Rhan allweddol gan brentisiaid yng nghynlluniau cwmni logisteg i dyfu

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

FLS Managing Director Ieuan Rosser with apprentices Louise Perry, Ben Jones and Emily Edwards

Sicrhaodd cyfarwyddwyr cwmni rheoli cadwyni cyflenwi o Bont-y-pŵl, Freight Logistics Solutions (FLS), bod rhaglen brentisiaethau yn rhan allweddol o’u cynllun busnes cyn lansio’r cwmni dair blynedd yn ôl.

Mae’r cwmni’n arbenigo mewn cludo nwyddau dros y byd ar ffyrdd a’r môr ac yn yr awyr ac fe’i lansiwyd mewn ymateb i Brexit, prinder gyrwyr ym Mhrydain a’r cynnydd yn y galw am gymorth i’r sector logisteg.

Mae’r cwmni, sydd wedi’i ariannu ei hunan ac sy’n ymgeisio am achrediad Buddsoddwyr mewn Pobl, wedi tyfu o fod yn gwmni o dri chyfarwyddwr i un â 30 o weithwyr, yn cynnwys cynllunwyr trafnidiaeth, staff gwerthu, staff marchnata a staff gweithredol. Y nod yw dyblu’r trosiant a nifer y staff yn y pum mlynedd nesaf.

Yn awr, mae FLS wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Cyflogwr Bach y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru y mis nesaf, sef y dathliad blynyddol o lwyddiant eithriadol mewn hyfforddiant a phrentisiaethau.

Mae tri deg pedwar o unigolion a sefydliadau, mewn dwsin o gategorïau, ar y rhestrau byrion ar gyfer y gwobrau a gyflwynir mewn seremoni fawreddog yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol newydd Cymru, Casnewydd ar 24 Hydref.

Bwriad y gwobrau yw tynnu sylw at lwyddiant dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr gorau Cymru sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.

Trefnir Gwobrau Prentisiaethau Cymru ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) a’r prif noddwr eleni yw Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig. Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).

Mae gan FLS saith prentis sy’n dilyn Prentisiaeth mewn Gweinyddu Busnes a ddarperir gan Hyfforddiant Torfaen. Yn ogystal â’r prentisiaethau, cynhelir rhaglen hyfforddi fewnol mewn rheoli logisteg a chadwyni cyflenwi.

Trwy ymrwymo i brentisiaethau, gobaith y cwmni yw meithrin teyrngarwch y gweithwyr fel y bydd yn llwyddo i gadw staff medrus a bodlon.

“Cafodd y rhaglen brentisiaethau ei chydnabod yn elfen bwysig o’n cynllun gwreiddiol ar gyfer cychwyn y busnes,” meddai’r Rheolwr Gyfarwyddwr, Ieuan Rosser, sy’n recriwtio prentisiaid ar sail eu potensial.

“Rydym wedi gweld bod prentisiaid yn llawn egni ac yn wybodus a’u bod yn dod â bywiogrwydd a syniadau ffres i’r gweithle. Maen nhw’n datblygu’n gyflym mewn busnes sy’n tyfu’n sydyn ac yn dod yn rhan hanfodol o weithrediad y cwmni o-ddydd-i-ddydd yn fuan iawn.

“Mae FLS wedi tyfu’n fawr yn ei dair blynedd gyntaf ac felly mae’r busnes wedi ennill nifer o wobrau ar gyfer busnesau sy’n cychwyn. Fydden ni ddim wedi gallu tyfu fel hyn, darparu gwasanaeth o safon mor uchel na gweithredu ein strategaethau gwerthu heb y rhaglen brentisiaethau.”

Dywedodd Nichole Stanley, Rheolwr Cyfrifon gyda Hyfforddiant Torfaen: “Mae FLS yn cynnig hyfforddiant mewnol ardderchog sy’n ehangu sgiliau arbenigol y prentisiaid yn eu sector tra byddant yn gweithio i ennill cymwysterau. Mae wir yn amgylchedd rhagorol ar gyfer symud ymlaen.”

Llongyfarchodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, FLS a phawb arall oedd ar y rhestrau byrion.

“Mae rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru yn helpu i sicrhau bod rhagor o bobl yn datblygu’r sgiliau a’r profiad y gwyddom fod ar fusnesau eu hangen ym mhob sector o’r economi yng Nghymru,” meddai.

“Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru’n gyfle gwych i ddathlu ac arddangos llwyddiant yr unigolion a’r sefydliadau disglair sy’n ymwneud â’r rhaglenni hyn, o brentisiaid a chyflogwyr, i ddarparwyr hyfforddiant a hyfforddeion.”

More News Articles

  —