Sgiliau miniog gan Marcio’r model sydd ar y rhestr fer am wobr!

Postiwyd ar gan NTfW Admin

English | Cymraeg

Marcio – yn datblygu gyrfa fel barbwr a model.

Marcio – yn datblygu gyrfa fel barbwr a model.

Mae Marcio Paixo yn torri ei gwys ei hunan wrth ddatblygu gyrfa fel barbwr a model. Ond er bod y dyfodol i’w weld yn ddisglair i’r bachgen ifanc o Ferthyr Tudful erbyn hyn, nid felly y bu erioed.

Ganed Marcio ym Mhortiwgal a symudodd i fyw gyda’i fodryb ym Merthyr Tudful pan ddaeth busnes ei dad i ben ac yntau’n wyth oed. Yna, pan oedd yn ei arddegau chwalodd priodas ei rieni.

Er iddo gael ei fwlio am flynyddoedd yn yr ysgol gynradd a’r ysgol uwchradd, gwnaeth yn dda yn academaidd ac enillodd wyth TGAU â graddau A-C.

Ond Hyfforddeiaeth Lefel 1 trwy’r darparwr hyfforddiant PeoplePlus Cymru – Canolfan Merthyr a roddodd hwb wirioneddol i yrfa Marcio, 17 oed. Dechreuodd ei sgiliau ddatblygu yn fuan iawn ar ôl cychwyn lleoliad gwaith yn siop farbwr Lazarou Bros ym Merthyr lle’r oedd y perchennog Andreas yn cynnig hyfforddiant arbenigol iddo.

Yn awr, mae Marcio wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Dysgwr y Flwyddyn – Hyfforddeiaeth (Lefel 1) yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru y mis nesaf, sef y dathliad blynyddol o lwyddiant eithriadol mewn hyfforddiant a phrentisiaethau.

Mae tri deg pedwar o unigolion a sefydliadau, mewn dwsin o gategorïau, ar y rhestrau byrion ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru a gyflwynir mewn seremoni fawreddog yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol newydd Cymru, Casnewydd ar 24 Hydref.

Bwriad y gwobrau yw tynnu sylw at lwyddiant dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr gorau Cymru sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.

Trefnir Gwobrau Prentisiaethau Cymru ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) a’r prif noddwr eleni yw Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig. Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).

Erbyn hyn, mae Marcio yn cychwyn ar Brentisiaeth Sylfaen gyda Lazarou Bros ac, yn ogystal â thorri gwallt llawer o gleientiaid i safon uchel, mae’n datblygu gyrfa fel model gyda nifer o frandiau ffasiwn yn galw am ei wasanaeth i fodelu eu dillad i’w dangos ar-lein.

Dywedodd Ryan James, Tiwtor gyda PeoplePlus Merthyr: “Mae gan Marcio holl rinweddau hyfforddai eithriadol, ac mae’n rhagori ar ei ddisgwyliadau er iddo wynebu heriau pan oedd yn iau. Mae wir yn batrwm i eraill.”

Dywedodd Marcio: “Trwy PeoplePlus a fy Hyfforddeiaeth, rwy wedi magu hyder a sgiliau a fydd yn golygu y gallaf symud ymlaen i’r yrfa rwy wedi anelu ati erioed.”

Llongyfarchodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Marcio a phawb arall sydd ar y rhestrau byrion.

“Mae rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru yn helpu i sicrhau bod rhagor o bobl yn datblygu’r sgiliau a’r profiad y gwyddom fod ar fusnesau eu hangen ym mhob sector o’r economi yng Nghymru,” meddai.

“Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru’n gyfle gwych i ddathlu ac arddangos llwyddiant yr unigolion a’r sefydliadau disglair sy’n ymwneud â’r rhaglenni hyn, o brentisiaid a chyflogwyr, i ddarparwyr hyfforddiant a hyfforddeion.”

More News Articles

  —