Prentisiaeth ar y cyd Sir Gaerfyrddin yn dathlu gwobr genedlaethol

Postiwyd ar gan karen.smith

Rheolwr rhanbarthol CCTAL, Anthony Rees gyda Kim Rees a Lynette Daniels a gwobr Cyflogwr Canolig ei Faint y Flwyddyn.

Mae cymdeithas yng Ngorllewin Cymru, sy’n rhedeg Rhaglen Brentisiaeth ar y Cyd i ddarparu llwybr i bobl ifanc sy’n dechrau yn y diwydiant adeiladu, wedi’i chydnabod yn sgil ennill gwobr genedlaethol fawreddog.

Enwyd Cymdeithas Hyfforddiant Adeiladu Sir Gaerfyrddin (CCTAL) yn Gyflogwr Canolig ei Faint y Flwyddyn yn seremoni uchel ei phroffil Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2014 a gynhaliwyd yng ngwesty’r Celtic Manor Resort, Casnewydd ar ddydd Gwener, 31 Hydref.

“Rydym mor falch o’r hyn rydym wedi’i gyflawni ac ymdrech y tîm sydd i’w phriodoli amdano,” meddai Anthony Rees, y rheolwr hyfforddi prosiectau. “Mae ennill y wobr hon yn rhoi’r proffil i ni greu cynllun hyd yn oed mwy a gwell i gyflogi mwy o bobl ifanc i’r dyfodol, a dyna beth yw pwrpas hyn i gyd.”

Trefnwyd y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Noddwyd y gwobrau gan Pearson PLC gyda chefnogaeth ei bartner yn y cyfryngau, Media Wales i arddangos rhagoriaeth mewn datblygiad sgiliau yng Nghymru gan ddysgwyr, cyflogwyr a darparwyr dysgu.

Mae’r gwobrau’n cydnabod cyflogwyr sy’n ymroi i ddatblygu eu gweithlu trwy brentisiaethau a rhaglenni dysgu seiliedig ar waith eraill, sy’n cefnogi gweithwyr yn ystod eu hyfforddiant. Maen nhw’n ffordd wych hefyd o werthuso hyfforddiant a datblygiad, yn ogystal â bod yn ffactor llawn cymhelliant gwych ar gyfer unrhyw weithlu neu ddysgwr.

Ariennir y Rhaglen Brentisiaeth yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru gyda chefnogaeth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Gwnaeth y gofid am gadw pobl ifanc a lefelau cymhwyster ar brentisiaethau crefftau traddodiadol yn y sir annog CCTAL i lansio Rhaglen Brentisiaeth ar y Cyd i fynd i’r afael â’r broblem.

Ar ôl saith mlynedd, mae’r rhaglen wedi recriwtio 140 o brentisiaid, y mae 53 ohonynt yn cael eu cyflogi trwy’r gymdeithas ar hyn o bryd. Cyflogwyd tri deg yn ystod y 12 mis diwethaf.

Cyflawnodd 29 o 30 prentis Brentisiaeth Sylfaen a chyflawnodd 26 o 27 prentis Brentisiaeth mewn Gosod Brics, Gwaith Saer, Gwaith Trydanol, Plastro a Phlymwaith y llynedd. Mae 23 o’r rhain wedi’u cyflogi gan gontractwyr lleol, mae tri mewn cynlluniau bwrsari mewn treftadaeth ac mae un wedi mynd yn gontractwr hunangyflogedig.

“Penderfynom sefydlu dull ar y cyd lle byddai cyflogwyr CCTAL a Chyngor Sir Caerfyrddin yn darparu hyfforddiant ar y safle o fewn eu busnesau a byddai Coleg Sir Gâr yn darparu hyfforddiant oddi ar y safle” meddai Mr. Rees.

Ers i’r rhaglen gael ei sefydlu mae wedi “rhagori o bell ffordd” ar ei disgwyliadau, gyda 90 y cant yn cyflawni eu prentisiaethau.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg, Julie James: “Mae’r prentisiaethau’n darparu cyfleoedd gwych i fusnesau a dysgwyr fel ei gilydd. Mae’n amlwg bod mwyfwy o sefydliadau, fel Cymdeithas Hyfforddiant Adeiladu Sir Gaerfyrddin, yn gweld manteision prentisiaethau.

“Mae cyflogwyr yn ymroi i ddatblygu eu gweithlu trwy brentisiaethau a rhaglenni dysgu seiliedig ar waith eraill, yn elwa ar weithwyr sgiliau uchel ac uchel eu cymhelliant. Yn y cyfamser, mae prentisiaid yn ennill cymwysterau uchel eu parch a phrofiad gwerthfawr o ofynion y gweithle.

Mynychodd dros 400 o randdeiliaid allweddol o’r sector addysg a hyfforddiant galwedigaethol ledled Cymru’r seremoni wobrwyo lle bu’r gwesteion yn gwledda gyda chogyddion Tîm Coginio Cenedlaethol Cymru.

More News Articles

  —