Gwobrau o bwys i sêr Cymru ym maes dysgu seiliedig ar waith

Postiwyd ar gan admin

20-10-17-App-Awards-155

English | Cymraeg

Bu cyfle i ddathlu llwyddiannau ysbrydoledig unigolion ac agwedd ddeinamig cyflogwyr a darparwyr dysgu ledled Cymru at hyfforddiant a datblygu sgiliau pan gyhoeddwyd enwau enillwyr cystadleuaeth fawr Gwobrau Prentisiaethau Cymru neithiwr (Hydref 20).

Daeth y 30 oedd wedi cyrraedd y rownd derfynol ynghyd i’r seremoni fawreddog a drefnwyd ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) ac a gynhaliwyd yng Ngwesty Hamdden y Celtic Manor, Casnewydd.

Mae’r gwobrau, a noddir gan Pearson PLC ac a gefnogir gan y partner yn y cyfryngau, Media Wales, yn arddangos ac yn dathlu llwyddiant eithriadol dysgwyr, cyflogwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Aeth gwobrau i bob rhan o Gymru, gydag enwau mawr fel Tata Steel yn rhannu’r clod gyda chwmnïau bach fel yr Happy Horse Retirement Home o Grai, ger Aberhonddu.

Tata Steel enillodd wobr Macro-gyflogwr y Flwyddyn, yn wyneb cystadleuaeth o du swyddfa Caerdydd Deloitte LLP.

I’r Swyddfa Eiddo Deallusol yng Nghasnewydd yr aeth gwobr Cyflogwr Mawr y Flwyddyn, er i Westy Hamdden y Celtic Manor a chwmni adeiladu Redrow o Sir y Fflint gyrraedd y rownd derfynol hefyd.

Sgiliau Adeiladu Cyfle, cynllun rhannu prentisiaethau yng ngorllewin Cymru, a’i bencadlys yn Rhydaman, enillodd wobr Cyflogwr Canolig y Flwyddyn. Y cwmnïau eraill yn y rownd derfynol oedd Electroimpact UK o Benarlâg a Celtica Foods, Crosshands.

Happy Horse Retirement Home gipiodd wobr Cyflogwr Bach y Flwyddyn yn wyneb her gan feithrinfa Archway Court, Casnewydd.

I ymarferwyr o’r de-ddwyrain yr aeth y gwobrau dysgu seiliedig ar waith. Enwyd Sue Jeffries, rheolwr gyfarwyddwr Sgil Cymru, Caerdydd, yn Asesydd y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ar Waith a Ros Smith o Bontypridd, sy’n gweithio i ACT Training, yn Diwtor y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ar Waith.

Aeth gwobrau’r prentisiaid i bobl o Gymru benbaladr. Peter Rushforth, cigydd o’r Wyddgrug, a ddyfarnwyd yn Brentis Uwch y Flwyddyn ac roedd wrth ei fodd yn ychwanegu tlws arall at ei gasgliad.

Sam Jones, 32 oed, o Bontypridd, sy’n gweithio i Wales & West Utilities, enillodd wobr Prentis Sylfaen y Flwyddyn. Roedd eisoes wedi ennill gwobrau Llysgennad a Seren ar Gynnydd gan ei gyflogwyr ar ôl creu ‘Sam y Ci Synhwyro’, sef caead i’w osod ar larymau carbon monocsid yn y cartref er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r lladdwr distaw.

Aeth gwobr Prentis y Flwyddyn i Stephen Pickles, 19, o Lanrhymni, sy’n gweithio i’r cwmni peirianyddol byd-eang, Renishaw, ym Meisgyn.

Aeth y ddwy wobr arall ar y noson i ddysgwyr ifanc sydd wedi elwa ar raglenni Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru.

Jordan William Jones, 18 oed, o Fangor, a gasglodd wobr Dysgwr y Flwyddyn – Hyfforddeiaethau (Ymgysylltu) ar ôl cychwyn ar yrfa yn y diwydiant moduron gyda Tyn Lôn Volvo yn Llanfair Pwllgwyngyll.

Aeth gwobr Dysgwr y Flwyddyn – Hyfforddeiaethau (Lefel 1) i Emily Wintle, 18 oed, o Lanharri, sydd wedi goresgyn sawl her wrth anelu at yrfa’n nyrs feithrin.

Wrth longyfarch yr enillwyr a’r rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol, dywedodd Julie James, y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth: “Mae’r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol eleni yn cynnwys unigolion eithriadol sydd wedi rhagori yn eu gweithle, a darparwyr hyfforddiant a chyflogwyr sydd wedi mynd yr ail filltir i gefnogi’r prentisiaid sy’n gweithio gyda nhw. Mae pob un wedi helpu i bennu safon aur mewn hyfforddiant galwedigaethol a dylid cymeradwyo hyn.

“Mae prentisiaethau yn rhan hanfodol o lwyddiant economaidd ac yn anhepgor er mwyn adeiladu Cymru sy’n gryfach, yn decach ac yn fwy cyfartal. Mae Llywodraeth Cymru, gyda chymorth o Gronfa Gymdeithasol Ewrop, o’r farn bod prentisiaethau yn ffordd ardderchog o adeiladu gweithlu medrus a chystadleuol, mynd i’r afael â phrinder sgiliau a chryfhau economi Cymru.

“Ni fu erioed yn bwysicach i ni gynyddu sgiliau lefel uwch a datblygu llwybrau sgiliau y bydd Cymru gyfan yn elwa ohonynt ac rydym yn ymroi i barhau â’r gwaith da sydd eisoes ar y gweill gyda busnesau, darparwyr hyfforddiant ac unigolion i gyflawni hyn.”

Dywedodd Sarah John, Cadeirydd NTfW: “Y gwobrau yw uchafbwynt y flwyddyn i bawb sy’n ymwneud â chyflenwi’r rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau llwyddiannus hyn. Gallwn ymfalchïo mai yng Nghymru y mae system Brentisiaethau orau’r Deyrnas Unedig.

“Fel rhwydwaith, rydym wedi brwydro ers blynyddoedd lawer i sicrhau’r un parch i gymwysterau galwedigaethol ag i gymwysterau academaidd. Mae adduned Llywodraeth Cymru i greu o leiaf 100,000 o brentisiaethau o safon uchel ar gyfer pobl o bob oed dros gyfnod o bum mlynedd, gan ganolbwyntio ar sgiliau lefel uwch a datblygu llwybrau sgiliau, wedi helpu’n fawr.

“Fodd bynnag, mae’n dal yn her sicrhau bod pobl ifanc sy’n gadael yr ysgol yng Nghymru yn gwybod am yr holl lwybrau gyrfa sy’n agored iddynt – yn academaidd ac yn alwedigaethol. Dim ond bryd hynny y bydd gennym wir gyfle cyfartal.”

Enillwyr y Gwobrau:

Cyflogwr Bach y Flwyddyn:
Mae Happy Horse Retirement Home yng Nghrai, ger Aberhonddu’n cyflogi wyth aelod o staff sy’n gofalu am 50 o geffylau. Mae’r perchnogion, Nicky a Ray Van Dijk, yn credu’n gryf mewn datblygu staff trwy raglenni prentisiaethau a gyflenwir gan Goleg Cambria. Maent wedi hyfforddi naw prentis mewn pum mlynedd ac mae’r rhan fwyaf ohonynt wedi mynd ymlaen i gael gyrfa yn y diwydiant ceffylau.

Cyflogwr Canolig y Flwyddyn:
Mae Sgiliau Adeiladu Cyfle yn rhaglen rhannu prentisiaethau ar gyfer y diwydiant adeiladu ac fe’i sefydlwyd 10 mlynedd yn ôl yn Rhydaman. Maent yn defnyddio dros 140 o gontractwyr ac yn cyflogi 135 o brentisiaid ledled gorllewin Cymru ar y rhaglen rhannu prentisiaethau, sy’n golygu ei fod yn un o’r cyflogwyr mwyaf o’i fath ym Mhrydain.

Cyflogwr Mawr y Flwyddyn:
Mae’r Swyddfa Eiddo Deallusol yng Nghasnewydd wedi recriwtio 32 o brentisiaid ers iddynt lansio rhaglen brentisiaethau yn 2014. Mae 19 yn gweithio yno ar hyn o bryd a bydd 20 arall yn dechrau yn ystod yr hydref eleni wrth i’r cwmni gydweithio’n agos â’r darparwr hyfforddiant Acorn Learning Solutions.

Macro-gyflogwr y Flwyddyn:
Mae Tata Steel yn cyflogi dros 6,300 o bobl yng Nghymru, yn cynnwys 211 o brentisiaid. Bu’r cwmni’n hyfforddi prentisiaid ers dros 50 mlynedd ac mae’n cydweithio â Choleg Pen-y-bont i sicrhau “ffrwd barod o dalent”.

Prentis Uwch y Flwyddyn:
Mae Peter Rushforth, 22 oed, sy’n byw yng Nghoed-llai ac yn gigydd yn Siop Fferm Swans, Treuddyn, ger yr Wyddgrug, wedi symud ymlaen o Brentisiaeth Sylfaen i Brentisiaeth Uwch mewn Rhagoriaeth Gweithgynhyrchu Bwyd gyda Chwmni Hyfforddiant Cambrian. Mae eisoes wedi ennill gwobr Cigydd Ifanc Cymru a medal aur WorldSkills UK, wedi cynrychioli’r Deyrnas Unedig mewn cystadleuaeth Ewropeaidd ac wedi ennill ysgoloriaeth i astudio yn America.

Prentis Sylfaen y Flwyddyn:
Prentis adeiladu a chyfnewid gyda Wales & West Utilities yw Sam Jones, 32 oed, o Bontypridd. Utilise T.D.S. Limited sy’n cyflenwi ei hyfforddiant ar ran Coleg Caerdydd a’r Fro.Enillodd wobrau Llysgennad a Seren ar Gynnydd gan ei gyflogwr ar ôl creu ‘Sam y Ci Synhwyro’, sef caead i’w osod ar larymau carbon monocsid yn y cartref er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r lladdwr distaw.

Prentis y Flwyddyn:
Prentis gyda’r cwmni peirianneg byd-eang, Renishaw, yw Stephen Pickles, 19 oed, o Lanrhymni. Mae wedi cwblhau prentisiaeth mewn Gweithgynhyrchu Mecanyddol ym maes Peirianneg trwy Brifysgol De Cymru ac ef yw prentis cyntaf y cwmni ar safle Meisgyn i gwblhau naw prosiect, pob un ohonynt â ffolderi technegol.

Tiwtor y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ar Waith:
Ros Smith, 43 oed, o Bontypridd, yw tiwtor arweiniol cerbydau modur ACT Training yng Nghaerdydd. Mae Ros wedi ymroi i newid bywydau ei dysgwyr ers dros 23 blynedd ac mae 96% ohonynt yn symud ymlaen i ddysgu pellach neu waith.

Asesydd y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ar Waith:
Roedd gan Sue Jeffries, 61 oed, o Bontcanna, Caerdydd, dros 30 mlynedd o brofiad yn cynhyrchu rhaglenni teledu a defnyddiodd hynny i sefydlu Sgil Cymru yn Rhymni, sy’n arbenigo mewn prentisiaethau mewn meysydd sy’n amrywio o ddylunio gwisgoedd i effeithiau arbennig. Mae’n asesydd arweiniol tair prentisiaeth yn y cyfryngau ac yn cynnig hyfforddiant hyblyg i gwrdd â’r galw gan gwmnïau teledu.

Dysgwr y Flwyddyn – Hyfforddeiaethau (Ymgysylltu):
Mae Jordan William Jones, 18 oed, o Fangor, yn gweithio i Tyn Lon Volvo yn Llanfair Pwllgwyngyll. Ar ôl colli ei fam a’i dad, symudodd i ogledd Cymru a chafodd ei annog gan ei fodryb a’i ewythr i geisio gyrfa yn y diwydiant moduron. Cafodd hwb fawr i’w hyder yn dilyn rhaglen Hyfforddeiaeth (Ymgysylltu) gyda Grŵp Llandrillo Menai ac erbyn hyn mae wedi dechrau ar Ddiploma Lefel 2 mewn Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau Ysgafn.

Dysgwr y Flwyddyn – Hyfforddeiaethau (Lefel 1):
Mae Emily Wintle, 18 oed, o Lanharri, wedi goresgyn dyslecsia a nifer o anawsterau ar y ffordd i ddod yn aelod gwerthfawr o staff meithrinfa St Aubin, y Bont-faen. Gyda chefnogaeth ACT Training, llwyddodd i gwblhau ei Hyfforddeiaeth Lefel 1 mewn Gofal Plant mewn tri mis ac, erbyn hyn, mae wedi symud ymlaen i wneud Prentisiaeth Sylfaen mewn Gofal Plant.

More News Articles

  —