Kane ar y rhestr fer am wobr genedolaethol diolch i’w Hyfforddeiaeth
Diolch i’w brofiad yn helpu ar gynllun cymunedol, profiad gwaith mewn archfarchnad a lleoliad gwaith ar orsaf radio, mae Kane Laver McMahon wedi datblygu sgiliau cyfathrebu a gwaith tîm.
Roedd y bachgen 19 oed yn unig ac yn dioddef o orbryder ar ôl i’r teulu symud o Luton i’r Barri. Ond bu rhaglen 12 wythnos gydag Ymddiriedolaeth y Tywysog, wedi’i rhedeg gan gorff hyfforddi o’r Barri, People Business Wales, yn help i Kane oresgyn ei broblemau a gwella’i sgiliau cyflogadwyedd.
Yn awr, mae Kane wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Dysgwr y Flwyddyn – Hyfforddeiaeth (Lefel 1) yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru y mis nesaf, sef y dathliad blynyddol o lwyddiant eithriadol mewn hyfforddiant a phrentisiaethau.
Mae tri deg pedwar o unigolion a sefydliadau, mewn dwsin o gategorïau, ar y rhestrau byrion ar gyfer y gwobrau a gyflwynir mewn seremoni fawreddog yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol newydd Cymru, Casnewydd ar 24 Hydref.
Bwriad y gwobrau yw tynnu sylw at lwyddiant dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr gorau Cymru sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.
Trefnir Gwobrau Prentisiaethau Cymru ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) a’r prif noddwr eleni yw Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig. Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).
Cafodd Kane hwb i’w hyder ar gynllun cymunedol i uwchgylchu hen ddodrefn er budd hosbis i blant ac yna ar leoliad gwaith yn Waitrose a arweiniodd at iddo gael cynnig swydd ddydd Sadwrn.
Hefyd, trwy ei hoffter o gerddoriaeth, cafodd Kane leoliad gwaith gyda Radio Bro lle mae ganddo sioe radio ddwyawr bob wythnos erbyn hyn yn rhoi llwyfan i gerddorion newydd.
Llwyddodd Kane i symud ymlaen i Hyfforddeiaeth Lefel 1 gyda People Business Wales ac erbyn hyn mae’n astudio ar gyfer Lefel 2 mewn Lletygarwch yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro.
Dywedodd Rheolwr Canolfan People Business Wales, Caroline Morris-Hills: “Mae Kane wedi cofleidio pob cyfle a gafodd ac mae hyn wedi’i helpu i adfer ei hyder. Mae ganddo le i ymfalchïo yn yr hyn mae wedi’i gyflawni.”
Ac meddai Kane: “Rwy wedi wynebu fy mhroblemau â gorbryder a diffyg hyder ac wedi’u goresgyn. Roedd symud o Luton yn anodd ond wrth ymuno â People Business a gwneud fy Hyfforddeiaeth fe wnes i ffrindiau newydd ac fe ddaeth fy hyder yn ôl.”
Llongyfarchodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Kane a phawb arall oedd ar y rhestrau byrion.
“Mae rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru yn helpu i sicrhau bod rhagor o bobl yn datblygu’r sgiliau a’r profiad y gwyddom fod ar fusnesau eu hangen ym mhob sector o’r economi yng Nghymru,” meddai.
“Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru’n gyfle gwych i ddathlu ac arddangos llwyddiant yr unigolion a’r sefydliadau disglair sy’n ymwneud â’r rhaglenni hyn, o brentisiaid a chyflogwyr, i ddarparwyr hyfforddiant a hyfforddeion.”
More News Articles
« Humie’r ymgyrchwraig yw cadeirydd newydd grŵp cynghori ar anableddau dysgu — Sgiliau miniog gan Marcio’r model sydd ar y rhestr fer am wobr! »