Taith ddysgu ysbrydoledig Thibaud yn ennill gwobr genedlaethol iddo

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Thibaud Gailliard, enillydd gwobr Dysgwr y Flwyddyn – Hyfforddeiaeth (Lefel 1).

Mae dyn ifanc wedi ennill gwobr genedlaethol o bwys am ei ddatblygiad ysbrydoledig ers iddo gyrraedd Cymru o Ffrainc yn fachgen swil 16 oed ar ôl i’w fam farw o ganser.

Bum mlynedd yn ôl, ychydig o Saesneg oedd gan Thibaud Gailliard a doedd ganddo ddim cymwysterau ffurfiol na phrofiad o weithio i’w helpu i gael gwaith yng Nghymru.

Bu Thibaud yn lwcus i ganfod Rhaglen Ymgysylltu yn y Cyfryngau Creadigol ar ffurf Hyfforddeiaeth gan y darparwr hyfforddiant Sgiliau Cyf o Risga. Yn fuan iawn, dysgodd Saesneg ac ennill nifer fawr o gymwysterau gan wella’i sgiliau mewn TG, dylunio a cherddoriaeth.

Ar ôl yr Hyfforddeiaeth, aeth Thibaud ymlaen i wneud Dyfarniad Lefel 1 i Ddefnyddwyr TGCh gyda chwmni Sgiliau. Gwnaeth y fath argraff arnynt nes iddynt ei gyflogi a threfnu iddo wneud Prentisiaeth Sylfaen mewn TG. Mae wedi’i chwblhau erbyn hyn.

I gydnabod ei daith ddysgu, enillodd Thibaud, 21, o Lynebwy, wobr Dysgwr y Flwyddyn – Hyfforddeiaeth (Lefel 1) yn seremoni rithwir Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2021 ar 17 Mehefin.

Dywedodd Thibaud: “Pan ddois i i Gymru doedd gen i ddim byd ond nawr rwy wedi ennill gwobr. Alla i ddim diolch digon i Sgiliau achos maen nhw wedi dysgu popeth i mi. Roedd rhywun yno i fy helpu bob amser pan oedd angen cefnogaeth arna i.

“Rwy’n awyddus i ennill rhagor o gymwysterau a dal i dyfu gyda’r cwmni.”

Roedd Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2021 yn dathlu llwyddiant eithriadol ym myd hyfforddiant a phrentisiaethau ac roedd 35 o ymgeiswyr yn y rownd derfynol mewn 12 categori.

Y gwobrau oedd uchafbwynt y flwyddyn i’r byd dysgu seiliedig ar waith. Roeddent yn rhoi sylw i fusnesau ac unigolion oedd wedi rhagori yn Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru ac wedi mynd yr ail filltir i lwyddo yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Trefnwyd y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig a chwmni sy’n frwd o blaid prentisiaethau, oedd y prif noddwr.

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF). Mae 50,360 o bobl ledled y de-ddwyrain wedi elwa ar raglenni prentisiaethau Llywodraeth Cymru ers mis Mai 2016.

Erbyn hyn, mae Thibaud yn siarad ac yn ysgrifennu Saesneg yn rhugl. Yn ei waith fel gweinyddwr arweiniol, mae’n gofalu am gronfa ddata Sgiliau o wybodaeth ynghylch rheoli ac mae honno’n esgor ar wybodaeth bwysig ym maes cyllido. Mae hefyd yn rhoi cymorth gwirfoddol i ddysgwyr y cwmni sydd ar Hyfforddeiaeth TG.

“Mae’r trawsnewidiad yn Thibaud, o fachgen 16 oed, prin ei Saesneg a’i hyder, yn anhygoel,” meddai Charlotte Evans, un o gyfarwyddwyr Sgiliau. “O ystyried yr heriau y mae wedi’u hwynebu a’r hyn y mae wedi gorfod ei oresgyn, mae’n rhyfeddol.

“Mae Thibaud yn batrwm ardderchog i ddysgwyr eraill ar Hyfforddeiaethau ac rydyn ni’n falch iawn o’r hyn y mae wedi’i gyflawni.”

Symud i Gymru i fyw gyda’i frawd a wnaeth Thibaud ac mae’n disgrifio Sgiliau fel ei deulu newydd. “Rwy’n teimlo mod i’n perthyn yma ac mae Sgiliau wedi rhoi cyfle am yrfa wych i mi.”

Wrth longyfarch Thibaud, dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething: “Mae enillwyr y gwobrau wedi rhagori wrth ymwneud â Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru ac wedi mynd yr ail filltir i lwyddo yn ystod y cyfnod anodd hwn na welwyd ei fath o’r blaen.

“Mae gan Lywodraeth Cymru gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer ailgodi gan sicrhau nad oes cenhedlaeth goll wrth i ni ailadeiladu fersiwn newydd o Gymru a fydd yn beiriant i greu twf cynaliadwy a chynhwysol. Rwy’n credu y bydd prentisiaethau’n hollbwysig wrth i ni ddod dros effeithiau’r pandemig.

“Dyna pam y mae Llywodraeth newydd Cymru wedi ymrwymo i greu 125,000 o lefydd ychwanegol ar Brentisiaethau dros y pum mlynedd nesaf. Gwlad fechan ydym ond mae gennym uchelgeisiau mawr a’n nod yw creu diwylliant yng Nghymru lle mai recriwtio prentis yw’r norm i gyflogwyr.”

More News Articles

  —