Tîm Cambria yn Ennill Sawl Fedal yn Rowndiau Terfynol Worldskills UK
Unwaith eto eleni, daeth myfyrwyr Coleg Cambria â llu o fedalau adref gyda nhw o rowndiau terfynol cenedlaethol Worldskills UK, a gynhaliwyd yn yr NEC yn Birmingham, yn rhoi’r coleg yn ail ar y tabl medalau.
Roedd gan y coleg tîm cryf o 27 o fyfyrwyr a chyn-fyfyrwyr yn cystadlu, gyda nifer ohonynt yn dod o’n partneriaid busnes yr ydym yn gweithio’n agos iawn â nhw, yn enwedig ar gyfer y cystadlaethau hyn. Llwyddodd nifer fawr o’r tîm i ennill medal, gan gynnwys Davey Brookes, sy’n cael ei gyflogi gan Airbus, a enillodd aur yn y categori Peirianneg Fecanyddol Awyrennau.
Yr holl enillwyr medalau oedd:
- AUR: Davey Brookes, Peirianneg Fecanyddol Awyrennau – wedi’i gofrestru trwy Airbus
- ARIAN: Emily Watson, Therapi Harddwch (Body)
- ARIAN: Sophie Quirk, Gwasanaethau Ewinedd
- ARIAN (x3): Kendal Irvine, Dylan Edwards a George Walker, Her Tîm Gweithgynhyrchu – wedi’u cofrestru trwy JCB
- ARIAN (x3): Sinead Beck, Liam Rock a Lewis Nolan, Her Tîm Gweithgynhyrchu – wedi’u cofrestru trwy Magellan
- EFYDD: Callum McLaughlin, CNC Turnio – wedi’i gofrestru trwy GJ Maintenance Engineering
Yn ychwanegol i lwyddiant yr enillwyr medalau, cafodd 13 o fyfyrwyr Cambria eu gwahodd i fod yn rhan o garfan gyn-derfynol Tîm Prydain ar gyfer rowndiau Terfynol Worldskills y Byd yn Kazan, Rwsia yn 2019.
Y rhai a gafodd eu gwahodd i fod yn rhan o’r garfan gyn-derfynol ar gyfer Kazan 2019:
- Davey Brookes – Peirianneg Fecanyddol Awyrennau
- Balazs Sparing – Peirianneg Fecanyddol Awyrennau
- Lewys Rawlings – Paentio ac Addurno
- Emily Watson – Therapi Harddwch
- Josh Jones – Technoleg Cerbydau Modur
- Ieuan Evans – Adeiladu Gwaith Metel
- Charlie Smith – Trin gwallt
- Kendal Irvine, Dylan Edwards, George Walker – Her Tîm Gweithgynhyrchu (x 3 aelod)
- Sinead Beck, Liam Rock, Lewis Nolan – Her Tîm Gweithgynhyrchu (x 3 aelod)
Mae Worldskills UK yn gyfres o gystadlaethau sgiliau safon uwch sy’n cael eu cynnal bob blwyddyn ledled Prydain. Nod y cystadlaethau hyn yw annog pobl ifanc ac oedolion Prydain i ragori ar eu sgiliau galwedigaethol a chodi parch, cyfranogiad a safonau gwaith ym mhrentisiaethau a hyfforddiant galwedigaethol.
Heb gefnogaeth gan gyflogwyr yn rhyddhau eu prentisiaid i hyfforddi ac i gystadlu yn y Sioe Sgiliau, ni fyddai pobl ifanc yn cael y profiadau gwerthfawr hyn. Mae’r gystadleuaeth yn annog ac yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf, yn enwedig gyda dwy ferch yn ennill medalau arian yn y maes Peirianneg.
Yn ystod y Sioe Sgiliau roedd Coleg Cambria hefyd yn dangos Gwaith Melino CNC a Gwaith Llen Fetel gyda Magellan a Bayleigh, gyda’r ddau arddangosiad wedi’u staffio gan brentisiaid Coleg Cambria.
Ymwelodd dros 250 o staff a myfyrwyr o safleoedd Ffordd y Bers, Iâl a Glannau Dyfrdwy â’r Sioe Sgiliau ar ddydd Gwener y gystadleuaeth, gan ddysgu am y cystadlaethau a chefnogi’r cystadleuwyr.
Mae Joe Massey, a enillodd Medal Rhagoriaeth yn rowndiau terfynol WorldSkills yn Abu Dabi yn ddiweddar, wedi symud yn ei flaen yn sydyn iawn, ac oedd yn feirniad ar gyfer y gystadleuaeth Peirianneg Fecanyddol Awyrennau eleni.
Dywedodd Rona Griffiths, Dirprwy Gyfarwyddwr y Cwricwlwm ar gyfer Profiad Dysgwyr a Mentergarwch:
“Mae’r Sioe Sgiliau yn gyfle gwych i bobl ifanc archwilio gyrfau cyffrous yn ogystal â gwylio rhai o’r perfformwyr gorau yn cystadlu yn eu meysydd. Cynrychiolodd pob un o’n 27 o fyfyrwyr a phrentisiaid y coleg fel y gorau yn eu meysydd – sy’n dipyn o brawf a thyst i’r hyfforddiant ardderchog sy’n digwydd o ddydd i ddydd yng Ngholeg Cambria.
“Ni allaf ddechrau dweud wrthych ba mor drawiadol oedd ein holl gystadleuwyr trwy gydol y 3 diwrnod. Rwyf mor falch o bob un o’r cystadleuwyr ac yn ddiolchgar i’w hyfforddwyr, cyflogwyr a’u teuluoedd cefnogol.”
Dywedodd David Jones OBE, Prif Weithredwr Coleg Cambria:
“Llongyfarchiadau mawr i’n myfyrwyr dawnus am eu llwyddiant anhygoel yn Birmingham. Mae’n wych bod eu sgiliau wedi cael eu cydnabod fel y gorau yn eu meysydd ar lwyfan cenedlaethol ochr yn ochr â’r prentisiaid a dysgwyr gorau ym Mhrydain.
“Eleni, Cambria oedd â’r nifer uchaf o gyfranogwyr o unrhyw goleg arall yng Nghymru, sy’n adlewyrchu gwaith caled ac ymrwymiad y staff sy’n ymwneud ag ystod o weithgareddau, gan gynnwys rhoi cymorth i gystadleuwyr, cynnal a hwyluso stondinau arddangos, beirniadu cystadlaethau a mynd â myfyrwyr i ymweld â sioeau.”
Dysgwch fwy am brentisiaethau heddiw
More News Articles
« Gwobrau o bwys i sêr Cymru ym maes dysgu seiliedig ar waith — Mae Sophie Hendy »