Stephen yn paratoi mewn ffordd ymarferol at yrfa mewn peirianneg

Postiwyd ar gan karen.smith

Stephen Pickles – exceeding expectations.

Stephen Pickles gyda rheolwr cynhyrchu Renishaw, Lee Hodgson.

English | Cymraeg

Yn yr ysgol, roedd Stephen Pickles yn hoffi gwersi ymarferol ac roedd yn mwynhau gweithio ar brosiectau gartref. Roedd yn gwybod nad oedd am ddilyn cwrs llawn amser yn yr ystafell ddosbarth a phenderfynodd ar yrfa mewn peirianneg.

Pan oedd yn 16 oed, cafodd gynnig prentisiaeth gyda’r cwmni peirianneg byd-eang Renishaw sy’n ymwneud â mesur, rheoli symudiad, gofal iechyd, spectroscopeg a gweithgynhyrchu. Mae’r cwmni’n cyflogi dros 2,800 o bobl yn y Deyrnas Unedig.

Mae Stephen, sy’n 19 oed, wedi ennill HNC mewn Gweithgynhyrchu Mecanyddol ym maes Peirianneg â rhagoriaeth, cymhwyster comisiynu NVQ lefel 3 trwy Brifysgol De Cymru, a llwyddodd i wneud hynny yn hanner yr amser a ganiatawyd. Mae’n bwriadu symud ymlaen i wneud HND llawn a Diploma mewn Gweithgynhyrchu a Pheirianneg Fecanyddol.

Erbyn hyn, mae wedi’i gydnabod yn un o ddysgwyr gorau Cymru trwy gyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru. Bydd yn cystadlu i fod yn Brentis y Flwyddyn yn y seremoni wobrwyo fawreddog yn y Celtic Manor, Casnewydd ar 20 Hydref.

Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) ac fe’u noddir gan Pearson PLC a’u cefnogi gan Media Wales, y partner yn y cyfryngau.

Mae 30 o ddysgwyr, cyflogwyr a darparwyr dysgu sydd wedi serennu mewn nifer o raglenni sgiliau llwyddiannus ledled Cymru wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru.

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Mae’r gwobrau’n arddangos ac yn dathlu llwyddiant eithriadol dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.

Erbyn hyn, mae Stephen, sy’n byw yn Llanrhymni, yn ei flwyddyn ‘wella’ olaf gyda Renishaw. Mae wedi cwblhau naw prosiect, pob un â ffolderi technegol a phob un yn llwyddiannus – y tro cyntaf i brentis lwyddo i wneud hyn ar safle Meisgyn.

Llwyddodd i ragori ar ddisgwyliadau pawb pan gwblhaodd ei brosiect cyntaf yn ddim ond 16 oed – prosiect yr oedd graddedigion wedi methu ei gwblhau o fewn yr amser.

Ar hyn o bryd, mae’n gweithio yn y Grŵp Datblygu Cydosod lle mae’n helpu i wneud newidiadau peirianyddol i beiriannau gweithgynhyrchu ychwanegion metal Renishaw.

Dywedodd Lee Hodgson, mentor Stephen: “Rwy’n meddwl mai’r ganmoliaeth orau y gallaf ei rhoi i Steve yw bod nifer o weithwyr Renishaw yn meddwl ei fod yn beiriannydd a’u bod wedi’u syfrdanu pan ddywedais i ei fod yn dal yn brentis.”

Wrth ganmol safon uchel yr ymgeiswyr eleni a llongyfarch Stephen ar gyrraedd y rhestr fer, dywedodd y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James: “Mae’r rhai sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni yn cynnwys unigolion eithriadol sydd wedi rhagori yn eu gweithle, a darparwyr dysgu a chyflogwyr sydd wedi mynd yr ail filltir i gefnogi’r prentisiaid sy’n gweithio gyda nhw. Mae eu straeon bob amser yn rhyfeddol ac yn ysbrydoliaeth.

“Mae prentisiaethau a hyfforddiant sgiliau galwedigaethol yn rhan hanfodol o lwyddiant economaidd ac yn anhepgor er mwyn adeiladu Cymru sy’n gryfach, yn decach ac y fwy cyfartal.

“Mae’r gwobrau hyn yn llwyfan delfrydol ar gyfer dathlu llwyddiant a gwobrwyo gwaith caled ac ymroddiad dysgwyr, cyflogwyr a darparwyr hyfforddiant ledled Cymru. Dymuniadau gorau i bawb ar y noson.”

More News Articles

  —