Prentisiaid Urdd Gobaith Cymru’n hyfforddi i fod yn ‘un mewn miliwn’

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Rhodri Jones (centre), Urdd’s sports training officer, with apprentices Rhys Blacker, Caitlin Morgan, Rhodd-Alaw Parry and Jac Jenkins.

Rhodri Jones (canol), Swyddog Hyfforddiant yr Urdd, gyda’r prentisiaid Rhys Blacker, Caitlin Morgan, Rhodd-Alaw Parry a Jac Jenkins.

 Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynlluniau i sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn y flwyddyn 2050, mae Urdd Gobaith Cymru yn arwain y ffordd gyda Rhaglen Brentisiaethau arloesol.

Un o brif nodau’r Urdd yw cynnig cyfleoedd, trwy gyfrwng y Gymraeg, i holl bobl ifanc Cymru chwarae rhan gadarnhaol mewn cymdeithas gan feithrin sgiliau personol a chymdeithasol.

Mae Rhaglen Brentisiaethau’r Urdd yn rhoi cyfle i bobl weithio a hyfforddi yn y sector chwaraeon a gweithgareddau awyr agored trwy hyfforddiant NVQ, gan ddilyn Lefel 2 mewn Arwain Gweithgareddau yn y flwyddyn gyntaf a Lefel 3 mewn Datblygu Chwaraeon yn yr ail flwyddyn.

Yn awr, mae’r sefydliad wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru eleni. Bydd yn cystadlu i fod yn Gyflogwr Mawr y Flwyddyn yn y seremoni wobrwyo fawreddog yng Ngwesty Hamdden y Celtic Manor, Casnewydd ar 9 Tachwedd.

Bwriad y gwobrau blynyddol yw arddangos a dathlu llwyddiant eithriadol dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.

Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) ac fe’u cefnogir gan Media Wales, y partner yn y cyfryngau. Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Mae 30 o gyflogwyr, dysgwyr a darparwyr dysgu o bob rhan o Gymru wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru.

Fel is-gontractor i ACT Limited, mae Urdd Gobaith Cymru yn gyflogwr ac yn ddarparwr dysgu ac, ar hyn o bryd, mae 34 o brentisiaid ar ei lyfrau, yn cynnwys 24 o brentisiaid mewnol a 10 yn dilyn y Ddarpariaeth Prentisiaethau Allanol a gynigir ganddo. Cafodd dros 68 eu recriwtio ers lansio’r cynllun bum mlynedd yn ôl.

“Mae’r rhaglen eisoes yn dwyn ffrwyth ac mae gan ein prentisiaid ifanc gysylltiad cryf â’r bobl ifanc yn eu cymunedau,” meddai Gary Lewis, cyfarwyddwr chwaraeon a phrentisiaethau’r Urdd. “Er enghraifft, yn y chwe mis ers i’n prentis ddechrau gweithio yn ardal Ynys Môn, mae nifer y plant sy’n ymwneud â’n clybiau wythnosol yno wedi codi 100%.

“Trwy Gymru, mae gennym dros 8,000 o blant yn cymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon bob wythnos ac mae ein Rhaglen Brentisiaethau wedi bod yn allweddol er mwyn cyrraedd cynifer o blant a phobl ifanc.”

Mae’r Urdd wedi gosod nod o ddatblygu ei weithlu yn y dyfodol gyda gweledigaeth glir ar gyfer 100 o brentisiaid erbyn canmlwyddiant y mudiad yn y flwyddyn 2022. Cafodd strategaeth brentisiaethau ei chreu i lywio a datblygu prentisiaethau mewn sectorau newydd trwy’r mudiad cyfan.

Wrth longyfarch Urdd Gobaith Cymru ar gyrraedd y rhestr fer, dywedodd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu gydol Oes, Eluned Morgan: “Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn tynnu sylw at lwyddiant Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru a’r hyn y mae ein prentisiaid, ein cyflogwyr, ein darparwyr dysgu a’n hyfforddeion disglair wedi’i gyflawni.

“Mae prentisiaethau’n ffordd wych i unigolion feithrin sgiliau gwerthfawr a phrofiad ac ennill cyflog ar yr un pryd, ac i gyflogwyr sicrhau bod y sgiliau angenrheidiol gan eu gweithlu i baratoi’r busnes ar gyfer y dyfodol.

“Ni fu erioed yn bwysicach cynyddu sgiliau lefel uwch a datblygu llwybrau sgiliau er budd Cymru gyfan.”

Darllenwch fwy am y rhai sydd yn rownd derfynol
Gwobrau Prentisiaethau Cymru

More News Articles

  —