PUM TÎM YN BAROD AM ROWND DERFYNOL CYMRU HER ARIAN AM OES

Postiwyd ar gan karen.smith

Mae pum tîm o bobl ifanc ddyfeisgar o dde Cymru yn gobeithio ennill gwobr o fri ar ôl plesio’r beirniaid yn rownd gyntaf Her Arian am Oes Lloyds TSB, sef cystadleuaeth i hybu gwell sgiliau rheoli arian.

Mae’r timau’n paratoi ar gyfer rownd derfynol Cymru yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar 23 Ebrill lle byddant yn arddangos eu prosiectau rheoli arian sy’n cael effaith gadarnhaol ar eu cymunedau lleol, eu teuluoedd a’u ffrindiau.

Dyma’r timau sydd yn rownd derfynol Cymru:

Quit and Sav£, sef tîm o bobl ifanc 16-18 oed o Y Coleg, Ystrad Mynach sy’n dangos faint o arian y gallwch ei arbed, a manteision eraill smygu llai neu roi’r gorau iddi’n gyfan gwbl.

Grow and Save, sy’n dîm o bobl ifanc 17-19 oed o ITEC Training Solutions, Caerdydd. Nod eu prosiect cymunedol nhw yw annog pobl i dyfu ffrwythau, llysiau a pherlysiau i’w helpu i arbed arian.

Tîm o bobl ifanc 16-23 oed o Brosiect Ieuenctid Caerfyrddin yw Sk8 Swap Shop. Maen nhw’n ceisio helpu pobl i reoli eu harian trwy gynnal sesiwn trwco, gan wahodd aelodau’r gymuned i ddod i gyfnewid gwahanol eitemau.

Nod prosiect y Rampart Rebels, 16-19 oed o’r Ganolfan Hyfforddiant Cyflogaeth yn Abertawe yw rhoi gwybod i’r cyhoedd am fenthycwyr arian didrwydded (loan sharks) yn y ddinas.

Mae tîm Swimming with the Sharks, 16 a 17 oed o Goleg Castell-nedd Port Talbot, yn codi ymwybyddiaeth o beryglon cymryd benthyg arian gan fenthycwyr didrwydded (loan sharks) ac yn rhoi gwybodaeth am ffyrdd gwahanol o gael benthyg arian.

Bydd y timau’n cyflwyno’u prosiectau i banel o feirniaid yn rownd derfynol Her Arian am Oes Cymru a bydd y tîm buddugol yn mynd ymlaen i Rownd Derfynol Fawreddog y DU yn Llundain ar 23 Mai. Bydd yn cael £1,000 i’w roi i elusen o’i ddewis a bydd pob aelod o’r tîm yn cael taleb siopa £50.

Bydd y tîm buddugol yn Rownd Derfynol y Deyrnas Unedig yn ennill £2,500 i elusen o’i ddewis, taleb siopa gwerth £100 i bob aelod, a mentor o’r Lloyds Banking Group. Yn ogystal, bydd y gwahoddedigion ar y noson yn cael dewis enillydd Gwobr y Bobl.

Bydd y Cymry yn y rownd derfynol yn gobeithio gwneud cystal â thîm Don’t Buy Posh – Save Your Dosh o ACT Training, Pen-y-bont ar Ogwr, a oedd yn bencampwyr Cymru a’r DU yn 2012.

Meddai Sarah Porretta, Pennaeth y Rhaglen Arian am Oes yn y Lloyds Banking Group: “Mae Her Arian am Oes yn ffordd wych o helpu pobl ifanc i reoli eu harian yn dda trwy gefnogi eraill â’r un sgiliau yn union.

“Dyma ail flwyddyn yr Her ac mae safon y prosiectau lawn cystal eleni eto. Y peth mwyaf trawiadol yw’r ffordd greadigol ac angerddol y mae’r bobl ifanc yn mynd ati i roi cig ar asgwrn eu syniad gwreiddiol er mwyn gwneud gwahaniaeth go iawn yn eu cymunedau.”

Mae Her Arian am Oes yn rhan o raglen Arian am Oes sy’n bartneriaeth unigryw rhwng y Lloyds Banking Group a phartneriaid yn y sector addysg bellach ym mhedair cenedl y Deyrnas Unedig, yn cynnwys ColegauCymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru. Cafodd cyfanswm o 250 o brosiectau ledled y DU grantiau o £500 yr un i gynnal prosiect Her Arian am Oes eleni.

Nod y gystadleuaeth yw dod o hyd i’r ffyrdd mwyaf dyfeisgar a llwyddiannus o wella sgiliau rheoli arian pobl ifanc, eu ffrindiau, eu teuluoedd a’u cymunedau. Mae aelodau’r timau rhwng 16 a 2

Os hoffech wybod rhagor am Her Arian am Oes, ewch i moneyforlifechallenge.org.uk, neu ymunwch â ni ar Facebook yn www.facebook.com/moneyforlifeuk ac ar Twitter ar www.twitter.com/moneyforlifeuk

More News Articles

  —