
Cadeirydd Newydd Cymwysterau Cymru
Rydym yn falch o gyhoeddi penodiad Paul Bevan yn Gadeirydd newydd ei Fwrdd, yn weithredol o 1 Hydref 2025. Bydd Paul yn olynu David Jones OBE y daw ei gyfnod yn Gadeirydd i ben ddiwedd mis Medi.
Wrth i ni groesawu Paul i’w rôl newydd, edrychwn ymlaen at adeiladu ar y sylfeini cadarn a sefydlwyd gan David ac at barhau i hyrwyddo gwaith Cymwysterau Cymru.
Canlyniadau’r haf 2025
Ym mis Awst, dyfarnwyd 378,810 o raddau UG, Safon Uwch a TGAU i ddysgwyr yng Nghymru, ynghyd â llawer mwy o raddau cymwysterau galwedigaethol. Os hoffech gal rhagor o wybodaeth am ganlyniadau’r haf, ewch i’n gwefan.
Strategaeth y Gymraeg 2025-30
Ym mis Awst lansiodd ein Strategaeth y Gymraeg 2025-30 newydd yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam, gan gyrraedd carreg milltir sylweddol yn ein hymrwymiad i ymgorffori’r Gymraeg a dwyieithrwydd yn rhan graidd o’r system gymwysterau.
Mae’n datblygu ar waith y strategaeth flaenorol Dewis i Bawb ac yn adlewyrchu rôl esblygol y sefydliad fel rheoleiddiwr a diwygiwr cymwysterau mewn cenedl ddwyieithog.
Diwygio cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru
Ar ôl ein trafodaethau ym mis Gorffennaf gyda ystod o ddarparwyr am gynnwys cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru ar lefel 1 a lefel 2 mewn Cyfathrebu, Cymhwyso Rhif, a Llythrennedd Digidol, rydym bellach yn cynnal cyfarfodydd ar-lein ym mis Medi i gasglu barn ar asesu’r cymwysterau a addaswyd.
Bydd y trafodaethau hyn yn helpu i lunio’r ymgynghoriad sydd ar y gweill, a gynhelir ym mis Tachwedd. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â sgiliauhanfodolcymru@cymwysterau.cymru.
More News Articles
« Diweddariadau gan CGA — Prentisiaeth yn lansio gyrfa effeithiau arbennig yr enillydd gwobr Will »