Llwyddiant WorldSkills i fyfyrwyr Coleg Caerdydd a’r Fro yn y Sioe Sgiliau

Postiwyd ar gan karen.smith

James Ackland

James Ackland

English | Cymraeg

Mae myfyrwyr Coleg Caerdydd a’r Fro ymhlith y rhai gorau yn y DU yn dilyn llu o lwyddiannau yn rowndiau terfynol WorldSkills.
Enillodd un fedal aur ac mae dau wedi cael eu dewis i gynrychioli Prydain Fawr yn WorldSkills Kazan 2018.

Cymerodd mwy na 450 o bobl ifanc ran mewn cystadlaethau a oedd yn rhoi sylw i 56 o sgiliau gwahanol, o adeiladu i letygarwch, yn ystod tridiau’r Sioe Sgiliau yn Birmingham o flaen miloedd o ymwelwyr.

Enillodd Anthony Cox fedal aur yng nghystadleuaeth yr Hyfforddwr Personol mewn Sgiliau Cynhwysol. Yn rhan o’r Sioe Sgiliau, nod Sgiliau Cynhwysol yw helpu i ddysgu sgiliau dysgu a chyflogadwyedd hanfodol ar gyfer y dyfodol i bobl sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.

Roedd rhaid i Anthony, myfyriwr Mynediad Galwedigaethol yn CCAF, roi cyfarwyddyd i gleient oedd newydd ddechrau yn y gampfa, gan ddangos sut i ddefnyddio offer fel y felin gerdded a dangos ymwybyddiaeth o ganllawiau iechyd a diogelwch. Wedyn cafodd brawf sgiliau.

“Roedd ganddyn nhw restr o weithgareddau ac roedd rhaid i mi eu gwneud nhw,” dywedodd Anthony, sy’n 17 oed ac yn byw yng Nghaerdydd. “Roedd rhestr o 12 ac fe wnaethon nhw ddweud wrtha’ i am ddewis 5, ond fe wnes i’r 12 i gyd – dyna sut wnes i ennill rwy’n credu.

“Roedd yn dda iawn – roedd yn gystadleuaeth dda. Roedd y cystadleuwyr eraill yn neis iawn ac roedd yn braf eu cyfarfod nhw. Roedd yn hwyl ac roedd Comicon drws nesaf ac roedd hynny’n grêt ac fe gefais i luniau.

“Fe wnes i fwynhau, a dweud y gwir. Roeddwn i’n barod – roeddwn i wedi paratoi ar gyfer y tridiau ymlaen llaw ac roeddwn i’n barod amdani. Yn nerfus, ond rydych chi’n mynd yn nerfus ym mhob cystadleuaeth. Roedd fy hyfforddwr i, Rich [Hyfforddwr Cryfder a Siapio CCAF, Rich Walters], o help mawr i mi; fe wnaeth e esbonio popeth oedd raid i mi ei wneud fel ei fod yn gwneud mwy o synnwyr.

“Rydw i’n falch iawn ac rydw i’n hoffi’r fedal aur – mae’n neis ac mae’n mynd i edrych yn dda ar fy CV i hefyd.

Mae Anthony, sydd wedi chwarae i Glwb Rygbi Pentyrch ac sy’n chwarae i Leision Caerdydd D18 erbyn hyn, eisiau dilyn yn ôl troed ei dad fel chwaraewr rygbi.

“Rydw i’n hoffi rygbi ac rydw i’n gwneud yn eithaf da – rydw i gyda’r Gleision,” esboniodd Anthony. “Rydw i’n gweld bod yn hyfforddwr personol fel rhywbeth wrth gefn fel bod gen i rywbeth i syrthio’n ôl arno os na fydd fy ngyrfa i mewn rygbi’n rhy llwyddiannus.

“Rydw i wedi cael fy magu ar rygbi fwy neu lai gan fy nhad oedd yn arfer chwarae ar lefel sirol ac fe gyflwynodd e fi i Bentyrch. Pan ymunais i â Choleg Caerdydd a’r Fro fe lwyddodd Martyn Fowler [Cyfarwyddwr yr Academi Rygbi] a’r hyfforddwyr eraill i fy nghael i i mewn i’r Gleision. Gobeithio y caf i gontract ac y galla’ i ddal ati i chwarae gyda’r Gleision ac, yn y diwedd, i Gymru – fe fyddwn i wrth fy modd gyda hynny. ’Fyddwn i ddim ble rydw i heddiw oni bai am Goleg Caerdydd a’r Fro.

“Felly rydw i eisiau dilyn yn ôl troed fy nhad ond ar lefel uwch – fe chwaraeodd e ar lefel sirol ac rydw i eisiau chwarae i Gymru. Mae hyfforddwyr y Coleg yn dweud bod gen i siawns oherwydd fy nhaldra; rydw i’n 6’ 8” ac yn 114 kg a dim ond 17 oed ydw i. O fwyta’r bwyd iawn a dal ati i ymarfer, mae fy hyfforddwyr i’n dweud y gallwn i fod yn 6’ 9” ac yn 19 neu 20 stôn erbyn i mi fod yn 20 oed.”

Yn y cyfamser, enillodd Connor Lewis fedal efydd yng nghystadleuaeth Gosodiadau Trydanol WorldSkills, cystadleuaeth y cymerodd ei frawd Tom ran ynddi hefyd. Mae’r efeilliaid 20 oed wedi cael eu dewis ar gyfer sgwad Prydain i fynd i WorldSkills Kazan 2019.

Hefyd enillodd James Ackland fedal efydd am Deilsio Waliau a Lloriau a chafodd ei gydfyfyriwr, Maziyar Pazouki, ganmoliaeth uchel. Yn y categori Ailorffen Cerbydau, enillodd Cory Maher gystadleuaeth Dylunio Bonet Sefydliad y Diwydiant Moduro.

“Doeddwn i ddim yn meddwl ’mod i’n mynd i ennill – roeddech chi’n gallu gwneud beth bynnag roeddech chi eisiau felly fe wnes i streipiau syml, sylfaenol ac ennill,” dywedodd Cory. “Doeddwn i ddim yn mwynhau i ddechrau – roedd gen i ofn! Ond ar ôl ychydig fe ddiflannodd y nerfau ac fe wnes i ddechrau mwynhau.

“Roedd y Sioe Sgiliau’n grêt ac roedd yn braf cyfarfod pobl newydd. Y rhan anoddaf oedd setlo i lawr a dechrau arni.”

Bob blwyddyn mae CCAF yn anfon ei staff arbenigol sydd â phrofiad o ddiwydiant i’r Sioe Sgiliau fel beirniaid. Eleni roedd y darlithwyr Moduro, Rich Hutchins, Pete Gibbons, Lee Summerhayes a Ben Young, yn feirniaid gan rannu eu profiad a helpu myfyrwyr y Coleg i gyrraedd y lefel uchel sy’n ofynnol yn y Sioe Sgiliau. Hefyd roedd cyn feirniaid, Pennaeth y Gwasanaethau Adeiladu Kevin Robinson a’r Darlithydd Teilsio Waliau a Lloriau Lee Randell, yn ogystal â’r Dirprwy Bennaeth Arlwyo, Lletygarwch a Gweithgynhyrchu Bwyd Eric Couturier a’r Pennaeth Sgiliau Byw’n Annibynnol Tom Snelgrove, wrth law i gynnig cefnogaeth i’r myfyrwyr.

Dysgwch fwy am brentisiaethau heddiw

More News Articles

  —