Rhyanne yn ymroi i gefnogi rhai sydd wedi dioddef cam-drin domestig

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Rhyanne Rowlands – “beth bynnag yw’r rhwystrau sydd o’ch blaen, fe allwch chi lwyddo”.

Mae dwy Brentisiaeth Uwch wedi helpu Rhyanne Rowlands i ddatblygu o fod yn wirfoddolwraig i fod yn swyddog llawn amser gyda Chymorth i Fenywod RhCT, gan arwain prosiectau llwyddiannus i gefnogi rhai sydd wedi dioddef cam-drin domestig.

Roedd Rhyanne, sy’n 38 oed, wedi dioddef cam-drin domestig ei hunan yn y gorffennol ond erbyn hyn hi yw swyddog datblygu Safer Rhondda.

Ar ôl gwirfoddoli am flwyddyn i ddechrau, cafodd swydd lawn amser gyda Chymorth i Fenywod RhCT yn 2016 ac aeth yn ôl i ddysgu gyda’r darparwr Educ8 er mwyn cael mwy o wybodaeth a hunanhyder.

Mae Rhyanne wedi cwblhau Prentisiaethau Uwch Lefel 4 mewn Cyngor ac Arweiniad yn ogystal ag Arweinyddiaeth a Rheolaeth ac mae wedi cymhwyso fel arbenigwraig mewn cam-drin domestig. Erbyn hyn, symudodd ymlaen i Arweinyddiaeth a Rheolaeth ar Lefel 5.

Cafodd taith ddysgu lwyddiannus Rhyanne ei chydnabod wrth iddi gyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr Prentis Uwch y Flwyddyn yng ngornest fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2021.

Yn y dathliad blynyddol hwn o lwyddiant eithriadol ym maes hyfforddiant a phrentisiaethau, mae 35 o ymgeiswyr wedi cyrraedd y rhestrau byrion mewn 12 categori. Cyhoeddir enwau’r enillwyr mewn seremoni wobrwyo ddigidol ar 29 Ebrill.

Y gwobrau yw uchafbwynt blwyddyn byd dysgu seiliedig ar waith. Maent yn rhoi sylw i fusnesau ac unigolion sydd wedi rhagori yn Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru ac wedi mynd yr ail filltir i lwyddo yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig a chwmni sy’n frwd o blaid prentisiaethau, yw’r prif noddwr eleni eto.
Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).

Mae Rhyanne yn datblygu prosiectau newydd yn ardal Rhondda Cynon Taf i gynnig gwasanaethau i ddynion a menywod sydd wedi dioddef cam-drin domestig. Defnyddiodd sgiliau a ddysgodd yn ei phrentisiaethau i greu a rhedeg y prosiect cyntaf yng Nghymru ym maes profiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Bwriad hwn yw cynyddu a gwella’r gwasanaethau cefnogi ar gyfer oedolion a effeithiwyd gan drawma pan oeddent yn blant.

Yn ogystal, aeth Rhyanne ati i sefydlu a rhedeg prosiect Athena i helpu menywod dros 50 oed i ddod dros broblemau hunanhyder a theimlo’n ynysig a achoswyd gan gam-drin domestig. Enillodd y prosiect wobr Tlws Crisial Cwm Taf yn 2018.

“Ar ôl anawsterau pan oeddwn i’n ifanc, roeddwn yn awyddus i ddatblygu a bu’r prentisiaethau yn ffordd o wneud hynny,” meddai. “Mae wedi bod yn wych cael datblygu o safbwynt personol a phroffesiynol ac mae wedi rhoi’r hyder i mi roi cynnig ar dasgau newydd yn y gwaith.

“Yn fy marn i, beth bynnag yw eich cefndir a’r rhwystrau sydd o’ch blaen, fe allwch chi lwyddo.”

Dywedodd Charlie Arthur, prif weithredydd Cymorth i Fenywod RhCT fod Rhyanne yn werthfawr iawn i’r mudiad a’i bod yn defnyddio’i sgiliau a’i gwybodaeth i wella gwasanaethau ac i gyfrannu at gynlluniau strategol a syniadau am brosiectau. “Mae bob amser yn sicrhau bod y cleientiaid yn ganolog i unrhyw ddatblygiadau,” meddai.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: “Mae ein Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau yn helpu pobl i gyflawni eu huchelgeisiau am yrfa ac rwyf wrth fy modd ein bod eisoes wedi cyrraedd ein nod o greu 100,000 o brentisiaethau yn nhymor y Senedd hon.

“Bu hyn yn allweddol wrth helpu prentisiaid o bob oed i ennill sgiliau a phrofiad pwysig y gwyddom fod ar fusnesau ym mhob sector o’r economi yng Nghymru eu gwir angen. Bydd hyn yn hanfodol wrth i ni ddod allan o gyfnod y pandemig.

“Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn gyfle gwych i ddathlu ac arddangos yr hyn a gyflawnwyd gan bawb, o brentisiaid disglair i ddarparwyr dysgu medrus.

“Hoffwn longyfarch pawb sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni a dymuno’n dda i bob un ohonynt yn y dyfodol.”

More News Articles

  —