Timau o Gaerdydd a Chasnewydd yn cyrraedd rownd derfynol Cymru, Her Arian am Oes Banc Lloyds

Postiwyd ar gan karen.smith

Mae pum tîm o bobl ifanc o dde-ddwyrain Cymru yn dathlu ar ôl creu argraff ar banel o feirniaid o fri a chyrraedd rownd derfynol Her Arian am Oes Banc Lloyds a gynhelir yr wythnos nesaf.

Nod y gystadleuaeth yw ysbrydoli pobl mewn cymunedau ledled y Deyrnas Unedig i feithrin gwell sgiliau rheoli arian.

Llwyddodd pedwar tîm o Gaerdydd – Cadwyn MoneySmart o Gymdeithas Tai Cadwyn, Tîm Annibyniaeth Ariannol V21, ARiAN (Apprentice Resources in A Nutshell) a Fashion on a Budget o Trowbridge – i drechu cystadleuwyr o Gymru benbaladr â’u prosiectau cyffrous.

A bydd Money Monkeys, sef tîm gan y darparwr hyfforddiant, ITEC, Casnewydd, yn ymuno â nhw yn y rownd derfynol.

Sefydlodd y pum grŵp eu prosiectau ym mis Ionawr, pan gawsant grant o £500 gan Arian am Oes i roi eu syniadau ar waith. Maent wedi dangos i feirniaid Her Arian am Oes bod y gallu ganddynt i wella’u sgiliau rheoli arian nhw eu hunain, a rhai eu ffrindiau, eu teuluoedd a hyd yn oed eu cymunedau.

Dewiswyd timau o Gymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban ar gyfer y rhestrau byrion o blith 300 o geisiadau a dderbyniwyd ar gyfer yr Her Arian am Oes. Bydd rownd derfynol Cymru yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ar 8 Ebrill. Yno, bydd pob tîm yn cyflwyno’i brosiect rheoli arian i banel o feirniaid o fri.

Bydd y tîm buddugol yn ennill £1,000 tuag at elusen o’i ddewis a bydd pob aelod o’r tîm yn cael talebau siopa gwerth £50. Yna, bydd yr enillwyr yn mynd i Rownd Derfynol Fawreddog y Deyrnas Unedig yn Arena O2 yn Llundain ar 15 Mai, lle byddant yn cystadlu yn erbyn timau o Loegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban am deitl enillwyr y flwyddyn trwy’r Deyrnas Unedig.

Bydd cyfle i ennill £2,500 tuag at elusen o’u dewis, talebau siopa gwerth £100 a mentor o’r Lloyds Banking Group i’w helpu i gynnal eu prosiect am flwyddyn.

Cadwyn MoneySmart

Tenantiaid 16-21 oed i Gymdeithas Tai Cadwyn yw Cadwyn Moneysmart a gwnaethant ffilm fer i rannu gwybodaeth am wasanaethau i gynghori pobl a’u helpu i drefnu eu harian ac i gynilo, a chyngor am fenthyciadau. Bydd y ffilm ar gael yn eu cymunedau a thrwy’r cyfryngau cymdeithasol.

V21 Financial Independence

Criw o fyfyrwyr 23-24 oed o Vision 21, elusen o’r Mynydd Bychan, yw Tîm Annibyniaeth Ariannol V21. Aethant ati i greu gêm fwrdd i helpu oedolion ag anghenion dysgu i reoli eu harian. Mae’n cynnwys elfennau fel adnabod darnau arian, costau byw, trefnu arian a chynilo.

ARiAN (Apprentice Resources in A Nutshell)

Tîm o brentisiaid 16-20 oed o Gaerdydd yw ARiAN (Apprentice Resources in A Nutshell). Yr hyn a wnaethon nhw oedd creu rhwydwaith ar-lein i helpu prentisiaid ifanc i reoli arian yn well. Aethant ati i ddylunio a lansio gwefan a blog i roi awgrymiadau am sut i reoli arian.

Fashion on a Budget

Tîm o bobl ifanc 16-19 oed o Cymunedau yn Gyntaf Dwyrain Caerdydd, Llanedern a Phentwyn (ECLP), sef rhaglen gwrth-dlodi yng Nghanolfan Gymuned Trowbridge, yw Fashion on a Budget. Eu camp nhw oedd creu sioe ffasiynau o’r enw ‘Style yourself on a budget’, gyda’r dillad i gyd wedi’u prynu o siopau elusen. Roedd y sioe’n mynd i’r afael â’r stigma sy’n gysylltiedig â phrynu dillad ail-law trwy dynnu sylw at y pethau da sydd i’w cael o siopau elusen am brisiau fforddiadwy.

Money Monkeys

Dysgwyr 17-18 oed o ITEC, Casnewydd yw Money Monkeys. Mi sefydlon nhw brosiect i roi’r wybodaeth a’r sgiliau y mae arnyn nhw eu hangen i bobl ifanc wrth iddyn nhw dyfu’n oedolion.

Dywedodd David Rowsell, pennaeth y Rhaglen Arian am Oes gyda’r Lloyds Banking Group: “Mae Her Arian am Oes yn helpu pobl ifanc i ddatblygu’r sgiliau pwysig y mae arnyn nhw eu hangen i reoli eu harian yn y ffordd orau. Rwy wedi fy mhlesio’n fawr ag ysbryd arloesol, dychymyg a brwdfrydedd yr holl dimau sydd wedi cymryd rhan yn yr Her eleni.

“Roedd gan ein beirniaid dasg anodd i benderfynu pa dimau fyddai’n mynd trwodd i’r cam nesaf a hoffwn ddymuno’n dda iddyn nhw i gyd.”

Os hoffech ragor o wybodaeth am yr Her Arian am Oes, ewch i moneyforlifechallenge.org.uk, neu i’r dudalen Facebook at www.facebook.com/moneyforlifeuk neu Twitter ar www.twitter.com/moneyforlifeuk.

More News Articles

  —