Y Dirprwy Weinidog yn ffocws yn ystod ymweliad Diwrnod VQ â Chanolfan Dechnoleg Sony UK

Postiwyd ar gan karen.smith

Deputy Minister in focus during VQ Day visit to Sony UK Technology Centre

Dyma Julie James, Dirprwy Weinidog dros Sgiliau a Thechnoleg, gyda gweithwyr Sony, Jane Cumming a Sian Thomas, sy’n dilyn cymwysterau galwedigaethol yn yr academi hyfforddiant newydd at Sony UK Technology Centre

Roedd y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau a Thechnoleg, Julie James, mewn ffocws wrth iddi ddechrau Diwrnod Cymwysterau Galwedigaethol (Diwrnod VQ) gydag ymweliad bore i gawr dechnoleg fyd-eang, Canolfan Dechnoleg Sony UK (UKTEC), ym Mhencoed, Pen-y-bont-ar-Ogwr, lle mae camerâu proffesiynol a darlledu yn cael eu gwneud.

Yn ystod ei thaith o gwmpas y ffatri 30,000 metr sgwâr arobryn a agorwyd gan y Frenhines yn 1993, cyfarfu staff sy’n cymryd cymwysterau galwedigaethol a, gan mai Diwrnod VQ ydoedd, derbyniodd wahoddiad i helpu cydosod rhan o gamera.

Roedd hi’n ymweld â Sony UKTEC i glywed sut mae cefnogaeth y cwmni am hyfforddiant a datblygiant ei weithlu medrus wedi creu enw da am ragoriaeth gweithgynhyrchu. Yn ogystal â rhedeg ei academi hyfforddi ei hun, mae gan y cwmni 12 o raddedigion, pum prentis a 27 o weithwyr sy’n cymryd cymwysterau galwedigaethol mewn pynciau fel peirianneg a rheoli busnes.

Dathliad ledled y DU yw Diwrnod VQ o gymwysterau galwedigaethol i brentisiaid, myfyrwyr, athrawon, darparwyr hyfforddiant a chyflogwyr. Neithiwr (nos Fawrth), fel rhan o ddathliadau Diwrnod VQ, cyflwynodd y Dirprwy Weinidog y Gwobrau VQ Cymru i’r Cyflogwr a Dysgwr y Flwyddyn mewn seremoni a gynhaliwyd yng Ngwesty Dewi Sant, Caerdydd.

Mae Sony, sydd wedi bod yng Nghymru ers 1973, yn cyflogi 350 o staff yn UKTEC ac 250 ychwanegol yn rhan o Canolfan Deori Busnes unigryw y cwmni, sydd bellach yn cartrefi 31o fusnesau cysylltiedig sy’n gallu cael mynediad at wasanaethau cymorth arbenigol.

Wedi ei goroni’n Ffatri Orau Prydain yn 2013, mae Sony UKTEC hefyd wedi derbyn pedwar Gwobr y Frenhines am Allforio, Gwobr y Frenhines am yr Amgylchedd, ac yn enillydd blaenorol o Gwobr Ansawdd Prydeinig.

Swyddogaeth fusnes craidd y safle ym Mhencoed yw gweithgynhyrchu systemau darlledu a chamerau proffesiynol uchel-diffiniad (HD) o ansawdd a gwerth uchel, a systemau camera sy’n cael eu cynhyrchu ar gyfer marchnadoedd ledled y byd. Unig safle Sony yn Ewrop ydyw sy’n cynhyrchu camerau llawn, ac mae yn un o ddim ond tri chyfleuster gweithgynhyrchu ledled y byd.

Mae angen ar gyflogeion sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth o’r prosesau gweithgynhyrchu diweddaraf er mwyn sicrhau bod y cynhyrchion cymhleth a hynod fanwl hyn yn cael eu gwneud yn fanwl gywir, ac eu bod o’r ansawdd uchaf.

Mae rhannau eraill o’r busnes yn cynnwys prif Ganolfan Gwasanaeth Cwsmeriaid Ewropeaidd Sony yn y DU a’i Ganolfan Deori Busnes. Mae’r safle hefyd yn cynnig gweithgynhyrchu contract trydydd parti lle mae cynhyrchion megis y Raspberry Pi, cyfrifiadur maint cerdyn credyd mini, yn cael eu gwneud.

Croesawyd y Dirprwy Weinidog gan Gerald Kelly, rheolwr cyffredinol Sony UKTEC, a Nabila Elisa, rheolwr prosiect, ac aeth ymlaen i gwrdd â Jane Cummings a Julie Thomas, sy’n cymryd cymhwyster galwedigaethol.

“Mae enw da Sony ar gyfer gweithgynhyrchu rhagorol ei danategu gan ymrwymiad y cwmni i hyfforddi a datblygu ei weithlu hynod fedrus,” dywedodd y Dirprwy Weinidog. “Roeddwn wrth fy modd, ar Ddiwrnod VQ, i glywed am raglenni’r cwmni i raddedigion a phrentisiaid a’i angerdd am wella sgiliau gweithwyr.

“Os bydd economi Cymru i barhau i dyfu, yna mae’n rhaid i ni sicrhau bod cyflogwyr fel Sony, unigolion a Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’i gilydd i fuddsoddi yn y sgiliau cywir ar gyfer llwyddiant er mwyn arfogi Cymru gyda gweithlu o’r radd flaenaf.

“Mae Diwrnod VQ yn ein hatgoffa o gynifer y cyflogwyr a dysgwyr yng Nghymru sydd eisoes yn mynd y filltir ychwanegol pan ddaw i ddatblygu eu sgiliau. Safon aur rhagoriaeth proffesiynol yw cymwysterau galwedigaethol a rhaid inni sicrhau eu bod yn cael eu cydnabod ochr yn ochr â chyflawniadau academaidd. ”

Dywedodd Mr Kelly: “Croesawn y Gweinidog i’n safle ar Ddiwrnod Cymwysterau Galwedigaethol. Yr ydym yn angerddol am wella sgiliau ein gweithwyr ac mae’n bwysig ein bod yn rhoi iddynt y cyfleoedd ar gyfer datblygu.

“Gall cyrsiau megis cymwysterau galwedigaethol roi’r cyfle i unigolion talentog a brwdfrydig i ddilyn gyrfaoedd mewn peirianneg, gweithgynhyrchu a rheoli busnes. Yn ogystal, maent yn ffordd wych o ddatblygu ac ennill sgiliau newydd, gwybodaeth busnes a hyfforddiant ymarferol.

“Y llynedd bûm inni lansio yn llwyddiannus ein rhaglenni prentisiaethau a graddedigion er mwyn datblygu’r genhedlaeth nesaf o beirianwyr, arloeswyr ac arweinwyr busnes Sony. Yn ystod y cyfnod hwn gwelsom ein gweithwyr yn magu hunanhyder a dangos sgiliau arwain a fydd yn helpu i lunio dyfodol gweithgynhyrchu yng Nghymru. ”

More News Articles

  —