Siarad yn Broffesiynol 2021: Tyfu i Fyny yn Ddigidol

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Cynhelir darlith flynyddol Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) mewn partneriaeth ag Ysgol Addysg Prifysgol Abertawe nos Fawrth 26 Ionawr 2021 am 7 o’r gloch.

Yn y digwyddiad ar-lein hwn, bydd arbenigwr addysg bydenwog yr Athro Pasi Sahlberg yn tynnu ar ganfyddiadau cynnar ymchwil rhyngwladol cyffrous i archwilio barn addysgwyr am blant, dysgu digidol, iechyd a dysgu. Bydd yn ein gwahodd i gael trafodaeth mwy goleuedig ynglŷn â sut y gallwn helpu pobl ifanc i fyw bywydau hapusach, mwy diogel a mwy cyfrifol gyda thechnolegau digidol.

Ac yntau’n addysgwr mawr ei wobrau o’r Ffindir, mae’r Athro Pasi Sahlberg yn athro ysgol, addysgwr athrawon, ymchwilwr ac ymgynghorydd polisi profiadol. Mae hefyd wedi astudio systemau addysg a chynghori arweinwyr addysg ledled y byd.

Mae’r digwyddiad hwn yn gyfle dysgu gwerthfawr i holl ymarferwyr a rhanddeiliaid, ac yn enwedig y rheiny sydd â chyfrifoldeb penodol dros hyrwyddo iechyd a lles dysgwyr.

Yn ystod y digwyddiad hwn, sy’n rhy dda i’w golli, bydd cyfle i gyfranogwyr ofyn eu cwestiynau ar ôl y ddarlith mewn sesiwn holi ac ateb byw. Cadwch le nawr.

More News Articles

  —