Cyn-reolwr meithrinfa yn meithrin y genhedlaeth nesaf

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Rebecca Strange, cariad at ofal plant.

O feddwl am ei hangerdd dros ofal plant a’i holl brofiad fel rheolwr meithrinfa, dydi hi ddim yn syndod i neb, heblaw hi ei hunan, bod Rebecca Strange ar y rhestr fer am wobr Asesydd y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ar Waith yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru 2021.

Ar ôl dod dros y sioc, roedd Rebecca sy’n 37 oed ac yn byw yng Nghaerdydd wrth ei bodd â’r enwebiad. “Roeddwn i wedi gwirioni – roedd yn hollol annisgwyl,” meddai.

“Mae fy rheolwr yn dweud yn aml fy mod i’n gwneud mwy na’r disgwyl ond rwy’n ei weld fel rhan o ‘ngwaith o ddydd i ddydd. Rwy mor falch o fy nysgwyr pan fydda i’n eu gweld nhw’n datblygu.”

Mae Rebecca’n asesydd prentisiaid Gofal Plant, Lefelau 2 i 5, ac mae’n ymweld â gwahanol feithrinfeydd, gwarchodwyr plant a sefydliadau cyn-ysgol. Bu’r gwaith yn dipyn o her yn ystod y cyfnodau cloi.

Ei gwaith yw rheoli, adolygu, asesu a hyfforddi dysgwyr yn y gweithle gyda rhaglenni pwrpasol, gyda chymorth e-bortffolios ac ymateb cyflogwyr.

Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn ddathliad blynyddol mawreddog o lwyddiant eithriadol ym maes hyfforddiant a phrentisiaethau, ac eleni mae 35 o ymgeiswyr wedi cyrraedd y rhestrau byrion mewn 12 categori. Cyhoeddir enwau’r enillwyr mewn seremoni wobrwyo ddigidol ar 29 Ebrill.

Y gwobrau yw uchafbwynt blwyddyn byd dysgu seiliedig ar waith. Maent yn rhoi sylw i fusnesau ac unigolion sydd wedi rhagori yn Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru ac wedi mynd yr ail filltir i lwyddo yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig a chwmni sy’n frwd o blaid prentisiaethau, yw’r prif noddwr eleni eto.

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).
A hithau’n gweithio i’r darparwr hyfforddiant Educ8 yn Hengoed, bu gan Rebecca ran allweddol yn sefydlu platfform dysgu Moodle ar gyfer y cwmni ac erbyn hyn mae’n arwain gwaith gwerthuso a datblygu’r rhaglen.

Dywedodd Rebecca: “Rwy wrth fy modd yn cael rhannu fy ngwybodaeth, fy sgiliau a fy mhrofiadau, gyda dysgwyr a chydweithwyr.”

Ac meddai un o’i dysgwyr, Zara King: “Fe wnes i ffynnu gyda Rebecca. Mae hi’n wych yn ei swydd. Ro’n i eisiau i bawb gael Rebecca yn asesydd.”

Dywedodd rheolwr rhaglenni Educ8 Rhian Jones: “Mae Becky yn defnyddio’i phrofiadau ym myd gofal plant i ennyn cariad at y sector, i godi’r gweithlu i dir uwch, ac i sicrhau bod pobl yn dewis gyrfa mewn gofal plant.”

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: “Mae ein Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau yn helpu pobl i gyflawni eu huchelgeisiau am yrfa ac rwyf wrth fy modd ein bod eisoes wedi cyrraedd ein nod o greu 100,000 o brentisiaethau yn nhymor y Senedd hon.

“Bu hyn yn allweddol wrth helpu prentisiaid o bob oed i ennill sgiliau a phrofiad pwysig y gwyddom fod ar fusnesau ym mhob sector o’r economi yng Nghymru eu gwir angen. Bydd hyn yn hanfodol wrth i ni ddod allan o gyfnod y pandemig.

“Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn gyfle gwych i ddathlu ac arddangos yr hyn a gyflawnwyd gan bawb, o brentisiaid disglair i ddarparwyr dysgu medrus.

“Hoffwn longyfarch pawb sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni a dymuno’n dda i bob un ohonynt yn y dyfodol.”

More News Articles

  —