Mae Sioned, sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol, yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i ddysgwyr a chydweithwyr
Mae cyd-gydlynydd HWB Sgiliau Hanfodol Urdd Gobaith Cymru yn ymarferydd dysgu seiliedig ar waith sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i les dysgwyr a chydweithwyr.
Mae Sioned Roberts, 29, o Gaerdydd, sydd wedi gweithio i’r Urdd ers 2021, yn angerddol dros sicrhau bod gan bob dysgwr lais, a bod pob dysgwr sy’n siarad Cymraeg yn cael cyfle cyfartal i astudio yn eu hiaith eu hunain neu’n ddwyieithog.
Mae hi a chydweithiwr yn cyd-arwain y gwaith o gynllunio, creu a chyflwyno rhaglenni Sgiliau Hanfodol yr Urdd, sy’n cynnwys cyfathrebu a chymhwyso rhif a llythrennedd digidol, o Lefel Mynediad i Lefel 3 drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn ddwyieithog.
Bellach, mae Sioned wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2024, gwobrau uchel eu parch, a hynny yng nghategori Ymarferydd Dysgu Seiliedig ar Waith y Flwyddyn.
Mae’r gwobrau, sy’n uchafbwynt y flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith, yn cael eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a’u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru. Y prif noddwr yw EAL.
Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo a gynhelir yn ICC Cymru, Casnewydd ar 22 Mawrth 2024. Mae’r gwobrau’n tynnu sylw at lwyddiannau rhagorol cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith.
Yn gyn-athrawes ysgol uwchradd, mae Sioned yn creu adnoddau addysgu wedi’u teilwra ar gyfer cydweithwyr a dysgwyr, ac mae’n gyfrifol am bartneriaethau HWB â cholegau a darparwyr hyfforddiant.
Mae Sioned hefyd yn cyfrannu at ddatblygu rheolwyr, aseswyr a thiwtoriaid drwy gynnal hyfforddiant, asesiadau, gweithdai a sesiynau addysgu i hyrwyddo dysgu cyfrwng Cymraeg a dwyieithog ac integreiddio’r sgiliau maen nhw’n eu dysgu i gyrsiau galwedigaethol.
Yn swyddog cymorth cyntaf iechyd meddwl cymwysedig yn y gweithle, mae’n gweithio gyda dysgwyr, ar lefel un i un yn aml, sydd o ystod eang o gefndiroedd ac sydd ag anghenion a rhwystrau dysgu amrywiol.
Gan geisio gwella’r gefnogaeth i ddysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol yn barhaus, mae wedi ennill cymhwyster Lefel 3 Anawsterau Cudd gan Gymdeithas Dyslecsia Prydain, mae’n mynychu cyrsiau ac yn ymchwilio i ddulliau addysgu.
Gan weithio gyda phrentisiaid cynhwysiant ac amrywiaeth cyntaf yr Urdd, mae hi wedi datblygu sesiynau sy’n gynhwysol o ran iaith, diwylliant ac anghenion ieithyddol dysgwyr.
“Y prif beth dw i’n ei fwynhau am y swydd hon yw gweld dysgwyr yn datblygu eu hyder yn eu sgiliau Cymraeg o fewn y gweithle a’r tu allan,” meddai Sioned, sy’n awyddus i ddatblygu’r HWB a’r partneriaethau ymhellach.
Dywedodd Catrin Davis, pennaeth prentisiaethau’r Urdd: “Mae Sioned yn gweithio’n galed, yn gymwynasgar ac yn angerddol dros sicrhau bod ei dysgwyr yn llwyddo a bod y Gymraeg yn ffynnu. Mae datblygiad a llwyddiant ei dysgwyr wrth wraidd popeth mae hi’n ei wneud.”
Llongyfarchodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, Sioned a phawb arall a oedd wedi cyrraedd y rownd derfynol.
“Prentisiaid heddiw fydd arbenigwyr yfory, ac mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn ein galluogi i gydnabod prentisiaid, ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith, a chyflogwyr sydd wedi mynd y filltir ychwanegol. Mae eu dycnwch, eu hangerdd a’u hymrwymiad i feithrin eu gyrfaoedd eu hunain, gyrfaoedd pobl eraill, ac, yn fwy eang, economi Cymru, yn ein hysbrydoli. Dw i’n dymuno pob lwc i bob un o’r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol – ar gyfer y gwobrau a’u hymdrechion yn y dyfodol.”
Wrth longyfarch y rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol, dywedodd Al Parkes, rheolwr gyfarwyddwr EAL: “Fel y sefydliad dyfarnu arbenigol a phartner sgiliau ar gyfer y diwydiant peirianneg a gweithgynhyrchu, mae prentisiaethau yng Nghymru yn arbennig o bwysig i ni. Mae prentisiaethau’n chwarae rhan bwysig wrth gefnogi cynnydd personol trwy gyfleoedd gyrfa ac ymdeimlad o lwyddiant, gan sicrhau hefyd bod gan gyflogwyr y sgiliau cywir ar yr adeg gywir i gadw ar drywydd anghenion y diwydiant, sy’n newid yn gyson. Mae EAL wedi ymrwymo i annog cyflogwyr i gyflogi prentisiaid. Mae nodi llwyddiannau cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru yn hanfodol ar gyfer hyn.”
I gael rhagor o wybodaeth am sut i recriwtio prentis, ewch i: https://www.llyw.cymru/prentisiaethau-dewis-doeth neu ffoniwch 03000 603000.
More News Articles
« Gareth – ymarferydd “eithriadol” – yn ysbrydoliaeth i ddysgwyr a chydweithwyr — Pobl Ifanc Cymru yn Fuddugol yn y Gystadleuaeth Sgiliau Genedlaethol »