Diwygio Cymwysterau Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Mae cyfres newydd o gymwysterau adeiladu a’r amgylchedd adeiledig yn cael eu datblygu er mwyn diwallu anghenion sgiliau Cymru ar gyfer dysgwyr mewn ysgolion, colegau ac ar brentisiaethau. Gan ddechrau ym mis Medi 2021, bydd y cymwysterau newydd yn cynig dilyniant clir o ddysgu i gyflogaeth yn y sector. Adeiladu a’r amgylchedd adeiledig yw un o’r sectorau cyflogaeth pwysicaf yng Nghymru.

Gweithio Gyda Rhanddeiliaid yn y Diwydiant
Mae cynrychiolwyr y diwydiant yn bwysig i lwyddiant y gyfres newydd hon o gymwysterau. Mae’r wybodaeth a’r cymwyseddau sy’n cael eu cynnwys yn y cymwysterau’n cael eu llunio gan gyflogwyr yng Nghymru. Drwy weithio gyda CITB, BESA, ECA, APHC a Cadw ymysg eraill, byddwn yn sicrhau bod yr hyn a ddysgir yn berthnasol i’r hyn sydd ei angen ar y diwydiant o ran eu recriwtiaid, gan leihau’r angen am ailhyfforddi unwaith y bydd dysgwr yn symud i fyd gwaith.

Y Cymwysterau

Iaith Gymraeg Lewyrchus. Bydd llawer o ddysgwyr yn dymuno astudio drwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae ein cymwysterau newydd a’n deunydd cymorth swyddogol a’n cymwysterau prentisiaeth yn helpu i gefnogi ein cenedl ddwyieithog drwy sicrhau y bydd modd i bob dysgwr gael ei asesu yn y Gymraeg a/neu’r Saesneg.

Bydd cymwysterau TGAU ac UG/Safon Uwch Amgylchedd Adeiledig newydd yn cael eu cyflwyno mewn ysgolion a cholegau. Mae’r cymwysterau hyn yn rhoi blas o sgiliau ymarferol ac yn cyflwyno gwybodaeth a dealltwriaeth o adeiladau a’r diwydiant adeiladu a fydd yn werthfawr i ddysgwyr sy’n mynd ymlaen i addysg bellach neu uwch. Bydd y lefel UG/Safon Uwch newydd arloesol o ran darparu llwybr newydd cyffrous i raglenni gradd fel tirfesur, pensaernïaeth a rheoli adeiladu.

Bydd y cymhwyster Sylfaen newydd mewn Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig yn rhoi cyflwyniad eang i ddysgwyr i’r sector cyfan, gan gynnwys datblygu eu sgiliau cyflogadwyedd a’u gallu i gyflawni tasgau mewn ffyrdd sy’n diogelu iechyd, diogelwch a llesiant. Bydd y dysgwyr hefyd yn datblygu sgiliau ymarferol rhagarweiniol mewn dau faes crefft, gan eu galluogi i wneud dewis gwybodus ynglŷn â’u crefft yn y dyfodol a defnyddio’r sgiliau hyn yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol. Ar ôl cwblhau’r Sylfaen, bydd dysgwyr wedi eu paratoi’n dda ar gyfer dechrau prentisiaeth. Mae’r cymhwyster hwn wedi’i gynllunio’n bennaf ar gyfer astudio’n llawn amser a bydd yn cael ei ddyfarnu ar lefel 2.

Mae’r Cymhwyster Dilyniant yn darparu llwybr i ddysgwyr ddatblygu eu sgiliau ymhellach mewn addysg bellach am flwyddyn arall, os nad ydynt yn symud ymlaen yn uniongyrchol i brentisiaeth ar ôl cwblhau eu cymhwyster Sylfaen. Mae dysgwyr yn arbenigo mewn un grefft, gan ddatblygu eu gwybodaeth, eu sgiliau a’u dealltwriaeth o arfer cyfredol yn y grefft a newidiadau dros amser, tra hefyd yn parhau i ddatblygu eu sgiliau cyflogadwyedd ehangach.

Mae’r Cymhwyster Prentisiaeth yn addas ar gyfer dysgwyr sydd am ddilyn ystod eang o lwybrau crefft. Maent yn caniatáu i ddysgwyr ddangos ystod eu gwybodaeth dechnegol, eu sgiliau a’u dealltwriaeth yn eu crefft arbenigol, gan gynnwys y safonau galwedigaethol cenedlaethol ar gyfer y grefft honno. Bydd dysgwyr hefyd yn astudio arferion y sector yng Nghymru.

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiad y cymwysterau hyn ymunwch â rhestr bost cylchlythyr Y Llechen.

Am fwy o wybodaeth ymwelwch â gwefannau Sgiliau i Gymru, CBAC a Cymwysterau Cymru.

More News Articles

  —