Arddangosodd y Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol (PDSR) De-Orllewin Cymru amrywiaeth o brosiectau peilot sydd wedi eu seilio ar thema adeiladu a derbyniodd y prosectau gyllid o’r rhaglen Sgiliau a Thalent yn nigwyddiad yr Economi Werdd yr wythnos hon. Roedd y digwyddiad yn gyfle i rwydweithio a dysgu gan arbenigwyr a rhanddeiliaid amrywiol yn y sector economi werdd.
Cynhaliwyd y lansiad ar stondin y PDSR, lle daeth llawer o bobl ynghyd i ddysgu mwy am y prosiectau a’u heffaith ar y rhanbarth. Mae’r prosiectau’n rhan o raglen Sgiliau a Thalent y Fargen Ddinesig, sy’n anelu at wella sgiliau a chyflogadwyedd miloedd o bobl yn Ne Orllewin Cymru.
Bydd pob prosiect yn helpu pobl leol i ennill yr hyfforddiant a’r cymwysterau sydd eu hangen arnynt i ddilyn eu nodau gyrfa i sicrhau eu dyfodol. Mae’r prosiectau peilot yn gysylltiedig â nifer o brosiectau’r Fargen Ddinesig a fydd yn dod â mwy o fuddion i’r rhanbarth. Maent yn cynnwys cydweithredu rhwng cyflogwyr, darparwyr addysg, ac awdurdodau lleol, ac yn cynnig cyfleoedd i ddysgwyr, gweithwyr a busnesau wella eu sgiliau a’u gwybodaeth.
Llongyfarchodd tîm PDSR arweinwyr y prosiect a diolch iddynt am eu cyfranogiad a’u cyfraniad i’r rhaglen Sgiliau a Thalent. Mynegodd yr RLSP eu diolch hefyd i drefnwyr a mynychwyr y digwyddiad Economi Werdd am eu cefnogaeth a’u diddordeb.