Sgiliau dysgu ac addysgu digidol yn datblygu ar garlam

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Yn ddi-os, mae’r newid sydyn a welwyd mewn dulliau dysgu ac addysgu oherwydd sefyllfa Covid-19 wedi cyflymu’r datblygiad yn y maes ymhlith y gweithlu dysgu seiliedig ar waith (DSW) yng Nghymru.

Roedd yr Astudiaeth Gwmpasu Dysgu Proffesiynol Ôl-16, a gyhoeddwyd ym mis Medi 2019, yn cynnig trosolwg o’r ‘bylchau sgiliau’ yr oedd angen mynd i’r afael â nhw yn y gweithlu ôl-16 er mwyn gwella ansawdd cyffredinol addysgu yn y sector. Yn unol â Digidol 2030: Fframwaith strategol, a gyhoeddwyd yn 2019 hefyd, cyfeiriai’r adroddiad at yr heriau a wynebai ymarferwyr o ran defnyddio technoleg ddigidol ar gyfer addysgu’n effeithiol. Roedd yn cydnabod bod diffyg sgiliau addysgu ym maes tiwtora ar-lein a datblygu’r cwricwlwm.

Ddechrau’r flwyddyn, dechreuodd Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) gydweithio â’r Dr Esther Barrett, Arbenigwr Pwnc, JISC Cymru, i ddatblygu rhaglen achrededig yn null ‘hyfforddi’r hyfforddwr’ ar gyfer ymarferwyr. Byddai modd i bob darparwr raeadru hyn gan edrych ar sgiliau dysgu cyfunol mewn ffordd gydnabyddedig, gyda chysondeb, ar gyfer y gweithlu cyfan.

Bydd cwrs ‘Crafted Teaching, Active Learning’ yn dechrau yn yr hydref 2020 a bydd pwyslais mawr ar ‘sut mae dysgwyr yn dysgu, sut mae addysgwyr yn addysgu a sut y gall sgiliau digidol helpu’. Bydd y cwrs yn cydweddu â’r Safonau proffesiynol ar gyfer athrawon addysg bellach ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru ac â Digidol 2030: Fframwaith strategol ar gyfer dysgu ôl-16 digidol yng Nghymru sydd newydd ei ddatblygu. Yn ogystal, bydd y cwrs yn defnyddio Pasbort Dysgu Proffesiynol Cyngor y Gweithlu Addysg [CGA] i roi tystiolaeth ar gyfer Datblygiad Proffesiynol Parhaus, myfyrio gan ymarferwyr, ac asesu.

Bu NTfW yn dangos hefyd sut y gall technoleg gefnogi a gwella dulliau asesu mwy arloesol ac effeithiol yn y gweithle. Mae trafodaethau ar y gweill gyda Cymwysterau Cymru a chyrff dyfarnu ynghylch y brys cynyddol i ddefnyddio technoleg ar gyfer yr asesiadau hyn. Byddant yn arwain at opsiynau mwy hyblyg a defnyddio goruchwyliaeth o bell ar gyfer asesiadau a phrofion os yw goruchwylio wyneb yn wyneb yn anodd.

Bu NTfW yn cynrychioli DSW ar grŵp gorchwyl a gorffen Llywodraeth Cymru ar ddysgu cyfunol, un o chwe ffrwd waith a sefydlwyd fel rhan o Gynllun Caderind COVID-19 ar gyfer y sector ôl-16. Bydd y Canllawiau dysgu cyfunol ar gyfer darparwyr Ôl-16 yn rhoi cymorth ychwanegol i ymarferwyr ddefnyddio technoleg a phlatfformau dysgu digidol

More News Articles

  —