![](/images/banner-news.jpg)
Cymwysterau Cymru – Ymgynghoriad TGAU ac Arolwg Adolygiad Cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru
Penderfyniadau’r ymgynghoriad TGAU i ddod cyn hir
Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus helaeth yn ystod tymor yr hydref 2022 ar gyfres newydd o gymwysterau TGAU Gwnaed-i-Gymru, mae Cymwysterau Cymru yn paratoi i gyhoeddi eu hadroddiadau canlyniadau a phenderfyniadau ddydd Mercher 28 Mehefin 2023.
Bydd y cymwysterau TGAU newydd yn cyd-fynd ag addysgu’r Cwricwlwm i Gymru. Byddant yn galluogi dysgwyr i gael y gorau o’r Cwricwlwm a’u paratoi ar gyfer bywyd, dysgu a gwaith yn ein cymdeithas fodern.
I ddysgu rhagor am ein penderfyniadau TGAU, cofrestrwch nawr ar gyfer ein gweminar ar 29 Mehefin 2023: GCSEFindingsandDecisionsOverviewWebinar.eventbrite.co.uk
Byddwn hefyd yn cynnal gweminarau Maes Dysgu a Phrofiad unigol i roi mwy o fanylion am y canfyddiadau a’r penderfyniadau yn y meysydd pwnc hynny. Mwy o fanylion yma: Digwyddiadau ac Adnoddau
Arolwg Adolygiad Cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru
Mae Cymwysterau Cymru eisiau clywed eich barn ar gymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru.
Rydym am glywed gan gynifer o gyflogwyr, dysgwyr, darparwyr dysgu a phartïon eraill â diddordeb â phosib. Plîs rhannwch yr arolwg gyda’ch staff, yn ogystal ag unrhyw ddysgwyr a phrentisiaid.
Mae’r arolwg yn cau am 7 Gorffennaf 2023.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â: SgiliauHanfodolCymru@cymwysterau.cymru
Dweud eich dweud: dweudeichdweud.cymwysterau.cymru/adolygiad-o-gymwysterau-sgiliau-hanfodol-cymru
More News Articles
« Newyddion haf Cyngor y Gweithlu Addysg — Mae prentisiaeth mewn Rheoli Ynni yn cwrdd ag anghenion cynaliadwyedd busnesau »