Legal and General, sydd ar y rhestr fer am wobr, yn creu diwylliant o ddysgu

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Rheolwr Datblygu Pobl LGIM, Sarah Evans (cefn, chwith) gyda nifer o brentisiaid, Paul Durkin, Elizabeth Baynham, Jonathan Webb, Nathan Piddock ac Elinor Worthington.

Anelu’n uchel, cyrraedd y nod a thyfu yw ethos cwmni Legal and General Investment Management (LGIM) ar gyfer datblygu ac maent wedi creu Rhaglen Brentisiaethau lwyddiannus sy’n gosod sylfeini cadarn at y dyfodol.

O ganlyniad i’w buddsoddiad mewn pobl, mae LGiM wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Cyflogwr Mawr y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru fis nesaf, sef y dathliad blynyddol o lwyddiant eithriadol mewn hyfforddiant a phrentisiaethau.

Mae tri deg pedwar o unigolion a sefydliadau, mewn dwsin o gategorïau, ar y rhestrau byrion ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru a gyflwynir mewn seremoni fawreddog yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol newydd Cymru, Casnewydd ar 24 Hydref.

Bwriad y gwobrau yw tynnu sylw at lwyddiant dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr gorau Cymru sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.

Trefnir Gwobrau Prentisiaethau Cymru ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) a’r prif noddwr eleni yw Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig. Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).

Ers 2016, mae LGIM Retail, adain sydd â’i phrif swyddfa yng Nghaerdydd, wedi mwynhau manteision rhaglen fewnol sy’n darparu hyfforddiant ar gyfer rhaglenni cynefino, newidiadau rheoleiddio, gwella sgiliau a phopeth arall.

Cafodd y rhaglen hyfforddi gychwynnol ei theilwra ar gyfer anghenion y tîm rheoli presennol ym maes prentisiaethau uwch.

“Wrth i bobl gwblhau prentisiaethau rheoli, rydym ar ein hennill ar y lefel honno ac felly llwyddwyd i gynnig rhagor o brentisiaethau i staff yn 2018,” meddai Sarah Evans, Rheolwr Datblygu Pobl LGIM. “Felly, erbyn hyn, gallwn gynnig rhagor o gyfleoedd dysgu i’r tîm ehangach ac mae hynny’n fuddiol iawn i’r cwmni yn ei gyfanrwydd.”

Ar hyn o bryd, mae 23 o brentisiaid yn cymryd rhan mewn dysgu seiliedig ar waith. Ers i LGIM Retail ddechrau cynnig prentisiaethau i staff, mae’r cwmni wedi elwa ar gynnydd enfawr yn hyder y gweithwyr. Un arwydd o hyn yw mai dim ond un o’r chwe dysgwr Arwain a Rheoli Lefel 3 sy’n dal yn yr un swydd ag ydoedd yn wreiddiol.

Bu LGIM Retail yn cydweithio’n agos â TSW Training o Ben-y-bont ar Ogwr i gynnig Prentisiaethau Lefel 3, 4 a 5 mewn Arwain a Rheoli, Lefel 4 Cyngor ac Arweiniad a Lefel 2 Technegau Gwella Busnes.

“Un peth sydd wedi cyfrannu at lwyddiant y rhaglen yw parodrwydd tîm LGIM i gofleidio ffyrdd newydd o ddysgu yn y sefydliad,” meddai Toni Hughes, Arweinydd Datblygu Ansawdd gyda TSW Training. “Rydym wedi gweld y prentisiaid yn ffynnu ac mae’r Rhaglen Brentisiaethau wedi’i ehangu i rannau eraill o’r cwmni.”

Llongyfarchodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, LGIM a phawb arall sydd ar y rhestrau byrion.

“Mae rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru yn helpu i sicrhau bod rhagor o bobl yn datblygu’r sgiliau a’r profiad y gwyddom fod ar fusnesau eu hangen ym mhob sector o’r economi yng Nghymru,” meddai.

“Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru’n gyfle gwych i ddathlu ac arddangos llwyddiant yr unigolion a’r sefydliadau disglair sy’n ymwneud â’r rhaglenni hyn, o brentisiaid a chyflogwyr, i ddarparwyr hyfforddiant a hyfforddeion.”

More News Articles

  —