Tom, y Llysgennad Prentisiaethau, yn cael swydd ei freuddwydion gyda’r Urdd

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Tom Acreman sy’n brentis.

Bu Tom Acreman yn cynrychioli Cymru mewn gornestau athletau pan oedd yn yr ysgol. Yn awr, mae wedi sicrhau swydd ei freuddwydion yn darparu gweithgareddau chwaraeon mewn ysgolion a chymunedau yng nghymoedd Gwent a Chaerffili, diolch i brentisiaeth gydag Urdd Gobaith Cymru.

Ar hyn o bryd, oherwydd cyfyngiadau Covid-19, mae Tom, 21, o Ystrad Mynach, yn cynnig hyfforddiant ar-lein yn unig i blant ledled Cymru ac yntau’n gweithio ar Brentisiaeth mewn (Datblygu) Chwaraeon gyda’r Urdd. Mae eisoes wedi cwblhau Prentisiaeth Sylfaen mewn Arwain Gweithgareddau.

Gan ei fod mor frwd dros hyrwyddo prentisiaethau dwyieithog, penodwyd ef yn Llysgennad Prentisiaethau gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW).

Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol sy’n arwain datblygiad addysg a hyfforddiant Cymraeg a dwyieithog yn y sector ôl-orfodol yng Nghymru ac mae’r NTfW yn cynrychioli darparwyr dysgu seiliedig ar waith ledled Cymru.

Yn ystod Wythnos Prentisiaethau yn ddiweddar, cymerodd Tom ran mewn ymgyrch lle trefnodd NTfW a CCC i nifer o brentisiaid feddiannu cyfrif Instagram neilltuol er mwyn hyrwyddo cyfleoedd i brentisiaid yng Nghymru ddefnyddio’r Gymraeg.

Er bod ei rieni’n ddi-Gymraeg, aeth Tom i ysgol gynradd ac ysgol uwchradd Gymraeg a thra oedd yn yr ysgol bu’n cynrychioli Cymru yn rhedeg traws-gwlad a phelltir hir a chafodd dreialon rygbi dan 16 i’r Dreigiau.

Gadawodd yr ysgol cyn mynd i’r chweched dosbarth er mwyn dilyn cwrs Gwasanaethau Cyhoeddus yn Saesneg yng Ngholeg y Cymoedd ac yna bu’n gweithio mewn siop fferyllydd cyn i ffrind sôn wrtho am brentisiaethau’r Urdd a fyddai’n rhoi’r cyfle iddo ddefnyddio’i sgiliau mewn chwaraeon.

“I ddweud y gwir, dyma swydd fy mreuddwydion. Rwy wrth fy modd,” meddai Tom. “Fe gefais i dair wythnos o brofiad o ddarparu gweithgareddau chwaraeon mewn ysgolion cyn y cyfnod clo cyntaf, felly mae gen i syniad sut fydd pethau pan ddaw’r cyfyngiadau i ben ac rwy’n edrych ymlaen yn ofnadwy.

“Rwy wedi dysgu cymaint dros y flwyddyn ddiwethaf am hyfforddi gwahanol fathau o bobl ac am baratoi’n drwyadl ar gyfer y sesiynau. Mae sesiynau gweithgareddau ar-lein yr Urdd wedi fy helpu i fod yn well hyfforddwr.

“Y peth gwych am brentisiaeth yw ei bod yn datblygu’ch sgiliau cam wrth gam, gan eich gwneud yn fwy hyderus ac rwy’n ei chael yn haws dysgu fel yna.”

Wrth sôn am ei gariad at y Gymraeg a’r cyfle i fod yn llysgennad, dywedodd: “Roedd fy rhieni’n awyddus i mi fynd i ysgol Gymraeg am eu bod yn meddwl y byddai’n agor drysau i mi ym myd busnes.

“Rwy’n falch o gael bod yn Llysgennad Prentisiaethau ac rwy’n awyddus i roi gwybod i bobl ifanc eraill am y cyfleoedd i ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog, sy’n bwysig iawn i mi.”

Dywedodd Catrin Davis, rheolwr prentisiaethau’r Urdd, bod Tom wedi’i ddyfarnu’n Brentis y Mis gyda’r Urdd yn ddiweddar a’i fod yn “llysgennad penigamp”.

“Mae Tom yn un o’n prentisiaid mwyaf brwd,” meddai. “Roedd yn un o’r prentisiaid a ddewiswyd i feddiannu’r cyfrif Instagram yn ystod yr Wythnos Prentisiaethau a chymerodd ran mewn gweithgareddau eraill ar y cyfryngau cymdeithasol hefyd.

“Mae ein holl waith ni yn yr Urdd yn anelu at nod Llywodraeth Cymru o sicrhau bod miliwn o bobl yn siarad Cymraeg erbyn 2050. Rhan bwysig arall o’n gwaith yw galluogi pobl ifanc i addasu eu sgiliau yn y Gymraeg i’w defnyddio yn y gweithle.”

Gwaith Ryan Evans, hyrwyddwr dwyieithrwydd NTfW, yw helpu darparwyr hyfforddiant ledled Cymru i gynnig rhagor o brentisiaethau trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog.

“Mae llawer o weithleoedd yn dod yn fwy dwyieithog ac felly gall gwneud prentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog roi hwb i hyder y prentis i weithio yn y ddwy iaith ac felly ei helpu i gael gwaith,” meddai.

“Mae ein Llysgenhadon Prentisiaethau yn cynnig esiampl dda i brentisiaid, gan ddangos manteision dysgu a gweithio’n ddwyieithog.”

Dywedodd Elin Williams, o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol: “Dyma’r ail flwyddyn o’r bron i ni benodi llysgenhadon ar gyfer y sector prentisiaethau. Credwn ei bod yn ffordd ardderchog o ddangos i bobl y gallwch barhau i ddysgu’n ddwyieithog trwy wneud prentisiaeth.

“Mae nod Llywodraeth Cymru o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn golygu na fu erioed yn bwysicach i chi ddatblygu sgiliau dwyieithog er mwyn gwella’ch cyfleoedd ym myd gwaith.”

Ariannir y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).

More News Articles

  —