Datblygu sgiliau arweinyddiaeth yn helpu arweinwyr ysgolion i gryfhau arferion cynhwysol ledled Gogledd Cymru

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Samantha Stenhoff and Rebecca Kirkpatrick standing outside the school building.

(O’r chwith i’r dde) Rebecca Kirkpatrick a Samantha Stenhoff,
Penaethiaid Cynorthwyol yn Ysgol Pen Coch

Mae cymhwyster arweinyddiaeth wedi helpu dwy Bennaeth Cynorthwyol i gryfhau y darpariaeth ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol o fewn eu hysgol, tra’n rhannu eu harbenigedd gydag ysgolion a rhwydweithiau cymorth ledled Gogledd Cymru.

Cwblhaodd Samantha Stenhoff a Rebecca Kirkpatrick, Penaethiaid Cynorthwyol yn Ysgol Pen Coch yn Sir y Fflint, Brentisiaethau Uwch ILM Lefel 5 mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth drwy Portal Training.

Mae’r cymhwyster wedi cefnogi’r ddwy arweinydd i adeiladu ar eu profiad presennol, datblygu eu harferion arweinyddiaeth a sbarduno gwelliannau o fewn yr ysgol, tra hefyd yn cyfrannu at drafodaethau ehangach ynghylch cynhwysiant, cyfathrebu a chefnogaeth i ddysgwyr ag anghenion cymhleth.

Ar adeg pan fo ysgolion yn wynebu pwysau cynyddol i gefnogi dysgwyr ag anghenion cymhleth, mae’r ddwy arweinydd wedi defnyddio eu dysgu i gryfhau’r ddarpariaeth o fewn yr ysgol ac i helpu rannu arferion effeithiol ar draws y sector ehangach.

Gyda’i gilydd, maent wedi arwain datblygiadau mewn meysydd megis darpariaeth awtistiaeth, cymorth cyfathrebu, arloesedd digidol, dylunio’r cwricwlwm a llwybrau dysgu personol. Mae Rebecca hefyd wedi helpu i sefydlu dosbarth lloeren o fewn lleoliad prif ffrwd, gan greu cyfleoedd newydd ar gyfer cynhwysiant a chryfhau’r cysylltiadau rhwng addysg arbenigol ac addysg brif ffrwd.

Wrth fyfyrio ar ei phrofiad, dywedodd Samantha: “Mae’r uwch brentisiaeth wedi newid y ffordd rwy’n mynd ati i arwain. Mae wedi rhoi’r hyder i fi arwain datblygiadau ysgol gyfan a chefnogi eraill mewn ffordd fwy strwythuredig.”

Mae effaith eu gwaith yn ymestyn ymhell tu hwnt i Ysgol Pen Coch. Gyda’i gilydd, mae Samantha a Rebecca yn helpu i gyflwyno diwrnodau cymorth rheolaidd i Gydlynwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY), gan groesawu cydlynwyr o ysgolion eraill i Ysgol Pen Coch i arsylwi arferion, cael mynediad at hyfforddiant ac archwilio dulliau effeithiol o gefnogi dysgwyr ag anghenion cymhleth.

Mae’r ddwy hefyd yn cyfrannu at rwydweithiau rhanbarthol Dirprwy Benaethiaid a Phenaethiaid Cynorthwyol, gan gydweithio â chydweithwyr o ysgolion arbennig ledled Gogledd Cymru i rannu arferion da a thrafod datblygiadau strategol ym maes darpariaeth anghenion dysgu ychwanegol.

Yn ogystal â’i gwaith yn yr ysgol, mae Samantha yn cyfrannu at grwpiau trafod proffesiynol gydag ysgolion arbennig ledled Gogledd Cymru, gan ganolbwyntio ar lythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol. Mae hefyd yn cefnogi datblygiad y genhedlaeth nesaf o athrawon drwy raglenni mentora ac ymsefydlu ar gyfer staff newydd.

Mae Rebecca yn cyflwyno’n rheolaidd mewn fforymau CADY Sir y Fflint, gan rannu ei harbenigedd ar gefnogi dysgwyr ag anghenion cymhleth a Chymorth Ymddygiad Cadarnhaol. O fewn yr ysgol, mae’n arwain cyfleoedd hyfforddi a datblygu ar gyfer staff newydd a staff presennol, gan helpu i wreiddio arferion effeithiol ar draws y gweithlu.

Mae’r ddwy hefyd yn cefnogi teuluoedd drwy sesiynau rheolaidd i rieni sy’n canolbwyntio ar strategaethau cyfathrebu, adnoddau a dulliau ymarferol o gefnogi disgyblion ag anghenion cymhleth.

Yn ogystal, mae’r ysgol yn gweithio gyda gwasanaeth ymgynghorol Cymraeg Sir y Fflint i ddatblygu hyfforddiant Cymraeg gan ddefnyddio Makaton, gan helpu i wneud cyfathrebu’n fwy hygyrch i ddisgyblion ag anghenion cymhleth, gyda Samantha yn cefnogi’r gwaith hwn.

Dywedodd y Pennaeth, Noel Fitzgerald: “Rydym yn hynod falch o’r hyn y maent wedi eu cyflawni. Mae eu harweinyddiaeth wedi cael effaith wirioneddol o fewn yr ysgol ac maent bellach yn dylanwadu ar arferion yn ehangach.”

Ychwanegodd Rebecca Kirkpatrick: “Rhoddodd y brentisiaeth gyfle i mi gamu’n ôl, myfyrio ar fy arweinyddiaeth ac adeiladu ar y profiad roeddwn eisoes wedi’i ennill. Mae’r gallu i gymhwyso’r dysgu ar unwaith wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fy rôl ac i’r gwaith ehangach rydym yn ei wneud fel ysgol.”

Mae effaith eu harweinyddiaeth hefyd wedi cael ei chydnabod yng Ngwobrau Prentisiaethau, Cyflogaeth a Sgiliau Cambrian Training, lle enwyd Samantha yn Brentis Uwch y Flwyddyn, a Rebecca yn rownd derfynol y categori.

Samantha and Rebecca with their certificates and award.

(O’r chwith i’r dde) Samantha Stenhoff a Rebecca Kirkpatrick

I Portal Training, mae eu llwyddiant yn dangos sut y gall datblygu arweinyddiaeth yn y gweithle helpu gweithwyr addysg proffesiynol i gryfhau arferion, cefnogi cydweithwyr a chreu newid cadarnhaol yn eu hysgolion a’u cymunedau.

Dywedodd Gwawr Booth, Rheolwr Gyfarwyddwr Portal Training: “Pan gaiff dysgu ei gymhwyso yn y gweithle fel hyn, nid unigolion yn unig sy’n elwa – mae’n cryfhau timau, sefydliadau a’r sector ehangach.”

Portal Training

Yn ôl i’r brig

More News Articles

  —