Rhaglen Brentisiaethau cyngor yn dal i ffynnu

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

RTC Council

Sian Woolson, rheolwr addysg, cyflogaeth a hyfforddiant Cyngor Rhondda Cynon Taf gyda’r cydlynydd prentisiaid a graddedigion Maria Jones.

Er gwaethaf heriau pandemig byd-eang a Storm Dennis, a effeithiodd ar 1,500 o gartrefi a busnesau ledled yr ardal, mae Rhaglen Brentisiaethau Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi ffynnu.

Gan fod y rhaglen wedi’i sefydlu ers naw mlynedd, llwyddodd y cyngor i ymateb yn sydyn. Trefnwyd i’r 80 o brentisiaid weithio gartref a darparwyd gliniaduron, desgiau, cadeiriau ac offer arall ar eu cyfer, ac aeth y darparwyr hyfforddiant ati i drefnu i ddysgu o bell a chynnig estyniadau i gyrsiau a dyddiadau cau.

Mewn ymateb i Storm Dennis, a achosodd ddifrod i ffyrdd, pontydd a chanol trefi yn yr ardal fis Chwefror diwethaf, mae’r cyngor wedi recriwtio pedwar prentis ychwanegol mewn peirianneg sifil. Bydd un o’r rhain yn gweithio’n benodol ym maes rheoli risgiau llifogydd.

Gyda’r fath ymrwymiad i hyfforddiant, nid yw’n syndod bod cyfradd cwblhau prentisiaethau gyda’r cyngor yn 94%, gyda bron wyth o bob deg prentis yn mynd ymlaen i weithio gyda’r cyngor.

Oherwydd ei ymroddiad i brentisiaethau, mae’r cyngor wedi cyrraedd y rhestr fer am wobr Macro-gyflogwr y Flwyddyn yng ngornest fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2021.

Yn y dathliad blynyddol hwn o lwyddiant eithriadol ym maes hyfforddiant a phrentisiaethau, mae 35 o ymgeiswyr wedi cyrraedd y rhestrau byrion mewn 12 categori. Cyhoeddir enwau’r enillwyr mewn seremoni wobrwyo ddigidol ar 29 Ebrill.

Y gwobrau yw uchafbwynt blwyddyn byd dysgu seiliedig ar waith. Maent yn rhoi sylw i fusnesau ac unigolion sydd wedi rhagori yn Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru ac wedi mynd yr ail filltir i lwyddo yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig a chwmni sy’n frwd o blaid prentisiaethau, yw’r prif noddwr eleni eto.

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).

Mae’r cyngor, ar y cyd â gwahanol bartneriaid hyfforddi, yn cynnig Fframweithiau Prentisiaethau mewn 15 disgyblaeth, yn cynnwys Busnes a Gweinyddu, Telathrebu, Garddwriaeth a Rheoli.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, bu’n bwysig i’r prentisiaid fod yn hyblyg. Mae prentisiaid wedi’u hadleoli i gefnogi gwasanaethau hanfodol yn y gymuned, bu rhai’n cydweithio â’r GIG ar ddata am bobl sy’n gorfod eu gwarchod eu hunain rhag y coronafeirws, ac mae rhai wedi bod yn dosbarthu parseli bwyd.

Dywedodd Sian Woolson, rheolwr addysg, cyflogaeth a hyfforddiant gyda’r Cyngor: “Un o’r pethau arloesol rydyn ni wedi’i wneud yw ffurfio grwpiau gweithio tridarn rhwng y dysgwr, cydlynydd y rhaglen a’r darparwr hyfforddiant. Mae hyn wedi helpu 36 o brentisiaid i gwblhau eu Fframweithiau er gwaethaf cyfnod cloi’r gwanwyn.”

Ac meddai Helena Williams, cyfarwyddwr gyda’r darparwr hyfforddiant ALS Training yng Nghaerdydd: “Mae Rhondda Cynon Taf yn cynnig cyfleoedd i ymgeiswyr o bob cefndir a phob lefel gallu i ddysgu a datblygu trwy brentisiaeth mewn sefydliad deinamig a blaengar.”

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: “Mae ein Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau yn helpu pobl i gyflawni eu huchelgeisiau am yrfa ac rwyf wrth fy modd ein bod eisoes wedi cyrraedd ein nod o greu 100,000 o brentisiaethau yn nhymor y Senedd hon.

“Bu hyn yn allweddol wrth helpu prentisiaid o bob oed i ennill sgiliau a phrofiad pwysig y gwyddom fod ar fusnesau ym mhob sector o’r economi yng Nghymru eu gwir angen. Bydd hyn yn hanfodol wrth i ni ddod allan o gyfnod y pandemig.

“Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn gyfle gwych i ddathlu ac arddangos yr hyn a gyflawnwyd gan bawb, o brentisiaid disglair i ddarparwyr dysgu medrus.

“Hoffwn longyfarch pawb sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni a dymuno’n dda i bob un ohonynt yn y dyfodol.”

More News Articles

  —