Rhestr fer o 31 disglair ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Welsh

App Awards 27

Bydd 31 o sêr disglair – yn gyflogwyr, yn ddysgwyr ac yn ddarparwyr dysgu o bob rhan o Gymru – yn cystadlu yng ngornest bwysig Gwobrau Prentisiaethau Cymru eleni.

Cafodd y beirniaid dasg anodd yn dewis pwy i’w rhoi ar y rhestrau byrion o blith y llu o geisiadau mewn 11 dosbarth. Caiff enwau’r enillwyr eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo fawreddog yn y Celtic Manor, Casnewydd ar 9 Tachwedd.

Bwriad y gwobrau blynyddol yw arddangos a dathlu llwyddiant eithriadol dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.

Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) ac fe’u cefnogir gan Media Wales, y partner yn y cyfryngau. Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).

Dywedodd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Eluned Morgan:
“Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn tynnu sylw at lwyddiant Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru a’r hyn y mae ein prentisiaid, ein cyflogwyr, ein darparwyr dysgu a’n hyfforddeion disglair wedi’i gyflawni.

“Mae prentisiaethau’n ffordd wych i unigolion feithrin sgiliau gwerthfawr a phrofiad ac ennill cyflog ar yr un pryd, ac i gyflogwyr sicrhau bod y sgiliau angenrheidiol gan eu gweithlu i baratoi’r busnes ar gyfer y dyfodol.

“Ni fu erioed yn bwysicach cynyddu sgiliau lefel uwch a datblygu llwybrau sgiliau er budd Cymru gyfan.”

Dyma’r rhai sydd yn y rownd derfynol: Dysgwr y Flwyddyn – Hyfforddeiaethau (Ymgysylltu): Josie Pether o Lyn-nedd y darperir ei hyfforddiant gan Pathways Training, Lee Anthony Bowen o Gasnewydd y darperir ei hyfforddiant gan Rathbone Cymru a James Carter o Gasnewydd y darperir ei hyfforddiant gan Itec Skills and Employment. Dysgwr y Flwyddyn – Hyfforddeiaethau (Lefel 1): Stella Vasiliou o’r Barri y darperir ei hyfforddiant gan ACT Training, Neil Jones o Lanilltud Fawr y darperir ei hyfforddiant gan The People Business – Wales a Mariska Hutton o Ferthyr Tudful y darperir ei hyfforddiant gan People Plus.

Prentis Sylfaen y Flwyddyn: Thomas Martin o Gaerdydd y darperir ei hyfforddiant gan Gwmni Hyfforddiant Cambrian, Lauren Richards o Faesteg y darperir ei hyfforddiant gan Urdd Gobaith Cymru a Corinna Roberts o Donypandy y darperir ei hyfforddiant gan ALS Training. Prentis y Flwyddyn: Sally Hughes o Bort Talbot y darperir ei hyfforddiant gan Goleg Gŵyr Abertawe, Ryan Brown o Borthcawl y darperir ei hyfforddiant gan Goleg Penybont a Russell Beale o Bont-y-pŵl y darperir ei hyfforddiant gan CITB. Prentis Uwch y Flwyddyn: Lynnette Davies o Gastell-nedd y darperir ei hyfforddiant gan Pathways Training – NPTC, Daren Chesworth o Wrecsam y darperir ei hyfforddiant gan Coleg Cambria a Thomas Watkins o Gaerdydd y darperir ei hyfforddiant gan Sgil Cymru.

Cyflogwr Bach y Flwyddyn (1-49 o weithwyr): Lelo Skip Hire, Corwen y darperir eu hyfforddiant gan Gwmni Hyfforddiant Cambrian, Pisys.net, Abertawe y darperir eu hyfforddiant gan ITeC Abertawe, ac FLS (Freight Logistics Solutions), Cwmbrân y darperir eu hyfforddiant gan Torfaen Training. Cyflogwr Canolig y Flwyddyn (50-249 o weithwyr): Inspiration Lifestyle Services, Caerfyrddin y darperir eu hyfforddiant gan PRP Training a Mainetti UK, Wrecsam a Celtica, Cross Hands – darperir hyfforddiant y ddau ohonynt gan Gwmni Hyfforddiant Cambrian. Cyflogwr Mawr y Flwyddyn (250-4,999 o weithwyr): Y Swyddfa Ystadegau Gwladol, Casnewydd y darperir eu hyfforddiant gan ALS Training, Urdd Gobaith Cymru, Caerdydd, Legal and General, Caerdydd y darperir eu hyfforddiant gan Vocational Skills Partnership a Magellan Aerospace UK Ltd, Llai, Wrecsam y darperir eu hyfforddiant gan Coleg Cambria. Macro-gyflogwr y Flwyddyn (5,000+ o weithwyr): Cyngor Rhondda Cynon Taf, Tonypandy y darperir eu hyfforddiant gan ALS Training a Lloyds Banking Group, Casnewydd y darperir eu hyfforddiant gan Goleg Caerdydd a’r Fro.

Asesydd a Thiwtor y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ar Waith: Kirsty Keane a Carly Murray o ACT Training, Caerdydd, Michael Ramsden o Gwmni Hyfforddiant Cambrian a Tim Robinson o Goleg Cambria, Cei Connah.

More News Articles

  —