Sylw mawr i brentisiaethau mewn digwyddiadau ar gyfer cyflogwyr yng Nghymru

Postiwyd ar gan karen.smith

L-R Jeff Protheroe, Director of Operations NTfW, Sarah John, Chair NTfW, Jason Hyam, Business Manager Arthur J Gallagher  and Samantha Huckle, Head of Apprenticeships, Welsh Government

O’r chwith i’r dde: Jeff Protheroe, Cyfarwyddwr Gweithrediadau NTfW, Sarah John, Cadeirydd NTfW, Jason Hyam, Rheolwr Busnes Arthur J Gallagher a Samantha Huckle, Pennaeth Prentisiaethau Llywodraeth Cymru.

English | Cymraeg

Bu cyflogwyr o’r sector cyhoeddus a’r sector preifat yng Nghymru mewn cyfres o dri digwyddiad rhanbarthol a drefnwyd i’w helpu i gymryd rhan yn Rhaglen Brentisiaethau Llywodraeth Cymru.

Cynhaliwyd y ddau ddigwyddiad cyntaf yn Llandudno a Llandrindod ac roedd yr olaf yng Nghaerdydd ddoe (dydd Iau) pan ddaeth dros 80 o bobl i’r Mercure Holland House Hotel.

Llwyddodd y digwyddiadau i ddenu cynrychiolwyr o fusnesau preifat ac uwch reolwyr sy’n gyfrifol am recriwtio a datblygu staff mewn nifer o gyrff cyhoeddus ledled Cymru, fel awdurdodau lleol, ymddiriedolaethau’r GIG a’r gwasanaethau brys. Roedd cyfle iddynt sgwrsio â darparwyr dysgu am eu gofynion penodol nhw o ran prentisiaethau a’u hanghenion hyfforddiant ychwanegol.

Trefnwyd y digwyddiadau ar ran Llywodraeth Cymru gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW), sy’n cynrychioli darparwyr dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru.

Erbyn hyn, mae cyrff o’r sectorau cyhoeddus a phreifat a’r trydydd sector sydd â bil cyflogau o dros £3 miliwn yn talu Ardoll Brentisiaethau – 0.5% o’u bil cyflogau – i Lywodraeth y Deyrnas Unedig er mwyn cynnal prentisiaethau.

Mae Llywodraeth Cymru wedi addunedu i gefnogi o leiaf 100,000 o brentisiaethau o safon uchel i bobl o bob oed yn ystod tymor y Llywodraeth bresennol. Dywedodd Sam Huckle, Pennaeth Prentisiaethau, bod Llywodraeth Cymru yn targedu sgiliau lefel uwch mewn sectorau, a bennwyd gan y Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol, a fyddai’n hybu twf yn economi Cymru.

Roeddent yn canolbwyntio ar ddatblygu polisïau cynaliadwy at y dyfodol. Felly, rhoddwyd blaenoriaeth i brentisiaethau mewn sectorau oedd yn cynnig yr adenillion gorau ar fuddsoddiad. Pwysleisiodd sut y byddai’r unigolyn, y cyflogwr a’r economi’n elwa o ddatblygu sgiliau technegol ar lefel uwch.

Datgelodd hefyd bod prentisiaeth benodol yn cael ei datblygu ar gyfer gwasanaethau’r sector cyhoeddus a bod prentisiaethau gradd mewn TGCh, gweithgynhyrchu uwch a pheirianneg wedi’u lansio, gydag eraill i ddilyn, lle’r oedd yn ymarferol.

O’r holl bobl ifanc rhwng 16 ac 18 oed a adawodd yr ysgol yng Nghymru y llynedd, datgelodd mai dim ond 401 oedd wedi mynd yn brentisiaid. Roedd Llywodraeth Cymru’n gwneud ei gorau glas i adfer prentisiaethau fel dewis gwerthfawr i bobl sy’n gadael yr ysgol.

Soniodd Sam Huckle am ymgyrch dros yr haf i ddenu 1,000 o bobl ifanc sy’n gadael yr ysgol i wneud prentisiaethau a dywedodd fod prentisiaethau iau’n cael eu cyflwyno ar gyfer myfyrwyr rhwng 14 ac 16 oed.

Dywedodd Sarah John, cadeirydd NTfW, bod prentisiaethau’n ffordd wych o recriwtio pobl ifanc a chynyddu sgiliau gweithluoedd. Roedd Llywodraeth Cymru’n awyddus i weld 40 y cant o weithlu Cymru’n codi eu sgiliau i lefel pedwar ac uwch erbyn 2024.

Dywedodd Jeff Protheroe, cyfarwyddwr gweithrediadau NTfW, mai yn y sector gwasanaethau cyhoeddus a gofal iechyd yr oedd un rhan o dair o’r 45,000 o brentisiaethau yng Nghymru yn 2015-16.

O’r holl brentisiaethau a gyflenwyd, roedd 46 y cant o’r prentisiaid yn 25 oed a throsodd a 24 y cant ar lefel pedwar ac uwch, o’i gymharu â chwech y cant yn 2012-13.

“Dros gyfnod byr, rydym wedi gweld symudiad sylweddol tuag at brentisiaethau uwch,” meddai Mr Protheroe, gan annog cyflogwyr i sôn wrth yr NTfW os nad oedd y ddarpariaeth bresennol yn bodloni anghenion eu busnes.

“Er mwyn gwireddu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddenu rhagor o bobl ifanc a chyflenwi sgiliau lefel uwch, bydd angen i’r llywodraeth gyfan gymryd rhan. Mae angen i gyflogwyr greu galw am lefydd i brentisiaid a bydd hynny’n denu’r bobl ifanc ddisgleiriaf sy’n gadael ein hysgolion.”

Cyrhaeddodd Jason Hyam, o gwmni broceriaid yswiriant Arthur J. Gallagher, Llantrisant, rownd derfynol y Gwobrau Cymwysterau Galwedigaethol eleni a soniodd am ei daith o fod yn brentis i fod yn rheolwr busnes yn gofalu am dîm o saith.

Roedd y brentisiaeth wedi rhoi hwb fawr i’w yrfa ac wedi cynyddu ei hyder, ei wybodaeth am y maes a’i sgiliau. Roedd yn argymell i gyflogwyr gynnig prentisiaethau a dywedodd y byddai’r manteision yn treiddio trwy’r sefydliad cyfan.

Dywedodd Emma Cowley, rheolwr dysgu ym maes prentisiaethau gydag Amazon, fod yr achlysur yn “ddefnyddiol” er mwyn deall y newidiadau sy’n digwydd ym maes prentisiaethau yng Nghymru.

Datgelodd y byddai Amazon yn recriwtio cant o brentisiaid yn Lloegr ym mis Medi ac yna’n bwriadu recriwtio yng Nghymru a’r Alban, ym mis Ionawr y flwyddyn nesaf, mae’n debyg. “Bydd 2018 yn flwyddyn fawr i brentisiaid yn y busnes,” meddai.

Roedd Rhys Owen, cynghorydd datblygu’r sefydliad gyda Iechyd Cyhoeddus Cymru, sydd â gweithlu o ryw 1,600, wrth ei fodd yn rhwydweithio gydag eraill o’r sector cyhoeddus yng Nghymru.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru’n lansio rhaglen brentisiaethau ym mis Hydref ar gyfer pum prentis ym maes gweinyddu busnes ac mae’n bwriadu cynnwys cymwysterau eraill, technegol a phwrpasol, yn y dyfodol. Mae cymhwyster ym maes iechyd y cyhoedd yn cael ei gyflwyno yn Lloegr a gellid ei ddefnyddio yng Nghymru hefyd.

Dywedodd Carys Samuel, arweinydd prentisiaethau gyda’r DVLA, bod ganddyn nhw raglen brentisiaethau lwyddiannus eisoes gyda 165 o brentisiaid a’u bod wrthi’n recriwtio rhagor.

Mwynhaodd gyfarfod â chyflogwyr eraill a chlywed sut yr oeddent yn gweithredu eu strategaeth brentisiaethau mewn ymateb i’r Ardoll Brentisiaethau a blaenoriaethau Llywodraeth Cymru.

Yn ôl David Morgan, gwerthuswr ymchwil gyda Heddlu Dyfed Powys, roedd yr achlysur yn “eithriadol o fuddiol” a dywedodd ei fod yn gobeithio cynnal digwyddiadau tebyg i hyrwyddo agenda prentisiaethau yn yr heddlu.

Roedd ef o blaid newid i ddiwylliant o ddysgu seiliedig ar waith gyda staff yn cael eu hyfforddi a’u mentora yn y gweithle yn hytrach nag ar gyrsiau mewn ystafell ddosbarth.

Gall cyflogwyr fynegi diddordeb yn y Rhaglen Brentisiaethau trwy lenwi ffurflen ‘Mynegi Diddordeb’ ym Mhorth Sgiliau Busnes Cymru – https://businesswales.gov.wales/skillsgateway/cy/prentisiaethau-0 – sy’n cael ei rannu â Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru.

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).

More News Articles

  —