Paratoi disgyblion lleol i fod yn weithlu’r dyfodol

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Yn Sir Benfro, mae prosiect peilot unigryw wedi’i gymeradwyo a fydd yn dod â myfyrwyr a chwmnïau sy’n arbenigo yn y sector ynni adnewyddadwy at ei gilydd. Bydd yn creu fframwaith dan arweiniad y diwydiant ynni adnewyddadwy o’r môr a fydd yn paratoi pobl ifanc ddawnus ar gyfer swyddi a fydd ar gael yn yr ardal.

Dyma’r prosiect peilot cyntaf i gael ei gymeradwyo gan y Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol (RLSP) fel rhan o Raglen Sgiliau a Thalentau Bargen Ddinesig Bae Abertawe sy’n werth £30 miliwn. Bydd Coleg Sir Benfro, Cyngor Sir Penfro a busnesau lleol yn cydweithio i gynnig Pasbort i Gyflogaeth Sir Benfro.

Disgyblion o Ysgol Aberdaugleddau

O fis Medi 2022 ymlaen, rhagwelir y bydd myfyrwyr rhwng 5 ac 19 oed yn dechrau elwa o’r prosiect hwn hyd yn oed yn y flwyddyn gyntaf. Caiff ei ddysgu gan Goleg Sir Benfro, Ysgol Uwchradd Aberdaugleddau ac Ysgol Harri Tudur drwy bum llinyn allweddol. Bydd myfyrwyr yn dysgu am ynni adnewyddadwy yn cynnwys ynni tonnau, ynni llanw ac ynni’r haul, a gwynt ar y môr ac ar y tir, gyda chymorth cwmnïau sy’n arbenigo yn y maes fel EDF Renewables UK a DP Energy, Blue Gem Wind, Bombora Wave ac Ore Catapult.

Datblygwyd y prosiect cyffrous hwn trwy gydweithio’n agos â phrosiect Ardal Forol Doc Penfro gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe. Mae’n nodi bylchau yn y trefniadau presennol ar gyfer dysgu am ynni adnewyddadwy – maes lle disgwylir y bydd galw mawr am weithwyr yn y dyfodol. Gwnaed hyn drwy’r Fargen Ddinesig a phrosiectau eraill yn y sector cyhoeddus a phreifat.

Dywedodd y Cynghorydd Rob Stewart, Cadeirydd Cyd-bwyllgor Bargen Ddinesig Bae Abertawe “Mae’n wych bod cynllun peilot Sgiliau a Thalentau cyntaf Bargen Ddinesig Bae Abertawe wedi’i gymeradwyo. Mae hefyd yn ardderchog gweld dau o’n prosiectau’n cydweithio i ddysgu am ynni adnewyddadwy – mae gwir angen hynny.

“Rŷn ni’n bendant y bydd y fframweithiau newydd hyn yn sicrhau bod ein disgyblion yn Sir Benfro’n barod am waith yn y sector ynni adnewyddadwy. Trwy adeiladu ar ein harbenigedd mewn diwydiant lleol, ein gobaith yw creu canolfan ragoriaeth ar gyfer ynni adnewyddadwy yn Sir Benfro.

“Mae’r Fenter Sgiliau a Thalentau’n cydgysylltu â phob un o 8 prosiect a rhaglen arall y Fargen Ddinesig a bydd yn ein helpu i ddatblygu ein rhanbarth, trwy gynnig cyfleoedd i’n myfyrwyr dawnus aros yn y rhanbarth pan fyddan nhw’n barod am waith.

Yn dilyn llwyddiant y cynllun peilot hwn yn ardal glwstwr Aberdaugleddau, ein gobaith yw y caiff ei ehangu i ardaloedd eraill ledled Sir Benfro, de-orllewin Cymru a’r wlad gyfan yn y blynyddoedd i ddod. Rydym yn adolygu cynlluniau ar gyfer prosiectau peilot Sgiliau a Thalentau eraill hefyd gan obeithio gwneud cyhoeddiadau’n fuan am ragor o fentrau cyffrous a fydd yn helpu i ddatblygu gweithlu’r dyfodol.”

Meddai Barry Walters, Pennaeth Coleg Sir Benfro, “Rŷn ni wrth ein bodd mai partneriaeth rhwng Cyngor Sir Penfro, cwmnïau ynni lleol a ninnau yw’r prosiect cyntaf i gael ei gymeradwyo drwy fenter Sgiliau a Thalentau Bargen Ddinesig Bae Abertawe. Edrychwn ymlaen at weld nifer o fentrau arloesol yn cychwyn ym mis Medi gan godi ymwybyddiaeth o ynni adnewyddadwy a helpu i ddarparu’r setiau sgiliau y mae ar bobl ifanc y sir eu hangen i gael gwaith yn y dyfodol.”

Partneriaeth Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol De-Orllewin Cymru

More News Articles

  —