Rhaglen Rhannu Prentisiaethau ar y rhestr fer am wobr genedlaethol

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Rheolwr Datblygu Sgiliau Anelu’n Uchel Blaenau Gwent, Tara Lane, gydag Andrew Bevan, Cydlynydd Prentisiaethau a phrentisiaid.

Fis nesaf, caiff gwaith Anelu’n Uchel Blaenau Gwent ei gydnabod yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru, y dathliad blynyddol o lwyddiant eithriadol mewn hyfforddiant a phrentisiaethau.

Ar ôl gweld bod prinder gweithwyr medrus, aeth Anelu’n Uchel Blaenau Gwent ati i lenwi’r bwlch trwy Raglen Rhannu Prentisiaethau sydd, erbyn hyn, yn anadlu bywyd newydd i weithlu’r ardal.

Mae’r awdurdod lleol wedi hen arfer â’r drefn o gylchdroi prentisiaid ymhlith cyflogwyr. Mae hyn yn golygu bod prentisiaid yn gallu dysgu sgiliau newydd trwy weithio ac ennill unedau tuag at eu NVQ gyda sefydliadau eraill sy’n arbenigo yn y maes hwnnw.

Mae Anelu’n Uchel Blaenau Gwent ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Cyflogwr Mawr y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru a gyflwynir mewn seremoni fawreddog yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol newydd Cymru, Casnewydd ar 24 Hydref.

Mae tri deg pedwar o unigolion a sefydliadau, mewn dwsin o gategorïau, ar y rhestrau byrion ar gyfer y gwobrau arbennig sy’n tynnu sylw at lwyddiant dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr gorau Cymru sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau Llywodraeth Cymru.

Trefnir Gwobrau Prentisiaethau Cymru ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) a’r prif noddwr eleni yw Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig. Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).

Ers 2015, mae Anelu’n Uchel, Glynebwy wedi teilwra cyrsiau a threfnu hyfforddiant i ateb anghenion dysgwyr trwy gynnig cyfleoedd ychwanegol yn un o ardaloedd tlotaf Cymru.

Hyd yma, mae’r holl brentisiaid wedi cael swyddi ar ddiwedd eu rhaglen, gyda 64% yn aros gyda’r cyflogwr lle gwnaethant eu prentisiaeth.

“Mae Rhaglen Rhannu Prentisiaethau Anelu’n Uchel yn pwyso ar lwyddiant gweithio mewn partneriaeth,” meddai Tara Lane, Rheolwr Datblygu Sgiliau. “Wrth i’r prosiect ddatblygu, mae’r cylchoedd rhwydweithio a phartneru wedi ehangu. Cafodd y prentisiaid gyfleoedd, yn eu tro, i ennill cymwysterau ychwanegol ac i gael blas ar wahanol brofiadau.”

Mae Anelu’n Uchel yn cydweithio’n agos â Llywodraeth Cymru, Bwrdd Parth Menter Glynebwy a Chyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent a bu’n datblygu ei raglenni hyfforddi gyda Choleg y Cymoedd.

“Mae’r Rhaglen Brentisiaethau wedi ymwneud yn llwyddiannus â 70 o brentisiaid ar nifer o lwybrau ym meysydd Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg, gan ddatblygu trefn rhannu prentisiaeth sydd wedi cynnwys dros 20 o gyflogwyr mewn ardal lle nad oedd cysylltiad â phrentisiaethau,” meddai Matthew Tucker, Pennaeth Cynorthwyol Coleg y Cymoedd.

“Dyma bartneriaeth arloesol yn y sector. Bu mor llwyddiannus nes bod cynlluniau tebyg wedi’u rhoi ar waith mewn ardaloedd awdurdodau lleol eraill mewn ymateb i brinder sgiliau yno hefyd.”

Er mwyn sicrhau bod y cynllun yn gynaliadwy, mae Anelu’n Uchel am gydweithio â rhagor o gyflogwyr ac awdurdodau lleol i gynyddu’r galw am brentisiaid ac i adolygu opsiynau ariannu ar gyfer y dyfodol.

Llongyfarchodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Anelu’n Uchel Blaenau Gwent a phawb arall oedd ar y rhestrau byrion.

“Mae rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru yn helpu i sicrhau bod rhagor o bobl yn datblygu’r sgiliau a’r profiad y gwyddom fod ar fusnesau eu hangen ym mhob sector o’r economi yng Nghymru,” meddai.

“Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru’n gyfle gwych i ddathlu ac arddangos llwyddiant yr unigolion a’r sefydliadau disglair sy’n ymwneud â’r rhaglenni hyn, o brentisiaid a chyflogwyr, i ddarparwyr hyfforddiant a hyfforddeion.”

More News Articles

  —