Taflen Newyddion – Mawrth 2014

Postiwyd ar gan karen.smith














Cyhoeddi Lleoliad Cynhadledd Flynyddol NTfW a Gwobrau Prentisiaethau Cymru – Dydd Gwener 31 Hydref 2014 yn y Celtic Manor, Casnewydd

Cynhadledd Flynyddol
Yn y Gynhadledd, bydd cyfle i wrando ar siaradwyr sy’n ffigurau amlwg yn y maes a chymryd rhan mewn gweithdai. Bydd y gynhadledd hefyd yn gyfle gwych i rwydweithio ag unigolion a chwmnïau ym mhob rhan o’r sector hyfforddi yng Nghymru. Byddwn yn dosbarthu rhagor o wybodaeth cyn gynted ag y bydd ar gael.

Gwobrau Prentisiaethau Cymru, Celtic Manor, Casnewydd
Nod y Gwobrau yw cydnabod a mawrygu cyflogwyr, dysgwyr a darparwyr sy’n ymroi i ddatblygiad trwy Brentisiaethau a’r sawl sy’n cefnogi eu gweithwyr yn ystod eu hyfforddiant.
Yn ogystal, mae’r Gwobrau’n ffordd wych o werthuso gwaith hyfforddi a datblygu, ac o ysgogi unrhyw weithlu neu ddysgwr.

Dilynwch y dolenni i gael gwybod sut i ymgeisio am y Gwobrau a sut i’w noddi.
Ffurflenni Cais
Noddi

Yn ôl i’r brig»

Mae’n bryd cymryd rhan, mae’n bryd trafod prentisiaethau

Wrth i Wythnos Prentisiaethau Cymru ddirwyn i ben mae Ken Skates, y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg, wedi galw ar gyflogwyr o bob maint i fuddsoddi yn nyfodol eu gweithlu drwy recriwtio prentis.

Daeth yr alwad wrth i ffigurau diweddaraf Llywodraeth Cymru ddangos pa mor werth chweil y gall y buddsoddiad hwn fod. Mae’r cyfraddau llwyddiant ar gyfer prentisiaethau’n parhau’n uwch na 80% a gwelwyd hefyd y cynnydd mwyaf ers 6 mlynedd yn nifer y dysgwyr sydd mewn dysgu seiliedig ar waith.

Yn y digwyddiad “Mae’n bryd trafod prentisiaethau” yng Ngwesty’r Vale yn Hensol, amlinellodd y Dirprwy Weinidog y manteision niferus y gall prentisiaeth eu cynnig i fusnes, gan gynnwys costau hyfforddi a recriwtio llai, cynhyrchiant uwch a gweithlu ymatebol a brwdfrydig.Gwnaeth y digwyddiad, a drefnwyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru a’i noddi gan Pearson Work Based Learning, ddwyn ynghyd yr holl randdeiliaid allweddol sy’n ymwneud â darparu prentisiaethau yng Nghymru.

Yn ogystal â chymryd rhan mewn trafodaethau rhyngweithiol a thrafodaethau bwrdd, cafodd y rhanddeiliaid gyfle hefyd i glywed siaradwyr o GE Aviation Wales a thîm Spirit Hair a esboniodd pam fod eu busnesau wedi elwa ar brentisiaethau.

Aeth y Dirprwy Weinidog ati hefyd i atgoffa cyflogwyr i fanteisio ar yr ystod o gymorth sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys y Rhaglen Brentisiaethau a gefnogir gan yr UE.
I unigolion, mae prentisiaeth yn ffordd ddelfrydol o ddechrau gyrfa lwyddiannus. Mae prentisiaid yn ennill cyflog wrth ddysgu a meithrin sgiliau, datblygu gwybodaeth ac ennill cymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol.

Mae ffigurau’n dangos bod hyn yn fuddsoddiad gwerth chweil i’r prentis a’r cyflogwr. Yn 2011/12, cynyddodd nifer y prentisiaethau a gwblhawyd yn llwyddiannus i 13,320 – gan gynnal cyfradd llwyddiant sy’n uwch na 80%.
Yn y cyfamser, mae poblogrwydd prentisiaethau yng Nghymru yn parhau, a ffigurau dros dro o fis Tachwedd yn dangos bod dros 61,000 o ddysgwyr mewn dysgu seiliedig ar waith yn 2012/13 – y nifer fwyaf ers 6 mlynedd.

Wrth annerch y digwyddiad heddiw, dywedodd y Dirprwy Weinidog:

“Wrth i ni ddathlu Wythnos Prentisiaethau, rwy’n hynod falch gweld bod y galw am brentisiaethau yng Nghymru yn parhau i gynyddu.

“Mae hyn i’w weld yn ein ffigurau dros dro ac yn y diddordeb digynsail yn ein Rhaglen Recriwtiaid Ifanc.

“Mae hyn yn arwydd o hyder yn y pecyn unigryw o gymorth, cymwysterau a phrofiad y mae Prentisiaeth yn ei gynnig – rhywbeth sy’n cael ei werthfawrogi’n fawr gan gyflogwyr ac unigolion.

“Mae prentisiaethau’n gwneud synnwyr o safbwynt busnes ac rwy’n annog cymaint o’n cyflogwyr â phosibl, beth bynnag fo’u maint, i ystyried y cymorth rydym yn ei ddarparu drwy ein hystod o raglenni prentisiaeth.”

Roedd ei araith heddiw hefyd yn gyfle i’r Dirprwy Weinidog alw am geisiadau ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2014 a gynhelir yng Ngwesty’r Celtic Manor yng Nghasnewydd ar 31 Hydref 2014.

Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn dathlu cyflawniadau eithriadol dysgwyr, cyflogwyr a darparwyr sy’n ymwneud â darparu prentisiaethau o ansawdd ar draws Cymru.

Dywedodd Arwyn Watkins, Prif Weithredwr Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru:

“Nod y digwyddiad “Mae’n bryd trafod prentisiaethau” yw dwyn ynghyd yr holl randdeiliaid allweddol sy’n ymwneud â darparu prentisiaethau yng Nghymru, gyda golwg ar godi ymwybyddiaeth o’u gwerth i fusnesau a’r economi ehangach. Rydym yn gobeithio y bydd yn ysgogi mwy o gyflogwyr i ddod yn rhan o’r Rhaglen Brentisiaethau.”

Yn ôl i’r brig»

Her Arian am Oes – Cyhoeddi Pwy sydd yn Rownd Derfynol Cymru

Heddiw, cyhoeddwyd enwau’r rhai sydd yn Rownd Derfynol Cymru yr Her Arian am Oes. Byddant i gyd yn cymryd rhan yn y Rownd Derfynol Genedlaethol a gynhelir yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ar ddydd Mawrth 08th Ebrill 2014.

Mae’r pum tîm a ganlyn wedi sicrhau eu lle yn y Rownd Derfynol Genedlaethol a byddant yn cystadlu am deitl Enillwyr Cenedlaethol Cymru:

  • ARiAN (Apprentice Resources in a Nutshell) – Acorn Learning Solutions
  • Cadwyn Money Smart – Cymdeithas Tai Cadwyn
  • Fashion on a Budget – Cymunedau yn Gyntaf Dwyrain Caerdydd, Llanedern a Phentwyn (ECLP)
  • Money Monkeys – ITEC Caerdydd
  • V21 Financial Independence Team – Vision 21 Cyfle Cymru

Bydd y tîm sy’n fuddugol yn Rownd Derfynol Genedlaethol Cymru yn mynd ymlaen i gystadlu yn Rownd Derfynol Fawreddog y Deyrnas Unedig a gynhelir eleni yn Arena O2 ar ddydd Iau 15 Mai. Yn ogystal â’r fraint o gynrychioli Cymru, bydd y tîm buddugol yn cael cyfraniad o £1000 at elusen o’u dewis nhw, yn ogystal â thaleb siopa o £50 ar gyfer pob aelod o’r tîm.

Bydd yr holl dimau uchod yn cyflwyno’u prosiectau i banel o Feirniaid arbenigol a’r gynulleidfa o wahoddedigion, cyn i’r Beirniaid fynd ati i bwyso a mesur a gwneud eu penderfyniad. Eleni, mae’r panel Beirniaid yn cynnwys arbenigwyr uchel eu parch fel Lee Phillips, Rheolwr Cymru y Gwasanaeth Cynghori Ariannol a Martin Berisford, aelod o dîm buddugol Rownd Derfynol Genedlaethol Lloegr yn Her y llynedd, ymhlith eraill.

Mae’r rhai sydd yn y Rownd Derfynol a’r timau isod, sydd wedi dod yn agos at y brig, yn cael cyfle i gystadlu am deitl Enillydd Gwobr y Bobl:

  • Bejewelled Glitz – Randomz – Canolfan Pobl Ifanc Cwmbrân
  • Broke but Beautiful – Coleg Penybont
  • Byte Back on a Budget – Coleg Penybont
  • Educating Others – Coleg Cambria
  • Engage 2 Change (E2C) – Cyngor Sir Fynwy
  • The £ Factor – Coleg Penybont

Dewisir y tîm sy’n ennill y wobr arbennig hon gan y timau eraill sy’n cymryd rhan ac mae’n gyfle i fynd i Rownd Derfynol Fawreddog y Deyrnas Unedig i gystadlu am deitl Enillydd Gwobr y Bobl y Deyrnas Unedig.

Mae Her Arian am Oes yn gystadleuaeth trwy’r DU sy’n rhoi grantiau bach i bobl ifanc 16 i 24 oed i redeg prosiect er mwyn gwella sgiliau rheoli arian yn eu cymunedau.

Yn ôl i’r brig»

Diwrnod VQ – dydd Mercher 4 Mehefin 2014

Credwn fod cymwysterau galwedigaethol yn haeddu’r un clod a chydnabyddiaeth ag y caiff cymwysterau academaidd. Cynhelir dyddiau canlyniadau TGAU a Lefel A, felly beth am ddiwrnod i ddathlu VQs? Dyna yw Diwrnod VQ! Darllen mwy ….

Cewch enwebu dysgwyr a chyflogwyr yng Nghymru am wobr Dysgwr VQ neu Gyflogwr VQ (Cymwysterau Galwedigaethol) y Flwyddyn. Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau yw 2 Mai. Gallwch lawrlwytho’ch ffurflen gais yma.

Cymerwch Ran – Lawrlwythwch y Pecyn Gweithredu a dechrau paratoi ar gyfer Diwrnod VQ ar 4 Mehefin. Mae’n cynnwys llawer o gyngor ac arweiniad am ffyrdd o ddathlu ar gyfer ysgolion, colegau, darparwyr dysgu a chyflogwyr.

Yn ôl i’r brig»

Skills Cymru 2014

Yn dilyn llwyddiant enfawr SkillsCymru yn 2010 yn Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd, lle bu dros 20,000 o bobl yn cymryd rhan yn y digwyddiad rhyngweithiol mwyaf erioed yng Nghymru ym maes gyrfaoedd a sgiliau, mae Prospects Events a Cazbah ayn lansio dwy sioe ryngweithiol iawn ar gyfer 2014 gyda chymorth Llywodraeth Cymru.

Mae SkillsCymru yn cynnig y gostyngiadau isod i holl aelodau Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru.

  • Gostyngiad o 10% ar stondinau hyd at 10 metr sgwâr
  • Gostyngiad o 15% ar stondinau rhwng 10 ac 20 metr sgwâr
  • Gostyngiad o 20% ar stondinau dros 20 metr sgwâr

Mae costau stondinau’n dechrau ar £270 y metr sgwâr yn sioe’r de a £200 y metr sgwâr yn sioe’r gogledd. Bydd gostyngiad ychwanegol o 5% ar gael i’r rhai sy’n arddangos yn y ddwy sioe. Os hoffech wybod rhagor, ffoniwch Gabrielle McEvans ar 01823 362811 neu ebostio gabrielle.mcevans@prospects.co.uk eu i gael gweld y daflen werthu cliciwch yma

Yn ôl i’r brig»

ADCDF – Dinasyddiaeth Fyd-eang

Mae’r digwyddiadau isod yn ddathliadau ac yn ddiwrnodau ymwybyddiaeth; mae pobl un yn cynnwys manylion gwefannau a defnyddiau cymorth i’ch helpu i gynllunio gweithgareddau i ddysgwyr.

2 Ebrill 2014 – Diwrnod Rhyngwladol Llyfrau Plant
Ers 1967, ar ben blwydd Hans Christian Andersen, 2 Ebrill, neu tua’r adeg honno, dethlir Diwrnod Rhyngwladol Llyfrau Plant ym mhedwar ban byd. Y nod yw ysbrydoli plant i fwynhau darllen a thynnu sylw at lyfrau plant.

Caiff y diwrnod dathlu ei gydlynu gan Fwrdd Rhyngwladol Llyfrau Pobl Ifanc (IBBY), corff nid-er-elw sy’n ymroi i ddod â phlant a llyfrau at ei gilydd. Ymhlith y gweithgareddau mae cystadlaethau ysgrifennu, cyhoeddiadau am wobrau i lyfrau, a digwyddiadau gydag awduron llyfrau plant.

7 Ebrill 2014 – Diwrnod Iechyd y Byd
Cynhelir Diwrnod Iechyd y Byd i gofio am sefydlu Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) yn 1948 ac fe’i gwelir fel cyfle i dynnu sylw byd-eang at bwnc sy’n eithriadol o bwysig o ran iechyd yn y byd.

Thema Diwrnod Iechyd y Byd 2014 yw ‘Creaduriaid bach, bygythiad mawr’. Bydd y digwyddiadau’n canolbwyntio ar fectoriaid, sef organebau bach fel mosgitos, bygiau, trogod a malwod dŵr croyw a all gario clefydau o berson i berson ac o le i le

13 Ebrill 2014 – Vaisakhi (Dathlu creu’r Khalsa)
Mae Vaisakhi yn hen ŵyl diolchgarwch am y cynhaeaf a ddethlir yng ngogledd India. Mae’n un o wyliau pwysicaf calendr y Sikhiaid. Fe’i cynhelir i gofio am sefydlu’r Khalsa (neu ‘Rai Pur’) yn Anandpur Sahib in 1699, gan y degfed Gwrw Sikhaidd, Gwrw Gobind Singh.

Yn ystod y dathliadau, mae Sikhiaid yn arfer mynd i’r Gwrwdwara cyn gwawr â blodau ac offrymau yn eu dwylo. Mae gorymdeithiau trwy drefi’n gyffredin hefyd.

13 Ebrill 2014 – Sul y Blodau
Gŵyl Gristnogol yw Sul y Blodau. Fe’i cynhelir ar y Sul cyn y Pasg ac mae’n nodi dechrau’r Wythnos Fawr. Ar Sul y Blodau, mae pobl yn cofio am Iesu’n marchogaeth i mewn i Jerwsalem tuag wythnos cyn yr Atgyfodiad. Yn ôl yr Efengylau, daeth Iesu i mewn i Jerwsalem ar gefn asyn ac roedd y pobl yn dathlu trwy daflu dillad a changennau coed palmwydd o’i flaen.

Mewn llawer o eglwysi Cristnogol, ar Sul y Blodau, caiff dail palmwydd neu ganghennau dail cynhenid eu rhannu a’u cario mewn gorymdaith. Os oes canghennau dros ben, maent yn cael eu llosgi a’r lludw’n cael ei ddefnyddio ar Ddydd Mercher Lludw y flwyddyn wedyn.

15-21 Ebrill 2014 – Gŵyl y Bara Croyw
Gŵyl Iddewig yw Gŵyl y Bara Croyw. Yn ystod yr ŵyl hon, mae’r Iddewon yn cofio hanes yr Exodus pan helpodd Duw yr Iddewon i ddianc o’r Aifft lle’r oedden nhw’n gaethweision, trwy anfon deg pla ar yr Eifftwyr cyn i’r Pharo gytuno i ryddhau’r Israeliaid.

Y degfed pla, a’r gwaethaf ohonynt i gyd, oedd lladd plentyn hynaf teuluoedd yr Eifftiaid.
Dywedwyd wrth yr Israeliaid am roi gwaed oen ar gapan drws eu tai a, phan oedd ysbryd yr Arglwydd yn gweld y gwaed, roedd yn pasio heibio i’r cartrefi hyn heb ladd plant yr Israeliaid.

Erbyn heddiw, mae Gŵyl y Bara Croyw yn para am saith neu wyth diwrnod ac mae gwahanol ddefodau’n cael eu cadw. Mae’r bobl yn bwyta bara heb furum ynddo, o’r enw Matzah. Y rheswm am hyn yw nad oedd amser gan yr Israeliaid i adael i’w bara godi pan oedden nhw’n ffoi o’r Aifft ac felly roedden nhw’n bwyta bara heb furum ar y daith. Mae rhai pobl yn glanhau eu tai yn drwyadl er mwyn gwneud yn siwr nad oes briwsionyn o fara â burum ar ôl.

Ar y noson cyn dechrau Gŵyl y Bara Croyw, mae teuluoedd yn bwyta pryd bwyd arbennig o’r enw seder, yn cynnwys bwydydd traddodiadol.

18 Ebrill 2014 – Gwener y Groglith
Mae Gwener y Groglith yn ŵyl a gedwir gan Gristnogion i gofio am Iesu Grist yn cael ei groesholio ac yn marw ar fryn Calfaria. Mae’n ddiwrnod o alar ac, mewn rhai traddodiadau, cynhelir gorymdeithiau ac mae pobl yn ail-greu digwyddiadau Gwener y Groglith. Mae Cristnogion ym mhedwar ban byd yn ystyried dioddefaint Iesu a’r hyn y mae hynny’n ei olygu iddyn nhw a’u ffydd.

7 Ebrill 2014 – Sul y Pasg
Y Pasg yw prif ŵyl y calendr Cristnogol. Yn ôl yr efengylau, cododd Iesu oddi wrth y meirw ar y trydydd diwrnod ar ôl ei groeshoelio. Mae’r Pasg yn nodi diwedd y Grawys, cyfnod o 40 diwrnod o ymprydio, gweddïo a phenyd. Yr Wythnos Fawr yw’r enw ar wythnos olaf y Grawys, ac mae’n cynnwys Gwener y Groglith, pryd y bydd Cristnogion yn cofio am Iesu’n cael ei groesholio ac yn marw.

Mae llawer o arferion yn gysylltiedig â’r Pasg mewn gwhanol rannau o’r byd. Mae wyau’n chwarae rhan bwysig, yn symbol o’r garreg a rowliodd o geg bedd Iesu. Mae pobl yn addurno wyau, yn chwilio am wyau sydd wedi’u cuddio, yn rowlio wyau i lawr bryniau ac yn bwyta wyau siocled. Yn yr Almaen a’r Unol Daleithiau, mae Cwningen y Pasg yn dod ag wyau wedi’u haddurno neu wyau siocled i blant ar y noson cyn y Pasg.

Yn ôl i’r brig»

Cymhwyster newydd mewn Torri Ewinedd a Gofalu Amdanynt i ddysgwyr yng Nghymru

Bydd cymhwyster newydd mewn torri ewinedd a gofalu amdanynt yn golygu y bydd mwy o bobl yn y gymuned yn gallu cael gafael ar y cymorth y mae ei angen arnynt o ran torri ewinedd a gofalu amdanynt o ddydd i ddydd yn ôl Agored Cymru, yr unig sefydliad dyfarnu sydd wedi ymroi i lunio cymwysterau a chredydau a fydd yn diwallu anghenion dysgwyr yng Nghymru.

Mae’r Dyfarniad Lefel 2 newydd mewn Torri Ewinedd a Gofalu Amdanynt (FfCCh) wedi’i lunio gyda’r nod o roi’r sgiliau a’r wybodaeth angenrheidiol mewn gofal iechyd i ddysgwyr i’w galluogi i ddarparu gofal ewinedd arferol. Nid ei bwrpas yw disodli gwasanaethau trin y traed neu gymwysterau trin ewinedd y dwylo a thrin ewinedd y traed.

Dywedodd Sue Saunders, Rheolwr Datblygu Cwricwlwm Agored Cymru: “Mae tystiolaeth yn dangos bod dybryd angen darparu gwasanaeth torri ewinedd a gofal ewinedd o ansawdd uchel i bobl yn y gymuned y mae angen rhywfaint o gymorth ychwanegol arnynt i ofalu amdanynt eu hunain.

Mae gwasanaethau torri ewinedd yn flaenoriaeth yng Nghymru. I rai pobl sydd ag anableddau dysgu neu anableddau corfforol, sydd wedi colli’r defnydd o’u synhwyrau neu sydd â chyflwr orthopedig neu salwch meddwl, mae gofalu am eu hewinedd o ddydd yn her wirioneddol.

Rydym yn falch iawn o fod wedi cael y cyfle i gydweithio â Sgiliau Iechyd i ddatblygu’r cymhwyster newydd hwn i sicrhau bod modd hyfforddi dysgwyr i ddarparu’r gwasanaeth hwn y mae ei wir angen.”

Mae’r cymhwyster newydd yn addas ar gyfer amrywiaeth eang o ddysgwyr sydd dros ddeunaw oed ac sydd am ddatblygu ac ehangu eu sgiliau, boed y rheini’n weithwyr cymorth sydd eisoes yn gweithio mewn lleoliadau gofal iechyd, therapyddion harddwch sydd am ychwanegu at eu sgiliau neu bobl sydd newydd ymuno â’r sector sy’n awyddus i weithio fel ymarferwyr annibynnol. Gall unigolion sydd eisoes wedi ennill unedau QALL Agored Cymru mewn gofal traed hefyd wneud cais am gael defnyddio prosesau cydnabod dysgu blaenorol ar gyfer rhannau o’r cymhwyster newydd.

Dim ond trwy ganolfannau cydnabyddedig Agored Cymru y mae’r cymhwyster hwn ar gael. Mae wedi cael sêl bendith ffurfiol Sgiliau Iechyd ac wedi’i fapio i safonau galwedigaethol cenedlaethol.

Yn ôl i’r brig»

News from the Regions

Tair Seren yn Disgleirio dros Educ8: Cwmnïau Gorau 2014

Mae Educ8 newydd ennill statws tair seren gan yr arbenigwyr ym maes ymgysylltu yn y gweithle, Best Companies.

Tair seren yw’r statws uchaf sydd ar gael ac mae’n dangos bod lefelau ymgysylltu â’r gweithwyr yn ‘eithriadol’. Seilir y canlyniadau yn bennaf ar arolwg gwrthrychol ymhlith y staff, wedi’i reoli gan Best Companies, ac roedd y safon mor uchel fel bod Educ8 wedi’i roi ar restr fer y cwmnïau bach yn y Times Top 100. Caiff safle swyddogol y cwmni ar restr y Times Top 100 ei gyhoeddi mewn cinio gwobrwyo yn Llundain ar 26 Chwefror.

Eleni yw’r tro cyntaf i Educ8 gymryd rhan ym mhroses Best Companies ac felly mae ennill y tair seren yn gamp aruthrol ac yn arwydd o’r gwaith a’r buddsoddiad sydd wedi mynd i feithrin diwylliant sy’n rhoi boddhad ac ysgogiad i’r gweithwyr a chyfle i symud ymlaen yn eu gyrfa.

Esboniodd Colin Tucker, Prif Swyddog Gweithredol Educ8: “Mae statws Best Companies yn mesur i ba raddau y mae geithwyr yn teimlo’u bod yn perthyn i’r cwmni. Mae Grant Santos, fy nghyd-gyfarwyddwr, a minnau, wrth ein bodd bod Educ8 wedi meithrin awyrgylch lle mae’r staff yn cael y fath foddhad yn eu swyddi. Cwmni o’r cymoedd ydyn ni ac rydyn ni’n gwneud ein gorau i ddenu a datblygu pobl leol a rhoi cyfle iddynt symud ymlaen yn eu gyrfa.
Mae Educ8 yn darparu cymwysterau galwedigaethol ac yn un o brif gontractwyr Twf Swyddi Cymru sy’n cynnig cyfleoedd i bobl ifanc ac felly mae’n gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl o ddydd i ddydd. Er mwyn gwneud hyn, mae’n rhaid i ni gael cefnogaeth ac ymroddiad ein gweithlu gwych a dyna pam rydyn ni o’r farn ei bod yn bwysig i ni roi rhywbeth yn ôl iddynt.”

Roedd Educ8 eisoes wedi cael statws AUR Buddsoddwyr mewn Pobl (yn ôl yn 2012) ond mae arolwg Best Companies yn asesiad mwy cynhwysfawr o syniadau a theimladau’r gweithwyr. Mae’n ymdrin ag wyth prif ffactor: y cwmni; arweiniad; lles; twf personol; gweithredu’n deg; teimladau’r gweithwyr at eu rheolwyr; teimladau’r gweithwyr tuag at eu timau; a’r hyn y mae’r cwmni’n ei roi yn ôl i’r gymdeithas.

Ers ei sefydlu yn 2004, a gyda chefnogaeth Cyllid Cymru, mae Educ8 wedi tyfu’n sylweddol. Mae’r cwmni bob amser yn awyddus i ehangu ei gronfa dalent ac mae’n annog darpar weithwyr i anfon CVs a llythyrau esboniadol atynt ar hap trwy’r adran Adnoddau Dynol.

Cafodd Educ8 y cyfalaf yr oedd arno ei angen er mwyn ehangu trwy fuddsoddiad dyled gan Cyllid Cymru yn 2009. Croesawyd cyhoeddiad Educ8 gan David Perez, Uwch Swyddog Portffolio yn Cyllid Cymru ac meddai: “Mae statws Best Companies yn uchel ei barch. Mae Educ8 wedi buddsoddi’n drwm yn niwylliant y gweithle, gan ennill statws Tair Seren, sef y lefel uchaf sydd ar gael ac mae hynny’n gadarnhad bod y cwmni ar y llwybr cywir. Mae diwylliant effeithiol yn y gweithle wedi rhoi hwb i ymroddiad ac ysgogiad y staff, sy’n golygu bod gan Educ8 enw da.

“Mae Cyllid Cymru’n falch o fod wedi cefnogi Colin a’i dîm. Maent wedi cyfuno gweledigaeth dymor hir a gwerthoedd gyda chynllun busnes uchelgeisiol i droi Educ8 yn ddarparwr hyfforddiant o safon uchel. Hoffem ddymuno’n dda iddynt pan gyhoeddir y 100 Uchaf yn nes ymlaen yn y mis.”

Yn ôl i’r brig»

Gweithiwr gyda Chyngor Caerffili’n fwy hyderus ar ôl dysgu darllen ac ysgrifennu

Mae gyrrwr lori sbwriel wedi dysgu darllen ac ysgrifennu ar ôl cuddio’i anallu oddi wrth ei gyflogwyr am 20 mlynedd.

Llwyddodd Thomas Hearne sy’n gweithio i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i gwblhau cynllun sgiliau yn y gweithle dan ofal Talk Training.

Ar ôl cyfnod yn y fyddin, bu Thomas yn gweithio i Gyngor Bwrdeistreff Sirol Caerffili ers dros 20 mlynedd. Yn ystod y cyfnod hwnnw, daeth yn giamstar ar osgoi gwaith papur a thasgau lle’r oedd angen darllen neu ysgrifennu darnau hir.

Bu Thomas a phedwar o’i gydweithwyr o’r tîm sbwriel yn gweithio ar y cwrs a drefnwyd gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru.

Ar ôl llwyddo ar y cwrs, cyflwynwyd eu tystysgrifau i’r gweithwyr gan Ddirprwy Faer Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, y Cynghorydd David Carter, mewn seremoni arbennig.

Dywedodd Thomas, sy’n 52 ac yn dod o Lanbradach: “Ro’n i’n teimlo mor gyfforddus pan gwrddais i â ’nhiwtor am y tro cyntaf. Wnes i ddim teimlo’n fach na theimlo cywilydd o gwbl, fel yr oeddwn i’n dueddol o wneud yn y gorffennol. Mae’n rhyfeddol gymaint a ddysgais i mewn ychydig wythnosau. Mae’n drueni na chefais i’r cyfle hwn flynyddoedd yn ôl. Diolch i gefnogaeth fy rheolwr a ’nhiwtoriaid, rwy’n gallu symud ymlaen yn fy mywyd proffesiynol a phersonol.”

Yn ôl i’r brig»

Prif Swyddog Gweithredol newydd gan Bartneriaeth Sgiliau Galwedigaethol (Cymru) Cyf

Mae’n bleser gan Vocational Skills Partnership (Wales) Ltd, neu VSP, gyhoeddi bod Dr Mark Brenner wedi’i benodi’n Brif Swyddog Gweithredol.

Dyma benodiad diweddaraf y consortiwm hyfforddiant galwedigaethol a sefydlwyd yn 2010 ac sydd â phedwar partner.

Mae VSP yn un o ddim ond 23 o gyrff sydd â chontractau ym maes dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru ac mae gan y pedwar partner a ganlyn gyfran o 25% yr un yn y busnes: Aspiration Training (Wales) Ltd, Educ8 Ltd, Network Training Services Ltd a TSW Training Ltd.

Mae gan VSP bortffolio gwerth chweil o gymwysterau ar draws 16 o lwybrau galwedigaethol a dros 2,500 o ddysgwyr. Mae eisoes wedi cael nifer o lwyddiannau e.e. mae pob un o’r pedwar partner wedi ennill statws AUR Buddsoddwyr mewn Pobl, mae wedi ennill contract sylweddol gan Twf Swyddi Cymru, cafodd ganlyniadau gwych mewn arolwg annibynnol o ddysgwyr ac mae Estyn wedi cydnabod ei fod yn arwain y sector wrth ddatblygu adnodd ar-lein i warchod lles dysgwyr ar y cyd ag Acorn a Babcock.

Dywedodd Grant Santos, Cyfarwyddwr Educ8 Ltd a chyn Brif Swyddog Gweithredol gyda VSP: “Ar ôl proses ddewis drwyadl, gwelwyd mai Mark oedd yr ymgeisydd amlwg i fod yn Brif Swyddog Gweithredol VSP. Mae ganddo ddyfnder gwybodaeth a phrofiad ym maes sgiliau ac, ar ran tîm cyfan VSP, mae’n bleser gennyf ei groesawu atom.”

Dywedodd Dr Mark Brenner, a fu’n Brif Swyddog Gweithredol BEST: “Mae’n braf cael ymuno â VSP mewn cyfnod o gyfleoedd a heriau ac rwy’n awyddus i helpu i sicrhau y bydd yn un o ddarparwyr allweddol economi sgiliau Cymru yn y blynyddoedd nesaf.”

Bydd Mark yn dechrau yn ei swydd newydd ar unwaith.

Yn ôl i’r brig»

Arbenigwr Byd-eang yn Canmol Hyfforddiant

Gallai patrwm addysgol o Gymru ar gyfer pobl ifanc nad ydynt yn rhan o ddosbarth prif ffrwd gael ei ailadrodd yn fyd-eang ar ôl denu sylw awdurdod rhyngwladol ar ddiwygio addysg, Syr Michael Barber. Darllen mwy…

Yn ôl i’r brig»

Prifysgol yn croesawu cyfarfod lansio rhaglen Arweinwyr Ifanc

Ym Mhrifysgol De Cymru y cynhaliwyd cyfarfod lansio rhaglen Arweinwyr Ifanc Blaenau’r Cymoedd gan y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth (ILM) eleni. Cyflwynir y rhaglen gan Acorn mewn colegau ym Merthyr Tudful a Glyn Ebwy.

Mae’r ILM yn gorff rheoli uchel ei barch yn y Deyrnas Unedig ac mae’n ymfalchïo mewn datblygu arweinwyr gwych sy’n mynd ymlaen i drawsnewid pobl a sefydliadau. Roedd y cyfarfod lansio ar Gampws Trefforest yn gyfle i ddysgwyr o’r colegau ymweld â’r Brifysgol a chael cyflwyniad cychwynnol i gymhwyster yr ILM a gwerth datblygu arweinyddion.

Yn ôl i’r brig»

Cydweithwyr a ffrindiau’n helpu Katy i godi £553 at elusen ganser

Cafodd rheolwr marchnata Cwmni Hyfforddiant Cambrian, Katy Godsell, help gan ei chydweithwyr a’i ffrindiau dros y Nadolig i godi £553 tuag at Gronfa Ganser Lingen Davies yn Ysbyty Brenhinol Amwythig.

Mae Katy, sy’n gweithio ym mhrif swyddfa’r cwmni hyfforddi yn y Trallwng, newydd fod trwy gwrs o driniaeth ar gyfer canser y fron. Gan fod bywydau nifer o’i chydweithwyr wedi’u cyffwrdd gan ganser dros y blynyddoedd diwethaf, doedd dim prinder cefnogaeth i’r elusen.

Codwyd yr arian trwy wneud a gwerthu addurniadau Nadolig, wrth i bobl anfon dymuniadau Nadolig yn lle cardiau, trwy werthu blanced crosio hardd gan Norma Thomas ar ocsiwn, a chynnal raffl, cwis a diwrnod gwisg ffansi i’r staff. Bu Sharon Thomas, rheolwr Mid Wales Homecare, yn gwneud ac yn gwerthu addurniadau Nadolig at yr achos hefyd.

“Diolch yn arbennig i Norma a Sharon Thomas a Joyce Godsell am eu holl waith caled yn gwneud yr addurniadau, i Joyce am ei hamser a’i hymroddiad yn trefnu’r holl ddigwyddiadau ac i’r staff i gyd am eu cyfraniadau caredig,” meddai Katy.

“Fe benderfynon ni godi arian at Gronfa Ganser Lingen Davies am fod cynifer o’r staff a’u teuluoedd a’u ffrindiau wedi’u taro gan ganser dros y blynyddoedd diwethaf. Roedden ni am gefnogi’r elusen hon am ei bod yn cefnogi pobl sydd â chanser yng Nghanolbarth Cymru a Swydd Amwythig a’n bod ni wedi gweld drosom ein hunian faint o waith da y mae’n ei wneud.”

Ond nid dyna ddiwedd y gwaith o godi arian at yr elusen. Mae Katy’n gobeithio cael cefnogaeth Banc Barclays i gynnal ras neu daith gerdded bum cilometr yn y Trallwng ym mis Mawrth.

Mae Cronfa Ganser Lingen Davies yn benderfynol o wella gwasanaethau canser yng Nghanolbarth Cymru a Swydd Amwythig trwy ddarparu offer ac adeiladau arbenigol. Dros y blynyddoedd, mae’r elusen wedi buddsoddi miliynau o bunnau er mwyn gwella’r cyfleusterau ar gyfer cleifion canser yn yr ardal.

Diolchodd Louise Cliffe, rheolwr codi arian yr elusen, i bawb a helpodd i godi’r swm “gwych” tuag at ymdrechion yr elusen i godi £12,000 dros y Nadolig.

Y nod yw gwneud gwelliannau i ardal aros yr adran radiotherapi yn Ysbyty Brenhinol Amwythig, gosod hoist i helpu cleifion i fynd ar y gwely triniaeth a phrynu dyfais ddiogelwch sy’n mesur y ddos o radiotherapi a roddir i gleifion.

“Rydyn ni’n ariannu pob math o bethau i wella’r amgylchedd ar gyfer trin cleifion canser yng Nghanolbarth Cymru a Swydd Amwythig,” meddai Louise.

Yn ôl i’r brig»

Cwmni Prentis Menai

Mae Grŵp Llandrillo Menai wedi sefydlu Cwmni Asiantaeth Cyflogi Prentisiaid – Cwmni Prentis Menai Cyf. Bydd y cwmni hwn yn gyfrwng i sicrhau mwy o brentisiaid adeiladwaith a pheirianneg yng Ngogledd Orllewin Cymru mewn ymateb i’r galw o du’r fenter datblygu sgiliau, “Ynys Ynni”.

Mae’r asiantaeth yn cyflogi prentisiaid ac yna yn eu lleoli gyda chwmnïau er mwyn iddynt gael profiad yn y gweithle. Bydd y cwmni dan sylw yn cyfrannu at gost cyflogi’r prentis, ond gyda chymhorthdal a fydd, gobeithiwn, yn annog mwy o fusnesau yn y rhanbarth i gymryd rhan yn y cynllun.

Cynllun strategol yr asiantaeth yw datblygu cronfa o bobl ifanc leol sy’n meddu ar yr holl sgiliau a fydd yn ofynnol yn y dyfodol, gan roi pwyslais penodol ar yr Adeilad Newydd Niwclear sydd yn yr arfaeth.

Cafodd yr asiantaeth newydd gefnogaeth ariannol gan nifer o randdeiliaid allweddol, gan gynnwys Horizon, Cyngor Sir Gwynedd, Cyngor Sir Ynys Môn, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Llywodraeth Cymru.

Mae’r cyllid hwn yn galluogi’r cwmni sy’n cymryd prentisiaid i fod yn rhan o’r cynllun, gan wynebu llai o gostau cyflogi.

Mae carfan lawn gyntaf y cwmni newydd raddio. Cyflogwyd y grŵp cyntaf o 11 peiriannydd fis Medi 2010 gan gwmnïau yng Ngwynedd ac Ynys Môn. Ddiwedd Awst 2013, cwblhawyd 10 o brentisiaid eu fframwaith cymhwyster yn llwyddiannus a llwyddodd pob un ohonynt i gael gwaith. Dathlodd y cwmni lwyddiant y prentisiaid ifanc yng nghyfarfod bwrdd Cwmni Prentis Menai fis Hydref, a chyflwynwyd tystysgrifau i’r prentisiaid gan y Cadeirydd Dr John Idris Jones, Cyfarwyddwr Rhaglen Ynys Ynni, a Mark Tippett , Horizon.

Mae’r asiantaeth wedi parhau i dyfu ers ei blwyddyn gyntaf ac mae bellach yn cyflogi 54 o brentisiaid a leolwyd gyda chwmnïau ledled Gwynedd, Ynys Môn a Sir Conwy

Yn ôl i’r brig»

Colli Swyddi Vion

Ddechrau Ionawr 2013, cyhoeddodd Welsh Country Foods (rhan o Grŵp Vion) ymgynghoriad 90 diwrnod gydag undebau llafur a chyflogeion ynghylch y trefniadau posibl o gau ei ffatri prosesu cig oen ar Ynys Môn, gan roi swyddi dros 350 o weithwyr yn y fantol.

Ar yr adeg hon, roedd 32 o ddysgwyr ar raglenni Prentisiaeth gydag ADT, yn dilyn fframweithiau Lefel 2 yn bennaf mewn Sgiliau’r Diwydiant Bwyd neu Sgiliau’r Diwydiant Cig a Dofednod. Roedd sawl un ohonynt ond wedi bod ar y rhaglen am gyfnod cymharol fyr, yn amrywio o 18 wythnos i 39 wythnos.

Ar ôl cytuno gyda rheolwyr lleol, rhoddodd ADT y dysgwyr ar y trywydd cyflym drwy gynyddu pa mor aml y cynhelid ymweliadau, i ymweliadau wythnosol, a rhoi cymorth ychwanegol sylweddol iddynt. Yn sgil y gweithgarwch dwys hwn cyflawnodd pob un o’r 32 dysgwr o leiaf NVQ llawn ar yr adeg y caeodd y ffatri ganol Ebrill 2013, gan wella eu rhagolygon o gael swydd yn y dyfodol yn sylweddol. Yn wir, mae sawl dysgwr wedi mynd yn eu blaen i weithio mewn ffatrïoedd prosesu cig eraill ers cael eu diswyddo.

I’r dysgwyr hynny a oedd wedi gwneud mwy o’r rhaglen fframwaith ar ddechrau’r ymgynghoriad, cynhaliwyd sesiynau ychwanegol ar safleoedd ADT i gwblhau’r dystysgrif dechnegol a’r elfennau o’r fframwaith sy’n ymwneud â sgiliau hanfodol. I rai, parhaodd y sesiynau hyn ar ôl iddynt gael eu diswyddo fel bod modd iddynt gyflawni’r fframwaith.

Yn ogystal â hyn, cynorthwyodd Aseswyr ADT nifer o’r dysgwyr i baratoi eu CVs o gofnodion cyrhaeddiad gan roi cyngor ac arweiniad iddynt, yn cynnwys technegau hyfforddi ar gyfer cyfweliad.

Yn ôl i’r brig»

Dyddiadau i’ch Dyddiadur

27 Mawrth 2014
Y Sgwrs Go Iawn – Venue Cymru, Llandudno
Cliciwch yma i gael gwybod rhagor

8 Ebrill 2014
Rownd Derfynol Genedlaethol yr Her Arian am Oes – Coleg Cerdd a Drama Cymru, Caerdydd
Cliciwch yma i gael gwybod rhagor

4 Mehefin 2014
Diwrnod VQ
Cliciwch yma i gael gwybod rhagor
Lawrlwytho ffurflenni cais
Lawrlwytho Pecyn Gweithredu

9 Hydref 2014
Skills Cymru – Venue Cymru, Llandudno
Cliciwch yma i gael gwybod rhagor

22-23 Hydref 2014
Skills Cymru – Arena Motorpoint, Caerdydd
Cliciwch yma i gael gwybod rhagor

31 Hydref 2014
Cynhadledd Flynyddol NTfW – Celtic Manor, Casnewydd
Cliciwch yma i gael gwybod rhagor

31 Hydref 2014
Gwobrau Prentisiaethau Cymru – Celtic Manor, Casnewydd
Ffurflenni Cais
Pecynnau Nawdd

13-15 Tachwedd 2014
The Skills Show – NEC Birmingham
Cliciwch yma i gael gwybod rhagor

Yn ôl i’r brig»

More News Articles

  —