Prentisiaethau’n allweddol i agenda sgiliau Cymru

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Gan Sarah John, cadeirydd Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru.

Er bod llawer iawn o drafod wedi bod yn 2017 ar fater gadael yr Undeb Ewropeaidd, bu tua’r un faint o drafod ar rywbeth sy’n dychwelyd hefyd – Prentisiaethau. Gyda dyfodiad Ardoll Brentisiaethau Llywodraeth y Deyrnas Unedig ym mis Ebrill, mae cyflogwyr yng Nghymru’n dangos mwy o ddiddordeb nag erioed mewn cymryd rhan yn y Rhaglen Brentisiaethau.

Daeth Brexit a’r Ardoll Brentisiaethau ar adeg pryd y mae dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru wedi cyrraedd carreg filltir bwysig yn ei ddatblygiad sef, yn bennaf, proffesiynoli’r gweithlu.
Gyda’r holl bethau hyn mewn cof, roedd ein cynhadledd flynyddol yn Stadiwm Dinas Caerdydd fis diwethaf yn gyfle delfrydol am drafodaeth rhwng cyflogwyr, darparwyr a Llywodraeth Cymru. Daeth dros 180 o bobl i’r gynhadledd lwyddiannus gyda’r nod o gydweithio er budd unigolion, cyflogwyr ac economi Cymru yn ehangach.

Cydweithio mewn partneriaeth oedd thema anerchiad cadarnhaol Julie James, y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Llywodraeth Cymru. Roedd yn braf iawn ei bod hi a siaradwyr eraill wedi cydnabod cyfraniad sylweddol yr NTfW at agenda sgiliau Llywodraeth Cymru.

Dewiswyd ‘Prentisiaethau yng Nghymru – Sylfaen economi ar gyfer y dyfodol’ yn thema i’r gynhadledd am fod yr Ardoll Brentisiaethau wedi codi ymwybyddiaeth o’r rhaglenni amrywiol sydd ar gael yng Nghymru, eu perthnasedd i weithgarwch sy’n canolbwyntio ar waith a phroffesiynoldeb yr wybodaeth sydd ynddynt.

Fel darparwyr dysgu, rydym yn helpu cyflogwyr i adolygu’r gwaith o gynllunio’r gweithlu, o ganfod gweithwyr y mae angen cynyddu eu sgiliau yn eu swydd bresennol ac o gynllunio gwaith recriwtio gan ddefnyddio’r Rhaglen Brentisiaethau. Mae’r NTfW yn chwarae rhan arweiniol yn cynnig cyngor diduedd ac arweiniad i gyflogwyr.

Wrth edrych ymlaen, mae’n rhaid i ni baratoi at ddyfodol addysg a hyfforddiant ôl-16 yn dilyn Adolygiad Hazelkorn, sy’n anelu at ‘…(d)datblygu system addysg ôl-orfodol o’r radd flaenaf’ yng Nghymru. Bydd y rhwydwaith dysgu seiliedig ar waith yn chwarae rhan allweddol wrth i ni newid y ddarpariaeth a chydweithio mwy mewn ymateb i flaenoriaethau economaidd Llywodraeth Cymru ar gyfer prentisiaethau a chanfyddiadau’r tair Partneriaeth Sgiliau Ranbarthol.

Cymerwyd cam sylweddol ymlaen at gydnabod gwaith pwysig ein sector ni ym mis Ebrill pan gafodd ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith gofrestru am y tro cyntaf fel addysgwyr proffesiynol gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.

Mae’r NTfW wedi dod yn bell dros y degawd diwethaf ac roedd yn amlwg i bawb a fu yn ein cynhadledd pa mor bwysig yw’r rhwydwaith yn y gwaith o wireddu agenda sgiliau Llywodraeth Cymru.

Rydym wedi cyflwyno dogfen o’r enw ‘Datrysiadau Creadigol’ i’r Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, yn cynnig syniadau am y ffordd y gall y rhwydwaith greu rhagor o gyfleoedd am brentisiaethau a llwybrau gyrfa mewn sectorau blaenoriaeth, gan adlewyrchu’r sgiliau y mae’r Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol wedi nodi y bydd angen amdanynt yn y dyfodol.

Rydym yn canolbwyntio’n llwyr ar y targed a bennwyd gan Lywodraeth Cymru i ganfod o leiaf 100,000 o brentisiaid o safon uchel o bob oed yn ystod tymor y Llywodraeth bresennol. Dyna pam y buom yn cydweithio â’r CBI yn y gynhadledd i ehangu ein gweithdai i gynnwys cyfleoedd i gyflogwyr ddysgu mwy am y polisi prentisiaethau.

Fel rhan o’n cynlluniau ‘Datrysiadau Creadigol’, rydym yn trafod ymholiadau am brentisiaethau o wefan Busnes Cymru yn awr hefyd. Mae’r NTfW yn ei osod ei hunan fel cyfryngwr, yn rhoi cyngor ac arweiniad i gyflogwyr ac yn cyfeirio darparwyr at gyfleoedd. O fewn pythefnos ar ôl lansio’r gwasanaeth fis diwethaf, cawsom ymholiadau gan dros 70 o gyflogwyr, sy’n arwydd o’r effaith gadarnhaol a gawn.

Yn ogystal, trefnwyd cyfres o dri digwyddiad gwybodaeth rhanbarthol gennym – yn Llandudno ar 11 Gorffennaf, Llandrindod ar 18 Gorffennaf a Chaerdydd ar 20 Gorffennaf – ar ran Llywodraeth Cymru i roi gwybod i gyrff yn y sector cyhoeddus yng Nghymru am yr Ardoll Brentisiaethau a sut i ddechrau cynnig prentisiaethau.

Cymerodd yr NTfW ran hefyd yn yr ymchwiliad i Brentisiaethau a gynhaliwyd gan Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, pan fu’r aelodau’n ymweld â chyflogwyr a phrentisiaid er mwyn deall yn iawn beth yw manteision y Rhaglen Brentisiaethau. Bu hwn yn gynllun llesol iawn a lwyddodd i gadarnhau pwysigrwydd prentisiaethau i economi Cymru.

Bu gennym ran allweddol yn sefydlu grŵp trawsbleidiol ar Brentisiaethau ac fe’n cynrychiolir ar Fwrdd Cyflogaeth a Sgiliau Cymru. Wrth i’r Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol barhau i gynghori Llywodraeth Cymru ar baru cyllid ag anghenion cyflogaeth a sgiliau rhanbarthol, mae’n bwysig ein bod ni’n cyfrannu ar lefel strategol.

Er mwyn ymdopi â’r holl waith ychwanegol hyn a symud ymlaen â’n strategaeth ar gyfer y dyfodol, rydym wedi cyfethol pedwar aelod newydd i gryfhau ein bwrdd ac rydym yn gobeithio cyflogi pum aelod newydd o’r staff yn fuan. Mae’n amser prysur, ond cyffrous, i fod yn ymwneud â dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru.

More News Articles

  —