Recriwtio prentisiaid o gronfa ddoniau ymadawyr ysgol Cymru

Postiwyd ar gan karen.smith

Tata Steel

Tata Steel

English | Cymraeg

Mae cyflogwyr ledled Cymru sydd eisiau tyfu eu busnesau yn cael eu hannog i ddefnyddio cronfa gyfoethog o ddoniau trwy gynnig prentisiaethau i filoedd o ymadawyr ysgol yr haf hwn.

Ar ôl gorffen eu harholiadau TGAU a Safon Uwch, mae pobl ifanc o bob cwr o Gymru’n wynebu penderfyniadau pwysig am eu llwybr gyrfa i’r dyfodol ac un o’r prif opsiynau yw prentisiaeth.

Ni fydd llawer o bobl ifanc rhwng 16 a 19 oed yn aros mewn addysg amser llawn a byddant yn mynd allan i’r byd mawr i gael gwaith, sydd yn gyfle i fusnesau gael doniau newydd, ffres.

I gael gwybod sut y gallai eich busnes elwa

Cofrestrwch eich diddordeb yma

Ystadegyn y mae Llywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW), sydd yn cynrychioli darparwyr hyfforddiant seiliedig ar waith ledled Cymru, yn awyddus i’w newid yr haf hwn yw nifer y bobl ifanc sydd yn gadael yr ysgol ac yn mynd yn brentisiaid.

Allan o’r garfan o 31,500 o ymadawyr ysgol yng Nghymru rhwng 16 a 19 oed y llynedd, dim ond 401 wnaeth gais i fod yn brentisiaid. Bellach, mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgyrch i dderbyn 1,000 o brentisiaid yr haf hwn fel rhan o’i haddewid i gefnogi isafswm o 100,000 o brentisiaid pob oed o ansawdd uchel.

Mae Cymru’n gartref i ystod o fusnesau mentrus ac arloesol sydd yn cynnig ystod o gyfleoedd prentisiaeth cyffrous a heriol i alluogi pobl ifanc i fynd i mewn i fyd gwaith. Gyda chymaint o gyflogwyr yn chwilio am ymadawyr ysgol deallus, bydd y gystadleuaeth am brentisiaid yn llym, felly cynghorir busnesau i beidio gwastraffu unrhyw amser gyda’u cynlluniau recriwtio.

Bydd ymadawyr ysgol sy’n cael eu derbyn ar raglenni prentisiaeth yn hyfforddi yn y gweithle ar y cyd â chyflogwyr profiadol er mwyn datblygu’r sgiliau sydd eu hangen ar eu cyflogwyr i wneud cyfraniad amlwg i lwyddiant y busnes. Mae’r cyflogwyr yn talu eu cyflog ac mae Llywodraeth Cymru yn rhoi cymorth gyda rhywfaint o’r costau hyfforddi.

Mae prentisiaethau yn dechrau ar lefel dau – Prentisiaeth Sylfaen – ac yn datblygu i lefel tri – Prentisiaeth. Mae lefel pedwar ac uwch yn Brentisiaethau Uwch ac mae lefel bellach, sef prentisiaeth gradd, gan weithio ar y cyd â phrifysgolion, yn cael ei datblygu ar gyfer TGCh, gweithgynhyrchu uwch a pheirianneg.

Mae’r math o brentisiaeth yn cyd-fynd â lefel y cymwysterau sy’n ofynnol i wneud swydd. Cyflwynir yr hyfforddiant trwy gyfuniad o weithgareddau yn y swydd ac i ffwrdd o’r gwaith gyda darparwr hyfforddiant cymeradwy yn gysylltiedig â swydd a chymhwysedd y prentis, sydd yn cael ei asesu dros gyfnod y rhaglen.

O 1 Awst, bydd y Rhaglen Cymhelliant Cyflogwr Prentisiaeth yn rhoi cymorth i Fusnesau Bach a Chanolig (BBaCh) i recriwtio prentisiaid 16-19 oed, gan roi’r sgiliau sydd eu hangen ar unigolion a chyflogwyr yn yr hirdymor ac atal prinder sgiliau.

  • Mae’r cymhelliant ond ar gael i BBaCh sydd yn newydd i brentisiaethau neu sydd heb recriwtio prentis yn y 30 mis diwethaf
  • Bydd cymorth yn cael ei roi i uchafswm o dri phrentis fesul cyflogwr
  • Bydd cymorth ar gael waeth beth yw lefel y brentisiaeth
  • Cynnig taliad o £3,500 (fesul dysgwr) ar gyfer prentisiaid sy’n cael eu recriwtio yn ystod Gorffennaf-Medi a thaliad o £2,500 (fesul dysgwr) ar gyfer prentisiaid sy’n cael eu recriwtio yn ystod pob adeg arall o’r flwyddyn
  • Gwneir y taliad llawn ar ôl i’r prentis fod wedi ei gyflogi am wyth mis

Mae’n rhaid i gyflogwyr gymryd sawl cam tuag at fod yn brentis:

  • Dewis fframwaith neu safon prentisiaeth ar gyfer prentisiaeth yn eich diwydiant ac ar lefel addas
  • Dod o hyd i ddarparwr hyfforddiant ar gyfer y fframwaith neu’r safon prentisiaeth a ddewiswyd
  • Gwirio pa gyllid sydd ar gael
  • Hysbysebu eich prentisiaeth – gall eich sefydliad hyfforddi eich cynorthwyo i wneud hyn trwy’r Gwasanaeth Paru Prentisiaeth
  • Dewis eich prentis a ffurfio cytundeb prentisiaeth gyda nhw

I ganfod mwy am gyflogi prentisiaid a Rhaglen Cymhelliant Cyflogwr Prentisiaeth Busnesau Bach, llenwch y ffurflen ‘Mynegi Diddordeb’ ym Mhorth Sgiliau Busnes Cymru – a rennir gyda NTfW.

Er mwyn dwyn economi Cymru yn ei blaen a darparu’r sgiliau y mae cyflogwyr yn gofyn amdanynt, mae Llywodraeth Cymru yn rhoi blaenoriaeth i sgiliau lefel tri ac uwch mewn sectorau sydd â’r potensial mwyaf ar gyfer twf.

Yn dilyn cyflwyno’r Ardoll Brentisiaethau yn Ebrill, mae cyflogwyr mawr ledled Cymru sydd â chyflogres o fwy na £3 miliwn, bellach yn talu 0.5% o’u bil cyflogau i gefnogi prentisiaethau. Felly, mae mwy o gyfleoedd am brentisiaethau yn cael eu creu ar draws y sectorau preifat, cyhoeddus a’r trydydd sector.

Cynghorir ymadawyr ysgol sydd yn chwilio am brentisiaethau i edrych ar Wasanaeth Paru Prentisiaethau Gyrfa Cymru ar-lein yn https://ams.careerswales.com

Mae Sarah John, cadeirydd NTfW, yn annog cyflogwyr i siarad â’r NTfW os nad yw eu hanghenion busnes yn cael eu bodloni gan ddarpariaeth bresennol prentisiaethau.

“Rydym yn sylweddoli, er mwyn cyflawni ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ymgysylltu mwy o bobl ifanc a chyflwyno sgiliau lefel uwch, bydd angen ymagwedd llywodraeth gyfan,” dywedodd. “Mae angen i ni gael cyflogwyr i greu galw am swyddi prentisiaeth fydd yn denu’r ymadawyr ysgol mwyaf deallus.

“Mae darparwyr prentisiaethau yng Nghymru, fel rhan o rwydwaith NTfW, yn y sefyllfa orau i roi’r cyngor a’r arweiniad sydd ei angen ar gyflogwyr i elwa fwyaf ar y rhaglen flaenllaw hon.”

Ariennir y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop.

More News Articles

  —