Newyddion oddi wrth Bartneriaeth Sgiliau Prifddinas Ranbarth Caerdydd

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Pobl wrthi’n gweithio

Mapio Gwybodaeth, Cyngor ac Arweiniad am Yrfaoedd

Trwy Gynllun Cyflogaeth a Sgiliau 2019-22, mae Partneriaeth Sgiliau Prifddinas Ranbarth Caerdydd (PSPRC) wedi penderfynu ar thema syllfaenol, sef ‘Sefydlu dulliau mwy effeithiol o ymdrin â gwybodaeth, cyngor ac arweiniad gyrfaoedd er mwyn mynd i’r afael ag anawsterau o ran canfyddiad pobl o wahanol sectorau a hyrwyddo’r sectorau allweddol fel opsiynau gyrfa hyfyw’.

Yn y cyd-destun hwn, mae PSPRC wedi cefnogi datblygiad Cynllun Graddedigion PRC ynghyd â chynlluniau lleol eraill fel Addewid Caerdydd a rhaglenni cenedlaethol yn cynnwys y ‘Gyfnewidfa Addysg Busnes’ a ‘Dosbarth Busnes’. Yn ogystal, mae PSPRC yn awyddus i:

  • Annog busnesau i ymgysylltu ag ysgolion yn barod ar gyfer cyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru yn 2022.
  • Cefnogi Gyrfa Cymru wrth sicrhau bod y llwybrau academaidd a galwedigaethol yn cael yr un parch.
  • Cydweithio â grwpiau sector i baratoi adnoddau gyrfaoedd sector-benodol er mwyn mynd i’r afael â chamdybiaethau yng nghanfyddiad pobl o ddiwydiant ac â’r anghydbwysedd rhwng y rhywiau.

Ym mis Hydref 2020, dywedodd rhanddeiliaid wrth PSPRC fod cyflogwyr, ar y cyfan, yn wynebu yr un fath o heriau o ran gyrfaoedd. Dyma rai ohonynt: ysgolion yn canolbwyntio gormod ar fesurau cyrhaeddiad, sicrhau bod y wybodaeth, y cyngor a’r arweiniad a roddir i bobl ifanc yn berthnasol, a’r angen i ddatblygu gwell cysylltiadau rhwng ysgolion a diwydiant a mynd i’r afael â chanfyddiadau hen ffasiwn am wahanol sectorau.

Er mwyn ceisio mynd i’r afael â’r heriau hyn, mae PSPRC wedi bod yn cydweithio â Gyrfa Cymru ac wedi comisiynu Wavehill i arwain prosiect ymchwil strategol i fapio gweithgareddau’n ymwneud â’r wybodaeth, y cyngor a’r arweiniad am yrfaoedd a roddir o dan gyfarwyddyd cyflogwyr ar draws sectorau blaenoriaeth PSPRC. Daeth y prosiect hwn i ben ym mis Hydref 2021 gan nodi arferion da, astudiaethau achos a bylchau posibl y mae angen mynd i’r afael â nhw yn y dyfodol.
CIAG Skills Report – November 2021 (Saesneg yn unig)

Cyfrannu at lwybr Llywodraeth Cymru at adferiad ar ôl Covid-19:

Mae Covid-19 (coronafeirws) wedi cael effaith sylweddol ar yr economi a’r agenda sgiliau ers i’r achosion ddechrau tua mis Ionawr 2020.

Er mwyn cael gwell dealltwriaeth o’r effaith ar sgiliau, mae PSPRC wedi parhau i drafod gyda chyflogwyr allweddol ledled rhanbarth y De-ddwyrain i gael Gwybodaeth feddal am y Farchnad Lafur (LMI) ac i gynghori Llywodraeth Cymru sut i flaenoriaethu cyllid sgiliau yn y dyfodol er mwyn cyfrannu at system sgiliau seiliedig ar alw.

Ers i’r adroddiad diweddaraf ar Effaith Covid-19 gael ei gyflwyno (Mai 2021), mae PSPRC wedi bod yn ymwneud eto â chyflogwyr yn y rhanbarth er mwyn deall yn well yr heriau parhaus sy’n gysylltiedig â sgiliau. Casglwyd gwybodaeth feddal sydd wedi cyfrannu at yr adroddiad diweddaraf a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru ddiwedd Hydref 2021.

Mae’r adroddiadau hyn yn cael eu defnyddio wrth baratoi’r llwybr at adferiad ac maent yn canolbwyntio’n benodol ar staffio, recriwtio, y galw am sgiliau a chamgymharu sgiliau, hyfforddiant mewnol a dysgu seiliedig ar waith.
Welsh Government COVID-19 Report – October 2021 (Saesneg yn unig)

Digwyddiad ‘Eich Gyrfa, Eich Dyfodol’:

Bu PSPRC yn cydweithio â Gyrfa Cymru a’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) i gynnal digwyddiad gyrfaoedd digidol llwyddiannus ar 20 Hydref. Cynhaliwyd digwyddiadau yn y gogledd, y canolbarth a’r de-orllewin hefyd gan y gwahanol Bartneriaethau Sgiliau Rhanbarthol.

Targedwyd y digwyddiad at unigolion yr oedd pandemig Covid-19 wedi amharu arnynt, ac a allai fod mewn perygl o golli eu swyddi ar ddiwedd Cynllun Cadw Swyddi Llywodraeth y DU.

Cynhaliwyd y digwyddiad rhithwir ar blatfform digidol ac roedd yn cynnwys arddangosfeydd byw i ddangos cyfleoedd am yrfaoedd ar draws sectorau blaenoriaeth PSPRC. Roedd cyflogwyr, darparwyr hyfforddiant a sefydliadau cymorth cyflogaeth yn gallu hyrwyddo swyddi gwag mewn meysydd amrywiol wrth ddarpar ymgeiswyr a chafwyd cyfraniadau arbenigol gan Glwstwr CS Connected, y CITB, Cymru Greadigol, Gofal Cymdeithasol Cymru, Springboard, a’r Gymdeithas Cludo ar y Ffyrdd.
Eich Gyrfa, Eich Dyfodol

Cyhoeddiadau Partneriaeth Sgiliau Prifddinas Ranbarth Caerdydd
Prifddinas Ranbarth Caerdydd

More News Articles

  —