Prentisiaeth yn talu ar ei ganfed i Dylan, y llysgennad ynni gwynt

Postiwyd ar gan karen.smith

Dylan Jones wants to become a role model for wind power industry.

Mae Dylan Jones eisiau bod yn fodel rôl i’r diwydiant ynni gwynt.

Mae penderfyniad Dylan Jones i ddilyn llwybr Prentisiaeth i yrfa fel technegydd tyrbinau gwynt yn talu ar ei ganfed wrth iddo gael ei benodi’n llysgennad i’w gyflogwr ac mae ganddo gyfle i ennill gwobr sylweddol yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru 2015.

Mae’r prentis 20 oed o Lantwymyn, ger Machynlleth, yn un o dri sydd wedi cael eu rhoi ar y rhestr fer yng nghategori Prentis Sylfaen y Flwyddyn yn y seremoni wobrwyo proffil uchel a gynhelir yng Ngwesty’r Celtic Manor, Casnewydd ar ddydd Iau, 29 Hydref.

Mae’r gwobrau blaenllaw yn dathlu cyflawniadau eithriadol y rheiny sydd wedi mynd y tu hwnt i’r disgwyliadau, wedi dangos ymagwedd ddeinamig tuag at yr hyfforddiant ac wedi dangos ysgogiad, menter, arloesedd, dawn greadigol ac ymrwymiad i wella sgiliau ar gyfer economi Cymru.

Caiff y gwobrau, a drefnir ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW), eu noddi gan Pearson PLC a phartner y cyfryngau yw Media Wales. Ariennir y Rhaglen Brentisiaeth yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop.

Mae Dylan, sy’n gweithio i RWE Innogy UK yn Llanidloes, wedi mynychu Coleg Llandrillo Menai, Llandrillo-yn-Rhos lle mae wedi rhagori.

Mae wedi cyflawni Prentisiaeth Sylfaen yn Cyflawni Gweithrediadau Peirianneg a Diploma Atodol BTEC mewn Peirianneg gyda rhagoriaeth, ynghyd â chymwysterau ychwanegol. Mae bellach yn bwriadu mynd ymlaen i wneud Prentisiaeth yn cynnal a chadw gweithrediadau tyrbinau gwynt.

Yn ystod ei gyfnod yn RWE Innogy UK, cynrychiolodd y cwmni ac mae wedi siarad mewn cyfarfod cynllunio cyhoeddus ar gyfer datblygiad fferm wynt arfaethedig yng Nghaerfyrddin, a gafodd ei gymeradwyo yn ddiweddarach.

Mae hefyd yn hyrwyddo ynni adnewyddadwy mewn sesiynau mewn ysgolion ac mae’n tywys grwpiau o ymwelwyr o amgylch canolfan tyrbinau gwynt y coleg. Pan nad yw yn y coleg, mae’n cefnogi technegwyr cymwys i wneud gwaith cynnal a chadw a gwasanaethu er mwyn sicrhau perfformiad gorau posibl tyrbinau gwynt.

Ar ôl cael hyfforddiant i weithio ar y dechnoleg ddiweddaraf yn y sector, yn cynnwys tyrbinau gwynt heb gerflychau, mae’n gobeithio bydd y wybodaeth yma’n helpu ei gwmni i ennill contractau cynnal a chadw newydd.

Yn wreiddiol, roedd yn bwriadu mynd i’r brifysgol ar ôl gadael Ysgol Bro Ddyfi, Machynlleth gyda phedwar cymhwyster Safon Uwch, ond dewisodd wneud Prentisiaeth ac ennill arian tra’n dysgu pan ddaeth cyfle i wneud hynny yn RWE Innogy UK.

“Penderfynais newid llwybr fy ngyrfa am fy mod yn teimlo y byddai dysgu mwy ymarferol yn fwy addas i mi ac rwyf wedi gallu ennill cyflog tra’n dysgu,” dywedodd Dylan. “Rwy’n berson ymarferol sy’n dysgu mwy trwy wneud y gwaith yn hytrach nag mewn darlithoedd.

“Pan welais yr hysbyseb am brentis technegydd tyrbinau gwynt, roeddwn yn gwybod mai dyna’r dewis gorau i mi, am ei fod yn ddiwydiant sy’n tyfu ger fy nghartref yr oeddwn wedi gobeithio bod yn rhan ohono ar ôl mynd i’r brifysgol.

“Byddwn wrth fy modd yn ennill gwobr Prentis Sylfaen y Flwyddyn er mwyn bod yn fodel rôl i’r diwydiant.”

Llongyfarchodd Julie James, y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg Dylan a’r 36 arall ddaeth i’r brig. “Mae gennym brentisiaid eithriadol yma yng Nghymru ac mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn llwyfan perffaith i ni ddathlu eu gwaith caled a’u cyflawniadau,” dywedodd.

“Mae darparwyr hyfforddiant a chyflogwyr sy’n mynd yr ail filltir i gefnogi eu prentisiaid yr un mor bwysig. Mae datblygu pobl ifanc medrus yn hanfodol i’n heconomi. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i raglenni hyfforddiant fel Prentisiaethau ond mae’n rhaid i fuddsoddiad fod yn gyfrifoldeb a rennir gyda’r sector addysg, busnesau ac unigolion.”

More News Articles

  —