Defnyddio’r Gymraeg yn y Gweithle
Penodwyd deuddeg Llysgennad Prentisiaethau gyda’r nod o ysbrydoli prentisiaid eraill a darpar brentisiaid i ddefnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle, ac i ystyried gwneud rhan o’u prentisiaeth neu eu prentisiaeth gyfan trwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae’r Llysgenhadon yn cynrychioli amryw o sectorau galwedigaethol, gan gynnwys sectorau blaenoriaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer prentisiaethau Cymraeg a dwyieithog – Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Blynyddoedd Cynnar, Adeiladu ac Amaethyddiaeth.
Mae’r prosiect, sydd bellach yn ei drydedd flwyddyn, yn cael ei ariannu gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae dau o’n llysgenhadon yn dychwelyd am dymor ychwanegol – Gethin am ail flwyddyn, ac Ifan am drydedd flwyddyn.
Bu’r Llysgenhadon mewn sesiwn hyfforddi rithwir lle cawsant wrando ar siaradwyr ysbrydoledig. Yn ystod eu cyfnod fel llysgenhadon i NTfW a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, byddant yn cael creu negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol a rhannu eu profiadau er mwyn ysbrydoli eraill. Byddant hefyd yn ysgrifennu blogiau, yn ffilmio vlogiau, ac yn cyfrannu at drafodaethau ar y radio a/neu’r teledu.
Cafodd llawer o’r Llysgenhadon Prentisiaethau gyfle i gymryd y llyw ar gyfrif Instagram rhwng 25 a 29 Hydref 2021.
Dangosodd Gethin, sy’n brentis plymer gydag Aber Heating Engineers Ltd, sut mae’n defnyddio’r Gymraeg ar safleoedd gwaith gyda’i gydweithwyr. Rhannodd Jack, sy’n brentis cogydd yn Sage Kitchen, Porthaethwy, glipiau ohono’i hun yn gwneud croquettes cig oen a phroffiterolau; a chyflwynodd Cedron, sy’n brentis cyfieithydd, y fersiwn Gymraeg o ‘Careersville’ (Tregyrfa) ar wefan AaGIC. Mae Tregyrfa’n ‘dref’ ryngweithiol lle cewch ddysgu mwy am yr holl wahanol fathau o yrfaoedd yn y Sector Gofal, a sut y gallwch ennill cymwysterau ar gyfer y gwahanol swyddi.
Cewch weld eu straeon yn yr uchafbwyntiau ‘Prentisiaethau’.
Dilynwch #CymraegYnYGweithle #WelshAtWork ar Twitter ac Instagram i gael y newyddion diweddaraf gan y Llysgenhadon.
Llysgenhadon Prentisiaid 2021 – 2022
Enw | Prentisiaeth | Cyflogwr | Darparwyr Hyfforddiant |
Ben Pittaway | Saer Coed, Galwedigaethau Pren Lefel 3 | D C Carpentry | |
Catrin Morgan | Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant Lefel 3 | Cylch Meithrin Eglwys Gymunedol Bont | |
Cedron Sion | Dehongli a Chyfieithu | Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) | |
Elen Lewis | Iechyd a Gofal Cymdeithasol | Blaenmarlais Care Home | |
Ella Davies | Arwain Gweithgareddau Lefel 2 | Urdd Gobaith Cymru | |
Gethin Evans | Plymio a Gwresogi | Aber Heating Engineers Ltd | |
Ifan Phillips | Gosod Trydanol | D.E. Phillips & Son Ltd | |
Jack Quinney | Coginio Proffesiynol | Sage Kitchen | |
Kameron Harrhy | Dysgu a Datblygu | ACT Ltd | |
Ryan Williams | Paratoi ar gyfer Arwain a Rheoli ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol | Gellinudd Recovery Centre | |
Sion Jones | Galwedigaethau Pren | Owen Evans Carpentry | |
Sioned Williams | Arwain a Rheoli Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant | Meithrinfa Twtlol |
More News Articles
« Newyddion oddi wrth Bartneriaeth Sgiliau Prifddinas Ranbarth Caerdydd — Pob Cam »