Prentis o Bont-y-Pŵl yn ennill gwobr adeiladu genedlaethol

Postiwyd ar gan karen.smith

Russell Beale

Russell Beale

English | Cymraeg

Mae prentis adeiladu o Bont-y-pŵl, Russell Beale, yn dathlu ar ôl cael ei goroni’n Brentis Cymru’r Flwyddyn yn seremoni wobrwyo Prentisiaethau Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB).

Cafodd Russell ei gyflwyno â’i wobr yn y seremoni arbennig a gymerodd le yn Neuadd Merchant Taylors yn Llundain ar Dachwedd 9.

Mae Russell, sy’n 18 oed, yn gweithio fel Prentis Peiriannydd Sifil â Vinci Construction.

Gwnaeth agwedd Russell argraff ar y beirniaid, ynghyd â’i ysfa i wella bob dydd. Mae e hefyd wedi cymryd rôl oruchwyliol yn dilyn hyfforddiant pellach.

Mae’r Gwobrau Prentisiaeth CITB yn dathlu cyflawniadau prentisiaid CITB, a’u cyflogwyr. Cafodd yr enillwyr eu cyflwyno â’u gwobrau mewn seremoni a westeiwyd gan cyflwynydd newyddion BBC, Steph McGovern.

Meddai Russell Beale: “Dw i’n hapus dros ben fy mod wedi ennill – doeddwn i ddim yn ei ddisgwyl o gwbl. Roedd cael fy enwebi’n wych, ond mae hyn yn fendigedig! Dw i wedi dysgu cymaint yn fy mhrentisiaeth ac mae wedi bod yn wych, dw i’n edrych ymlaen at barhau â’m hastudiaethau. Byddwn yn annog unrhyw un sy’n meddwl am ddechrau prentisiaeth i roi cynnig arni. Hoffwn ddiolch i bawb yn CITB ac yn Vinci Construction am bopeth maen nhw wedi’i wneud i fi.”

Meddai Cyfarwyddwr Partneriaethau Strategol CITB Cymru, Mark Bodger: “Fel y darparwr mwyaf o brentisiaethau adeiladu yn y DU, mae’n bwysig ein bod yn cydnabod ymrwymiad prentisiaid ar draws y DU. Nid oes amheuaeth, mae prentisiaethau’n darparu llwybr ardderchog i mewn i adeiladu. Llongyfarchiadau i Russell am ennill teitl Prentis Cymru’r Flwyddyn.

I gael mwy o wybodaeth am yrfaoedd adeiladu, ewch i www.amadeiladu.org

Dysgwch fwy am brentisiaethau heddiw

More News Articles

  —