Cwmni’n gosod sylfaen gadarn ar gyfer adeiladwyr tai’r dyfodol

Postiwyd ar gan karen.smith

L-R : Redrow apprentices Travis Wade , Sam Reilly, and Ryan Wynne

Travis Wade, Sam Reilly a Ryan Wynne sy’n brentisiaid gyda Redrow.

English | Cymraeg

Sefydlwyd cwmni Redrow o Sir y Fflint dros 40 mlynedd yn ôl gan Steve Morgan ac mae ganddo enw ardderchog am godi tai o safon uchel. Llwyddodd i gwblhau dros 5,400 o gartrefi o ansawdd da, sy’n edrych yn arbennig, ledled Cymru a Lloegr ym mlwyddyn ariannol 2016/17.

Redrow yw’r cwmni adeiladu tai mwyaf sydd â’i ganolfan yng Nghymru ac mae wedi ymroi erioed i feithrin doniau’r gweithwyr. Mae’n cydnabod gwerth prentisiaethau’n cefnogi gweithlu medrus, cynaliadwy yn y sector adeiladu.

Yn awr, mae’r cwmni wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2017. Bydd Redrow’n cystadlu i fod yn Gyflogwr Mawr y Flwyddyn yn y seremoni wobrwyo fawreddog yn y Celtic Manor, Casnewydd ar 20 Hydref.

Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) ac fe’u noddir gan Pearson PLC a’u cefnogi gan Media Wales, y partner yn y cyfryngau.

Mae 30 o ddysgwyr, cyflogwyr a darparwyr dysgu sydd wedi serennu mewn nifer o raglenni sgiliau llwyddiannus ledled Cymru wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru.

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Mae’r gwobrau’n arddangos ac yn dathlu llwyddiant eithriadol dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.

Yn ei awydd i feithrin doniau ifanc a darparu’r sgiliau a’r bobl y mae ar y diwydiant tai eu hangen er mwyn ffynnu, bydd Redrow yn cyflogi 80 yn rhagor o brentisiaid erbyn diwedd 2017, gan ychwanegu at y 204 sydd eisoes ganddynt.

Ers lansio rhaglen brentisiaethau benodol Redrow yn 2009, mae ei brentisiaid yn gallu cael hyfforddiant mewn 14 o wahanol arbenigeddau, o ddylunio pensaernïol i waith plymio a gwresogi tai.

Mae gan y cwmni Dîm Gweithwyr Newydd i helpu a chefnogi prentisiaid sy’n gweithio gyda chwmnïau Redrow ledled Cymru a Lloegr, ac mae’n cydweithio â’r darparwyr hyfforddiant, JTL Training a Coleg Cambria, i gynnig ei raglen.

Dywedodd Joshua Golding, Cydlynydd Rhaglenni Gweithwyr Newydd Redrow: “Rydym yn sicrhau bod mentoriaid da a chefnogaeth ein cynghorwyr iechyd galwedigaethol ar gael i’n holl brentisiaid.”

Mae’r ffaith fod cynifer o brentisiaid yn aros gyda Redrow ar ôl gorffen eu prentisiaeth yn arwydd pendant o lwyddiant ei raglennu a’r llwybrau amlwg sydd ar gael i symud ymlaen yn eich gyrfa. Aeth llawer ymlaen i fod yn rheolwyr.

Wrth ganmol safon uchel yr ymgeiswyr eleni a llongyfarch Redrow ar gyrraedd y rhestr fer, dywedodd y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James: “Mae’r rhai sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni yn cynnwys unigolion eithriadol sydd wedi rhagori yn eu gweithle, a darparwyr dysgu a chyflogwyr sydd wedi mynd yr ail filltir i gefnogi’r prentisiaid sy’n gweithio gyda nhw. Mae eu straeon bob amser yn rhyfeddol ac yn ysbrydoliaeth.

“Mae prentisiaethau a hyfforddiant sgiliau galwedigaethol yn rhan hanfodol o lwyddiant economaidd ac yn anhepgor er mwyn adeiladu Cymru sy’n gryfach, yn decach ac y fwy cyfartal.

“Mae’r gwobrau hyn yn llwyfan delfrydol ar gyfer dathlu llwyddiant a gwobrwyo gwaith caled ac ymroddiad dysgwyr, cyflogwyr a darparwyr hyfforddiant ledled Cymru. Dymuniadau gorau i bawb ar y noson.”

More News Articles

  —