Sêr ym myd dysgu seiliedig ar waith yn disgleirio mewn seremoni wobrwyo rithwir

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Roedd sêr y sector dysgu seiliedig ar waith yn disgleirio neithiwr (nos Iau) pan gafodd cyflogwyr disglair, dysgwyr ysbrydoledig ac ymarferwyr ymroddedig eu cydnabod yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru 2021.

Roedd y seremoni wobrwyo flynyddol fawreddog, a gynhaliwyd dros y rhyngrwyd eleni, yn rhoi sylw i 35 o ymgeiswyr sydd wedi rhagori ar Raglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru ac wedi mynd yr ail filltir i lwyddo yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Trefnir Gwobrau Prentisiaethau Cymru ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig a chwmni sy’n frwd o blaid prentisiaethau, yw’r prif noddwr eleni eto.

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF). Mae 101,590 o bobl ledled Cymru wedi elwa ar raglenni prentisiaethau Llywodraeth Cymru ers mis Mai 2016.

Llongyfarchwyd yr enillwyr gan Weinidog yr Economi, Vaughan Gething, a ddywedodd: “Mae enillwyr y gwobrau wedi rhagori wrth ymwneud â Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru ac wedi mynd yr ail filltir i lwyddo yn ystod y cyfnod anodd hwn na welwyd ei fath o’r blaen.

“Mae gan Lywodraeth Cymru gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer ailgodi gan sicrhau nad oes cenhedlaeth goll wrth i ni ailadeiladu fersiwn newydd o Gymru a fydd yn beiriant i greu twf cynaliadwy a chynhwysol. Rwy’n credu y bydd prentisiaethau’n hollbwysig wrth i ni ddod dros effeithiau’r pandemig

“Dyna pam y mae Llywodraeth newydd Cymru wedi ymrwymo i greu 125,000 o lefydd ychwanegol ar Brentisiaethau dros y pum mlynedd nesaf. Gwlad fechan ydym ond mae gennym uchelgeisiau mawr a’n nod yw creu diwylliant yng Nghymru lle mai recriwtio prentis yw’r norm i gyflogwyr.”

Rob Price, rheolwr cynhyrchu Compact Orbital Gears, enillydd gwobr Cyflogwr Bach y Flwyddyn, gyda’r prentisiaid Ruben Clements, Rowan Morgan, Ollie Leadbetter, a Luke Jones sydd wedi cwblhau ei brentisiaeth.

Compact Orbital Gears o Raeadr Gwy, a fu’n enw blaenllaw yn y diwydiant gêrs arbenigol ers dros hanner canrif, a enillodd wobr Cyflogwr Bach y Flwyddyn. Mae wedi gweld manteision defnyddio prentisiaethau i ddatblygu gweithlu hyblyg â sgiliau amrywiol.

Mae’r penderfyniad i ganolbwyntio ar ddatblygu ei gronfa ei hunan o beirianwyr medrus yn y Canolbarth yn talu’r ffordd i’r cwmni, sydd â 43 o weithwyr, mewn cyfnod o brinder ledled Prydain.

Mae Compact Orbital Gears yn dylunio, yn cynhyrchu ac yn datblygu gêrs pwrpasol ar gyfer cwsmeriaid yn y byd awyrofod, moduron ac ynni glân.

Mae gan y cwmni dri phrentis a phump o weithwyr ifanc eraill yn gweithio tuag at gymwysterau Addysg Bellach a ddarperir gan Myrick Training a Grŵp Colegau NPTC, Campws y Drenewydd.

William Davies, enillydd gwobr Prentis y Flwyddyn.

William Davies, sydd wedi arbed £20,000 y flwyddyn i’w gyflogwr trwy awtomeiddio system cydosod cynnyrch, a enillodd wobr Prentis y Flwyddyn.

Mae William, 20, o Lwydcoed, Aberdâr, yn gweithio i Kautex Textron CVS Ltd yn Hengoed. Yn ogystal, rhoddodd argraffydd newydd 3D Rapid Prototyping ar waith er mwyn helpu i ddatblygu systemau cerbydau awtonomaidd, gwnaeth welliannau ym meysydd Iechyd a Diogelwch a chynhyrchiant ac mae wedi rheoli prosiect i adnewyddu cantîn a sicrhau ei fod yn ddiogel rhag Covid.

Cwblhaodd Brentisiaeth mewn Gweithgynhyrchu Peirianneg (Cymorth Technegol ym maes Peirianneg) chwe mis yn gynt na’r disgwyl yng Ngholeg y Cymoedd lle’r enillodd ddwy wobr. Ar hyn o bryd, mae’n gweithio tuag at HNC Lefel 4 mewn Peirianneg Fecanyddol yng Ngholeg Pen-y-bont.

Karen Richards o ACT yng Nghaerdydd, enillydd gwobr Tiwtor y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ar Waith.

Karen Richards o ACT yng Nghaerdydd enillodd wobr Tiwtor y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ar Waith. Mae ei phrentisiaid Cyfrifeg wedi sicrhau cyfradd basio o 86% sydd gryn dipyn yn well na’r cyfartaledd cenedlaethol.

Mae Karen, 54, o’r Coed-duon, yn defnyddio’i phrofiad i ddysgu Diploma Uwch a Diploma Proffesiynol mewn Cyfrifeg mewn ffordd ddifyr a hwyliog. Yn ogystal â hyfforddi ei dysgwyr Lefel 4 hi ei hunan yn ACT, mae’n yn cynnig cefnogaeth i ddarparwyr dysgu eraill pan fydd eu dysgwyr yn ei chael yn anodd.

Mae gan Jessica Apps a Thibaud Gailliard, enillwyr gwobrau Dysgwr y Flwyddyn – Hyfforddeiaethau, Ymgysylltu a Lefel 1 yn y drefn honno, storïau i’n hysbrydoli.

Jessica Apps, enillydd gwobr Dysgwr y Flwyddyn – Hyfforddeiaeth (Ymgysylltu).

Symudodd Jessica, 19, o Botswana i gychwyn bywyd newydd ym Mlaenafon gyda’i mam a’i chwaer iau ym mis Tachwedd 2019. Erbyn hyn fe’i disgrifir fel “esiampl ddisglair” wrth iddi anelu at yrfa fel athrawes.

Roedd dilyn Rhaglen Ymgysylltu Creadigol ar ffurf Hyfforddeiaeth gyda Sgiliau Cyf yn fodd i Jessica ddatblygu ei diddordeb mewn ffotograffiaeth ac ysgrifennu creadigol. Yn awr mae’n astudio ar gyfer ei Lefelau A yng Ngholeg Gwent gyda’r nod o fynd yn athrawes.

Thibaud Gailliard, enillydd gwobr Dysgwr y Flwyddyn – Hyfforddeiaeth (Lefel 1).

Ychydig o Saesneg oedd gan Thibaud, 21, o Lynebwy, pan ddaeth i Gymru o Ffrainc yn fachgen ifanc swil 16 oed ar ôl i’w fam farw o ganser. Doedd ganddo ddim cymwysterau ffurfiol na phrofiad o weithio.

Erbyn hyn mae Thibaud yn rhugl mewn Saesneg a disgrifiwyd ei daith ddysgu fel un “anhygoel”. Dilynodd Raglen Ymgysylltu yn y Cyfryngau Creadigol ar ffurf Hyfforddeiaeth a gwnaeth Brentisiaeth Sylfaen mewn TG gyda’r darparwr hyfforddiant Sgiliau Cyf o Risga. Mae’n gweithio iddyn nhw erbyn hyn fel gweinyddwr arweiniol.

Anelu’n Uchel Blaenau Gwent a Merthyr Tudful a gasglodd Wobr Cyflogwr Mawr y Flwyddyn am ei Raglen Rhannu Prentisiaethau sydd wedi llenwi bwlch sgiliau yn y diwydiant gweithgynhyrchu a mynd i’r afael â lefelau diweithdra uchel yn ardaloedd dau awdurdod lleol.

Mae’r rhaglen o fudd i gwmnïau sy’n rhannu dysgwyr wrth iddynt gwblhau unedau tuag at eu prentisiaeth. Mae Anelu’n Uchel yn cydweithio â Choleg y Cymoedd, sy’n gysylltiedig â Choleg Gwent a Choleg Merthyr Tudful i feithrin y genhedlaeth nesaf o weithwyr medrus trwy brentisiaethau.

Lloyd Davies, rheolwr gyfarwyddwr Convey Law, enillydd gwobr Cyflogwr Canolig y Flwyddyn, gyda Sophia Ramzan sy’n diwtor prentisiaid a Sean McCarthy sy’n brentis.

Convey Law o Gasnewydd yw Cyflogwr Canolig y Flwyddyn. Mae ganddo gynlluniau uchelgeisiol i dyfu hyd at 50% yn 2021 trwy Raglen Brentisiaethau fewnol ddyfeisgar a ddisgrifir gan Lloyd Davies, y rheolwr gyfarwyddwr, fel un “drawsnewidiol”.

Trwy bartneriaeth gyllido â Choleg Caerdydd a’r Fro, aeth y cwmni ati i greu The Conveyancing Academy yn 2014 a bu hynny’n help i gynyddu nifer y trawsgludwyr o 25 yn 2019 i 55 yn 2020. Dyblwyd nifer y prentisiaid o 15 i 30 mewn blwyddyn.

Bu hyblygrwydd yn allweddol i lwyddiant Rhaglen Brentisiaethau Cyngor Rhondda Cynon Taf, enillydd Gwobr Macro-gyflogwr y Flwyddyn, sydd wedi dal i ffynnu er gwaethaf y pandemig byd-eang.

RTC Council

Sian Woolson, rheolwr tîm cyflogaeth, addysg a hyfforddiant Cyngor Rhondda Cynon Taf, enillydd gwobr Macro-gyflogwr y Flwyddyn, gyda’r cydlynydd prentisiaid a graddedigion Maria Jones.

Trefnwyd i’r 80 o brentisiaid weithio gartref a dysgu o bell a chynigiwyd estyniadau i gyrsiau a dyddiadau cau. Bu prentisiaid yn cefnogi gwasanaethau hanfodol yn y gymuned – bu rhai’n cydweithio â’r GIG ar ddata am bobl oedd yn gorfod eu gwarchod eu hunain rhag y coronafeirws, a bu rhai’n dosbarthu parseli bwyd.

Ar ôl bod yn gweithio yn sector y celfyddydau perffornio yn Llundain am sawl blwyddyn, daeth Natalie Morgan, 33, o Ben-arth, enillydd Gwobr Prentisiaeth Uwch y Flwyddyn, yn ôl i Gymru a chael swydd gyda Gymnasteg Cymru.

Cwblhaodd Brentisiaeth Uwch (Lefel 4) mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth gyda Portal Training o Gaerdydd ac yn awr mae wedi symud ymlaen i Lefel 5.

Diolch i’r sgiliau a ddysgodd yn ystod ei phrentisiaeth, roedd modd i Natalie arwain prosiect llwyddiannus i gael merched ifanc a menywod o’r gymuned pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yng Nghaerdydd i gymryd rhan mewn gymnasteg.
Lansiwyd y clwb gydag 11 o ferched, ond tyfodd i dros 130 mewn dim ond 18 mis.

Enillwyr eraill y gwobrau oedd: Prentis Sylfaen y Flwyddyn, Bethany Mason, 21, o Lantrisant, sy’n swyddog gwasanaethau profedigaeth gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Doniau’r Dyfodol, Sophie Williams, 24, o Hirwaun, sy’n swyddog recriwtio rhanbarthol gydag Adran Faethu RhCT. Asesydd y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ar Waith, Matt Redd, 41, o Gaerdydd, sy’n gweithio i Sgil Cymru ac yn rhedeg cwmni cynhyrchu Standoff Pictures Ltd.

More News Articles

  —