

Mae Her Arian am Oes yn rhan o raglen Arian am Oes sy’n bartneriaeth unigryw rhwng y Lloyds Banking Group a phartneriaid yn y sector addysg bellach ym mhedair cenedl y Deyrnas Unedig, yn cynnwys ColegauCymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru. Nod y gystadleuaeth yw dod o hyd i’r ffyrdd mwyaf dyfeisgar a llwyddiannus o wella sgiliau rheoli arian pobl ifanc, eu ffrindiau, eu teuluoedd a’u cymunedau. Mae aelodau’r timau rhwng 16 a 24 oed ac mewn addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith neu ddysgu cymunedol i oedolion.

Y prosiectau eraill sydd yn rownd derfynol Cymru yw: Grow and Save o ITEC Training Solutions, sef prosiect cymunedol sy’n annog pobl i dyfu ffrwythau, llysiau a pherlysiau er mwyn arbed arian; Rampart Rebels o’r Ganolfan Hyfforddiant Cyflogaeth yn Abertawe, sy’n ceisio rhoi gwybod i bobl am fenthycwyr didrwydded yn Abertawe; Swimming with the Sharks o Goleg Castell-nedd Port Talbot, sy’n codi ymwybyddiaeth o beryglon cael benthyg arian gan fenthycwyr didrwydded ac yn rhoi gwybodaeth am wahanol ffyrdd o gael benthyg arian; a Quit and Sav£ o Gaerffili, sy’n codi ymwybyddiaeth o fanteision ariannol rhoi’r gorau i smygu.

Os hoffech wybod rhagor am Her Arian am Oes, ewch i moneyforlifechallenge.org.uk, neu ymunwch â ni ar Facebook yn www.facebook.com/moneyforlifeuk ac ar Twitter ar www.twitter.com/moneyforlifeuk

More News Articles

  —