Michelle yn datblygu gyrfa lwyddiannus ar ôl ffoi rhag cam-drin domestig

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Mae Michelle Dolan wedi adeiladu bywyd newydd iddi hi a’i meibion.

Mae menyw sydd wedi datblygu gyrfa lwyddiannus a magu pedwar mab ar ei phen ei hunan ar ôl dioddef cam-drin domestig yn gobeithio y bydd ei stori’n ysbrydoli menywod eraill i gredu ynddyn nhw eu hunain.

Roedd bywyd Michelle Dolan, sy’n 46 oed, ar chwal pan ddihangodd hi a’i meibion o’u cartref ond erbyn hyn, 17 mlynedd yn ddiweddarach, mae’n mwynhau bywyd a hithau’n ddirprwy reolwr cartref preswyl ar gyfer oedolion â phroblemau iechyd meddwl ac anableddau dysgu yng Nghlydach, ger Abertawe.

Ar ôl gweithio rhan amser tra oedd yn magu ei meibion, sydd rhwng 18 a 23 oed erbyn hyn, penderfynodd Michelle blymio i’r pen dwfn bum mlynedd yn ôl a churo ar ddrws cartref Awelon, Clydach a gofyn am swydd.

Cafodd ffurflen gais ac yna gyfweliad a chael swydd fel gweithiwr cymorth. Ers hynny, mae Michelle wedi dringo ysgol gyrfa yn y cartref, gan ddod yn ddirprwy reolwr sy’n arwain tîm o 17 aelod o staff.

Gan fod ganddi gymaint o feddwl o’i swydd, y cartref, ei chydweithwyr a’r bobl y mae’n gofalu amdanynt, mae Michelle wedi penderfynu gwella’i sgiliau a’i gwybodaeth trwy Raglen Prentisiaethau Llywodraeth Cymru.

Er ei bod wedi gadael byd addysg ers 20 mlynedd, cwblhaodd Michelle Brentisiaeth (Fframwaith Cymwysterau a Chredydau (QCF) Lefel 3) mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Yna, cafodd ei hannog gan asesydd PeoplePlus, Yvonne Hammond, i symud ymlaen i Brentisiaeth Uwch, QCF Lefel 5 Uwch, gan barhau i’w chefnogi i gwblhau Dyfarniad Rheolwyr Cofrestredig QCF Lefel 5.

I’w helpu i gwblhau’r fframwaith a symud ymlaen, aeth Michelle ati i wella’i sgiliau mewn Saesneg a Mathemateg. Erbyn hyn mae’n Rheolwr Gofal Cofrestredig ac mae’n gobeithio parhau â’i thaith ddysgu trwy wneud Prentisiaeth Uwch gyda’r Sefydliad Rheolaeth.

“Yn fuan ar ôl dechrau gweithio gydag Awelon Healthcare, roeddwn i’n gwybod mai dyna oedd y lle i mi,” meddai Michelle. “Gall y gwaith fod yn heriol iawn ar brydiau ond mae llawer o foddhad i’w gael hefyd.

“Dyw e ddim yn teimlo fel gwaith am fy mod yn ei fwynhau gyaint. Rwy wrth fy modd yn ymwneud â defnyddwyr y gwasanaethau a’n gweld sut y maen nhw’n symud ymlaen gyda ni.

“Brwdfrydedd a chefnogaeth Yvonne oedd y sbardun i fi symud ymlaen i’r Brentisiaeth Uwch ac rwy’n falch iawn o’r hyn rwy wedi’i gyflawni. Mae’r cymwysterau wedi newid fy mywyd mewn sawl ffordd.”

Mae Michelle yn gobeithio y bydd ei stori hi’n ysbrydoli menywod eraill sydd wedi dianc o berthynas lle maen nhw’n cael eu cam-drin a dyma yw ei chyngor iddyn nhw: “Camwch ymlaen un dydd ar y tro, gosodwch dargedau bach i chi’ch hunan a chredu ynoch chi’ch hunan.

“Pan adewais i fy nghyn-ŵr, roeddwn i wedi colli fy hyder a fy hunan-fri i gyd. Roeddwn i’n teimlo mod i’n hollol ddi-werth fel person ac fel mam. Erbyn hyn, rwy wrth fy modd yn fy ngwaith, mae gen i gymwysterau ac rwy’n batrwm i fy meibion – pob un ohonyn nhw’n gwneud yn dda.

“Mae fy hen fywyd yn teimlo fel breuddwyd gan fy mod wedi dod ymlaen mor bell. Rwy wedi dangos bod popeth yn bosibl os credwch ynoch chi’ch hunan.”

Roedd Yvonne yn llawn canmoliaeth i Michelle am barhau i ddysgu, ac am ei sgiliau arwain a’i hymroddiad. “Mae’n ymroi, nid yn unig i ennill cymwysterau a datblygu’n bersonol ond hefyd i’r sefydliad y mae’n gweithio iddi, i’w chydweithwyr ac i’r bobl y mae’n eu cefnogi.

“Mae lles y bobl y mae’n eu cefnogi ac ansawdd eu bywyd yn cael blaenoriaeth ganddi bob amser.”

Llongyfarchwyd Michelle am ei thaith ddysgu ysbrydoledig gan Humie Webbe, Arweinydd Strategol Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, ar gyfer Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW).
“Mae stori Michelle yn dangos beth y gallwch ei gyflawni trwy fod yn benderfynol a chael cefnogaeth addas,” meddai Humie. “Ein gweledigaeth ni yw creu amgylchedd dysgu sy’n rhoi cyfle i bawb wireddu eu potensial trwy eu doniau a gwaith caled, beth bynnag yw eu cefndir.

“Rydym am sicrhau bod pobl yn sylweddoli bod prentisiaethau’n agored i bawb a bod y rhwystrau sy’n atal pobl rhag cymryd rhan ynddynt yn cael eu chwalu.”

More News Articles

  —