Myfyrwyr yn ‘Rhoi Cynnig Arni’

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Have-a-go-coleg-cambria-news

Cafodd dysgwyr Coleg Cambria Llaneurgain gyfle i roi cynnig ar wahanol weithgareddau gan gynnwys Technoleg Cerddoriaeth, Lego Kit, Animeiddio 2D, Kit Adeiladu Modwlar, a choginio mewn Cegin Gludadwy, gan ddefnyddio’r offer ‘Rhoi Cynnig Arni’ yn ddiweddar.

Rhoddodd y digwyddiad, a noddwyd gan Hyfforddiant Cambria, CITB a NTFW, gyfle i dros 25 o fyfyrwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol (ALN), sydd ag anableddau a namau gwahanol, gael sesiwn ymarferol, a oedd o fudd iddyn nhw a’u helpu i ddeall byd gwaith yn well, fel rhan o’u sesiwn Cyflogadwyedd.

Yn ystod y bore llawn hwyl, cafodd y dysgwyr gyfle i greu cerddoriaeth a rhythmau eu hunain, creu robot Lego, gan ddefnyddio meddalwedd codio, creu animeiddiadau byr gan ddefnyddio lluniadau a nwyddau, gwneud omlet ac adeiladu tetrahedron anferthol. Yn ystod y gweithgareddau, dangosodd y myfyrwyr sgiliau gwahanol gan gynnwys gwaith tîm, sgiliau trefnu, sgiliau creadigol a sgiliau digidol.

Dywedodd Helen Young, sy’n diwtor yng Ngholeg Cambria:
“Roedd y gweithdai yn ddiddorol iawn. Cymerodd pob myfyriwr ran yn y tasgau, roedd y sesiynau yn hwyl, yn ysgogol, wedi eu paratoi yn dda ac roedd y myfyrwyr yn gallu dewis gwahanol weithgareddau i gymryd rhan ynddyn nhw. Roedd yr animeiddio yn llwyddiant mawr.”

Ychwanegodd Harry Scott, sy’n ddysgwr a oedd wedi mwynhau’r gweithdai:
“Roedd yn cŵl iawn cael gweld sut roedd y rhaglennu yn gweithio gyda’r robot Lego trwy roi’r cyfarwyddiadau ynddo a gweld a oedd yn eu dilyn nhw.

“Roedd yr Animeiddio 2D yn ddoniol, mi wnes i ei fwynhau. Tynnais i lun o robot” ychwanegodd Aaron Revill – Roberts.

Newyddion Coleg Cambria

More News Articles

  —