Pwyslais meithrinfa o Gasnewydd ar ddatblygu’r staff a’r plant

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Archway Court Nursery owner Gill Jones (front) with manager Chloe Yates with staff members  Hayley Edwards, Philippa Evans.

Perchennog meithrinfa Archway Court, Gill Jones (yn y blaen) gyda’r rheolwr, Chloe Yates ac aelodau o’r staff, Hayley Edwards a Philippa Evans.

Mae meithrinfa lwyddiannus o Gasnewydd yn defnyddio Rhaglen Brentisiaethau Llywodraeth Cymru i gefnogi datblygiad ei staff a’r plant y mae’n gofalu amdanynt.

Sefydlwyd meithrinfa Archway Court yn 1993 ac mae’n cyflogi 37 aelod o staff, llawn amser a rhan amser, gan gynnig swyddi hyblyg sy’n addas ar gyfer amgylchiadau personol y gweithwyr. Mae’r feithrinfa’n gofalu am rhwng 60 a 70 o blant bob dydd.

Ers iddi ddechrau cynnig prentisiaethau yn 2014, mae’r feithrinfa wedi cofrestru 17 aelod o staff ar y rhaglen. Mae’r hyfforddiant yn amrywio o Brentisiaeth Sylfaen mewn Gwaith Chwarae i Brentisiaeth Uwch Lefel 5 mewn Gofal, Datblygiad ac Addysg Plant, a gyflenwir gan y darparwr hyfforddiant Itec Skills and Employment.

Mae’r feithrinfa wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru a bydd yn cystadlu i fod yn Gyflogwr Bach y Flwyddyn yn y seremoni wobrwyo fawreddog yn y Celtic Manor, Casnewydd, ar 20 Hydref.

Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) ac fe’u noddir gan Pearson PLC a’u cefnogi gan Media Wales, y partner yn y cyfryngau.

Mae 30 o ddysgwyr, cyflogwyr a darparwyr dysgu sydd wedi serennu mewn nifer o raglenni sgiliau llwyddiannus ledled Cymru wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru.

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Mae’r gwobrau’n arddangos ac yn dathlu llwyddiant eithriadol dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.

Mae meithrinfa Archway Court yn arbenigo mewn dull dysgu ymarferol, gyda’r prentisiaid yn cael profiad yn y gweithle. Cefnogir y prentisiaid gan aseswyr medrus ac maent yn datblygu’n ymarferwyr o safon uchel sy’n cyfoethogi profiad dysgu’r plant.

Caiff rhaglenni hyfforddi eu haddasu ar gyfer dull dysgu’r unigolyn a rhoddir amser penodol i gwblhau’r gwaith heb ymyrryd â bywyd personol y gweithiwr. Rhoddir cymorth parhaus i sichrau nad yw’r llwyth gwaith yn ormodol a’i fod yn addas ar gyfer sefyllfa’r gweithiwr a dewisir dysgwyr sy’n rhagori yn ystod eu prentisiaeth i symud ymlaen yn eu gyrfa.

Mae pobl dros 25 oed sy’n dymuno newid gyrfa neu nad oedd yn rhagori yn yr ysgol yn cael cyfle i ddysgu a disgleirio yn y feithrinfa.

Dywedodd David Clissitt, pennaeth prentiaethau yn Itec Skills and Employment: “Mae Archway Court yn defnyddio’r Rhaglen Brentisiaethau i dynnu’r gorau o bob dysgwr ac, fel busnes, maen nhw bob amser yn chwilio am ffyrdd o wella.”

Wrth ganmol safon uchel yr ymgeiswyr eleni a llongyfarch Archway Court ar gyrraedd y rhestr fer, dywedodd y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James: “Mae’r rhai sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni yn cynnwys unigolion eithriadol sydd wedi rhagori yn eu gweithle, a darparwyr dysgu a chyflogwyr sydd wedi mynd yr ail filltir i gefnogi’r prentisiaid sy’n gweithio gyda nhw. Mae eu straeon bob amser yn rhyfeddol ac yn ysbrydoliaeth.

“Mae prentisiaethau a hyfforddiant sgiliau galwedigaethol yn rhan hanfodol o lwyddiant economaidd ac yn anhepgor er mwyn adeiladu Cymru sy’n gryfach, yn decach ac y fwy cyfartal.

“Mae’r gwobrau hyn yn llwyfan delfrydol ar gyfer dathlu llwyddiant a gwobrwyo gwaith caled ac ymroddiad dysgwyr, cyflogwyr a darparwyr hyfforddiant ledled Cymru. Dymuniadau gorau i bawb ar y noson.”

More News Articles

  —