Pobl Ifanc Ddarbodus o Ben-y-bont yn Cyrraedd y Brig

Postiwyd ar gan karen.smith

Tîm o ACT yn ennill prif wobr Rownd Derfynol Her Arian am Oes trwy’r DU

Don't Buy Posh Save Your Dosh gyda Ellie Crisell

Mae pobl ifanc o Ben-y-bont ar Ogwr yn dathlu heddiw ar ôl ennill prif wobr Her Arian am Oes Lloyds TSB yn Llundain neithiwr. Ar ôl cystadleuaeth glos rhwng timau o bob rhan o’r Deyrnas Unedig, tîm Pen-y-bont oedd yn fuddugol.

Roedd y beirniaid wrth eu bodd â’u prosiect dyfeisgar – ‘Don’t Buy Posh, Save Your Dosh’ – a luniwyd i’w helpu nhw a phobl ifanc eraill i drin arian yn well.

Aeth y tîm o chwech o bobl ifanc 16–19 oed o ACT (Associated Community Training) ati i sefydlu ‘Don’t Buy Posh, Save Your Dosh’ ar ôl sicrhau grant o £500 o Her Arian am Oes yn gynharach eleni. Fe wnaethon nhw ddefnyddio’r arian i droi eu hystafell gyffredin yn ‘Value Café’ lle gallai pobl ddysgu sut i arbed arian wrth siopa am fwyd trwy brynu eitemau ‘value’ yn lle rhai â brand.

Dangosodd y bobl ifanc fod modd arbed cymaint â £30 yr wythnos ar siopad wythnosol arferol trwy ddewis eitemau di-frand ac fe gynhaliwyd sesiynau blasu i brofi eu pwynt. Cyn cychwyn ar Her Arian am Oes, roedd aelodau tîm ACT i gyd yn ddi-hyder ac felly roedd y beirniaid wedi’u plesio, nid yn unig â’u sgiliau trin arian, ond hefyd â’r ffordd yr oeddent wedi datblygu fel tîm.

Meddai Jeff Cuthbert, y Dirprwy Weinidog Sgiliau: “Hoffwn i longyfarch yr enillwyr a phawb a gymerodd ran yn yr Her. Gobeithio y byddant yn ysbrydoliaeth i bobl eraill. Yn yr hinsawdd economaidd presennol, mae mor bwysig ag erioed i bobl ifanc ddysgu sgiliau trin arian. Mae’n galonogol iawn gweld sut y mae’r rhaglen Arian am Oes wedi helpu’r bobl ifanc i ddatblygu’r sgiliau hyn.”

Aelodau’r panel beirniaid oedd Matt Young, Cyfawrwyddwr Materion Corfforaethol Lloyds Banking Group; Emma Thomas, Prif Weithredwr Youth Net; Hiran Adhia, Cyfarwyddwr Creadigol a Chyd-sefydlydd We Do Ideas; Wendy Alcock o Money Saving Expert; ac Irfan Zaman o Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr.

Meddai Shannon Mears, 16, o ‘Don’t Buy Posh, Save Your Dosh’: “Doedd gen i ddim hyder pan ddechreuais i ar Her Arian am Oes. Mae wedi newid fy mywyd i’n llwyr ac mae pawb yn dweud mod i’n fwy hyderus a bywiog. Mae’n wych fy mod i wedi dysgu cymaint o sgiliau newydd ac mae mam wrth ei bodd o gael gweld sut i arbed arian ar ein bil siopa!”

Dywedodd Ellie Crisell, newyddiadurwr a chyflwynydd y Rownd Derfynol: “A minnau wedi dysgu gwerth rheoli fy arian i, rwy’n credu ei bod yn syniad da dathlu sgiliau pobl ifanc sy’n dysgu sut i reoli arian a sut i ddefnyddio’r sgiliau hynny mewn ffyrdd dyfeisgar. Mae gwybod gwerth arian a sut i’w ddefnyddio’n effeithlon yn lles i bawb a bydd y bobl ifanc yn gweld pa mor werthfawr oedd y prosiect am flynyddoedd i ddod.”

Enillodd y bobl ifanc £1,000 i’w roi i elusen o’u dewis yn rownd derfynol Cymru a £2,500 arall at elusen yn rownd derfynol y Deyrnas Unedig. Cafodd pob aelod o’r tîm buddugol £100 o Bonus Bonds a’r cyfle i gydweithio â mentor o’r Lloyds Banking Group a fydd yn eu helpu i roi eu syniadau ar gyfer arbed arian ar waith.

Meddai Sarah Porretta, Pennaeth y Rhaglen Arian am Oes yn y Lloyds Banking Group: “Mae sgiliau rheoli arian wedi bod yn bwysig erioed, ond mae wedi bod yn bwnc digon diflas – tan nawr! Dw i wedi fy syfrdanu wrth weld pa mor greadigol yw holl geisiadau Her Arian am Oes ac mae enillwyr rownd derfynol y Deyrnas Unedig ‘Don’t Buy Posh, Save Your Dosh’ o Ben-y-bont ar Ogwr wedi dod ar daith ryfeddol.”

“Nod Her Arian am Oes yw dysgu sgiliau trin arian i gymunedau ledled y Deyrnas Unedig, yn enwedig trwy roi’r sgiliau angenrheidiol i bobl ifanc i gyflawni eu potensial. Mae ‘Don’t Buy Posh, Save Your Dosh’ a’r holl dimau a gymerodd ran eleni wedi’n helpu ni i gyrraedd y nod hwn ac rydyn ni’n edrych ymlaen at weld rhagor o geisiadau ysbrydoledig y flwyddyn nesaf.”

Y timau a oedd yn cystadlu yn erbyn ‘Don’t Buy Posh, Save Your Dosh’ yn rownd derfynol y Deyrnas Unedig oedd ‘Look and Cook!’ o Belfast, Gogledd Iwerddon; ‘Money Talks’ o Swydd Renfrew, yr Alban; a ‘Buffet on a Budget’ o Lundain, Lloegr.

More News Articles

  —