Prentis yn goresgyn anabledd gan anelu at fod yn hyfforddwr personol

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Zach Chapman, yn goresgyn anabledd i ddatblygu gyrfa fel hyfforddwr personol.

Mae’r prentis poblogaidd Zach Chapman yn gwrthod gadael i’w anabledd ei rwystro rhag dilyn ei uchelgais o fod yn hyfforddwr personol.

Mae parlys yr ymennydd atacsig yn amharu ar gydsymudiad, cydbwysedd a lleferydd Zach, 20, o Gei Connah. Gadawodd yr ysgol yn 16 oed heb wybod pa lwybr gyrfa i’w ddilyn ac yn poeni pa gyfleoedd fyddai ar gael iddo.

Ond, oherwydd ei ddiddordeb mewn ffitrwydd, cafodd swydd gyda Lifestyle Fitness, sy’n rhedeg y gampfa yng Ngholeg Cambria Glannau Dyfrdwy, ac mae’n gobeithio cwblhau ei Brentisiaeth mewn Hyfforddi Personol ym mis Ebrill, gyda chymorth y darparwr dysgu Babcock Training.

Treuliodd Zach y rhan fwyaf o’r flwyddyn ddiwethaf ar ffyrlo oherwydd pandemig Covid-19 a bu hynny’n gyfle iddo gwblhau gwaith theori a rhannau ysgrifenedig ei brentisiaeth, rhywbeth mae’n gallu ei wneud yn rhagorol.

Yn ystod y cyfnod clo, cofrestrodd ar gwrs ar-lein HFE Lefel 3 Ymarfer Corff ar gyfer Cleientiaid Anabl a fydd yn arwain at gymhwyster mewn hyfforddi pobl anabl.

Fel rhan o’i brentisiaeth, bu Zach yn arwain dosbarthiadau ffitrwydd ar-lein i ddau gleient, cafodd yr holl waith a osodwyd iddo ei gwblhau’n brydlon, a bu mewn sesiynau hyfforddi ar-lein. Bu Babcock yn cynnig cymorth un-i-un o bell dros Microsoft Teams er mwyn sicrhau nad oedd y cyfnod clo yn ei ddal yn ôl.

Oherwydd ei anabledd, roedd Zach yn nerfus ynghylch siarad â chwsmeriaid i ddechrau ond mae’r brentisiaeth wedi rhoi hwb i’w hyder, ei wybodaeth a’i sgiliau.

“Rwy’n ddiolchgar iawn i Lifestyle Fitness am y cyfle i wneud y brentisiaeth – wnes i erioed ddychmygu y cawn i’r fath gyfle,” meddai Zach. “Roeddwn i braidd yn amheus ar y dechrau o faint y gaIlwn i ei wneud ond dwi wedi synnu fy hunan.

“Pan adewais i’r ysgol yn 16 oed, doedd gen i ddim gwaith na phrentisiaeth a wnes i ddim dechrau gweithio tan ro’n i’n 19. Dwi’n credu y dylai fod mwy o gyfleoedd gwaith i bobl ifanc, yn enwedig rai ag anableddau.

“Rwy’n lwcus iawn fod y bobl sydd o ‘nghwmpas yn fy nghefnogi – teulu, ffrindiau, cydweithwyr a fy hyfforddwr.”

Mae Zach yn cynghori pobl ifanc anabl eraill i fynd ati o ddifri i ystyried prentisiaeth. “Beth sydd gennych chi i’w golli?” gofynnodd. “Rydw i wedi cyfuno fy niddordeb mewn ffitrwydd â swydd – rhaid i chi gael cydbwysedd rhwng gwneud rhywbeth rydych yn ei fwynhau a gwneud bywoliaeth.

“Mae gen i ffordd bell i fynd i gyrraedd fy nod ond mae’r brentisiaeth wedi bod yn help mawr i mi gyrraedd lle dw i eisiau bod yn fy ngyrfa.”

Dywedodd rheolwr Lifestyle Fitness, Craig Wright, fod y brentisiaeth wedi trawsnewid bywyd Zach trwy roi hwb i’w wybodaeth, ei hyder a’i sgiliau cyfathrebu.

“Dydi Zach ddim yn gweld bai mewn pobl eraill, mae bob amser yn awyddus i helpu ac mae’r staff a’r cleientiaid i gyd wrth eu bodd ag o,” meddai. “Mae’r math o berson sy’n rhoi profiad da i chi ac mae wedi mynd o nerth i nerth ers iddo gychwyn ei brentisiaeth.

“Pan fydd Zach wedi cael ei gymwysterau i gyd, bydd yn gyfle i ni gael hyfforddwr personol ychwanegol yn y gampfa. Bydd hynny’n fanteisiol i’n busnes a bydd y cleientiaid yn gallu trefnu sesiynau un-i-un hefo fo.”

Dywedodd hyfforddwr rhanbarthol Babcock Training yn y gogledd, Hannah Jones: “Mae Zach yn un da am ddysgu ac mae wedi gwneud yn ardderchog wrth symud ymlaen â’i brentisiaeth yn ystod y cyfnod clo.

“Mae’n awyddus iawn i ddysgu ac mae wedi addasu’n dda iawn i ddysgu o bell. Rydan ni’n disgwyl i’r gampfa ailagor rŵan fel y gall orffen y gwaith arsyllu a chwblhau ei brentisiaeth.”

Llongyfarchwyd Zach ar ei daith ddysgu lwyddiannus gan Humie Webbe, Arweinydd Strategol Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, ar gyfer Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW).

“Ein gweledigaeth ni yw creu amgylchedd dysgu sy’n rhoi cyfle i bawb wireddu eu potensial trwy eu doniau a gwaith caled, beth bynnag yw eu cefndir, meddai Humie.

“Rydym am sicrhau bod pobl yn sylweddoli bod prentisiaethau’n agored i bawb a bod y rhwystrau sy’n atal pobl rhag cymryd rhan ynddynt yn cael eu chwalu.”

More News Articles

  —