Darparwr dysgu yng Nghaerdydd yn ennill gwobr prentisiaeth genedlaethol

Postiwyd ar gan karen.smith

Rheolwr gweithrediadau Babcock Training Ltd, Michael Kent a’r rheolwr rhanbarthol ar gyfer sgiliau a gwasanaethau cymorth dysgu, Karen Buffey, gyda’r wobr.

Mae cwmni hyfforddiant yng Nghaerdydd, sy’n cyflwyno rhaglenni i dros 1,000 o ddysgwyr ledled Cymru, wedi casglu un o’r gwobrau mawreddog yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru 2014.

Enwyd Babcock Training Ltd yn Ddarparwr Prentisiaethau’r Flwyddyn yn y seremoni wobrwyo uchel ei phroffil yng ngwesty’r Celtic Manor Resort ar ddydd Gwener (31 Hydref).

Trefnwyd y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Noddwyd y gwobrau gan Pearson PLC gyda chefnogaeth ei bartner yn y cyfryngau, Media Wales i arddangos rhagoriaeth mewn datblygiad sgiliau yng Nghymru gan ddysgwyr, cyflogwyr a darparwyr dysgu.

Mae’r gwobrau’n cydnabod cyflogwyr sy’n ymroi i ddatblygu eu gweithlu trwy brentisiaethau a rhaglenni dysgu seiliedig ar waith eraill, sy’n cefnogi gweithwyr yn ystod eu hyfforddiant. Maen nhw’n ffordd wych hefyd o werthuso hyfforddiant a datblygiad, yn ogystal â bod yn ffactor llawn cymhelliant gwych ar gyfer unrhyw weithlu neu ddysgwr.

Ariennir y Rhaglen Brentisiaeth yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru gyda chefnogaeth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Cred Babcock Training Ltd, er mwyn cynyddu sgiliau personol a galwedigaethol y dysgwyr, rhaid wrth welliant parhaus yn eu profiad i ddysgu. Cafodd y cwmni, sy’n allweddol wrth gyflwyno Prentisiaethau Hamdden Egnïol ar gyfer Llywodraeth Cymru, gyfraddau llwyddiant wedi’u dilysu o 91 y cant cyfunol ar gyfer 2012/2013.

Mae’r prentisiaid yn elwa ar fuddsoddiad Babcock yn ei raglenni. Mae wedi ymgorffori atebion dysgwyr a chymorth digidol arweiniol yn y farchnad, platfform digidol wedi’i deilwra a chymorth bugeiliol dwys i gyflwyno gwybodaeth ddiduedd.

Canfu arolwg diweddar a gynhaliwyd gan y cwmni fod 95 y cant wedi gweld “gwelliant sylweddol” ym mherfformiad eu cyflogeion o ganlyniad i ffordd “arloesol ac ymatebol” y cwmni o gyflwyno’i Raglen Brentisiaeth.

“Mae’r wobr hon ar gyfer ein staff ac i’r dysgwyr a’r cyflogwyr y gweithiwn ar eu cyfer,” meddai rheolwr gweithrediadau balch Babcock Training, Michael Kent. “Rydym wedi cael ein cynnwys ar y rhestr fer ar gyfer y wobr hon dair neu bedair gwaith yn y gorffennol, ac felly mae ei hennill hi’n goron ar y cyfan ar ôl blwyddyn wych i’r cwmni.

“Fydden ni ddim wedi’i hennill hi heb y cyflogwyr gwych rydym yn gweithio gyda nhw ac mae’n gymeradwyaeth i’r gwaith caled y mae’r tîm wedi’i wneud dros y 18 mis diwethaf.”

Dywedodd Julie James, y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg: “Prentisiaethau yw un o’r ffyrdd mwyaf ymarferol a chost effeithiol i fusnes adeiladu gweithlu medrus. Gall prentis ddysgu’r sgiliau y mae ar gyflogwr eu hangen i gadw i fyny gyda’r datblygiadau yn eu diwydiant a chyflawni gofynion cwsmeriaid y gwasanaeth.

“Mae darparwyr fel Babcock Training yn chwarae rôl allweddol wrth helpu Llywodraeth Cymru i gyflwyno rhaglenni dysgu seiliedig ar waith i hyfforddi a datblygu gweithlu’r wlad.”

Mynychodd dros 400 o randdeiliaid allweddol o’r sector addysg a hyfforddiant galwedigaethol ledled Cymru’r seremoni wobrwyo lle bu’r gwesteion yn gwledda gyda chogyddion Tîm Coginio Cenedlaethol Cymru.

More News Articles

  —