Ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith ar y rhestr fer am wobrau cenedlaethol

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Mae cyflogwyr disglair, dysgwyr ysbrydoledig ac ymarferwyr ymroddedig dysgu seiliedig ar waith ledled Cymru wedi cyrraedd rhestrau byrion gornest fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru a gynhelir ar 17 Mehefin.

Yn y dathliad blynyddol hwn o lwyddiant eithriadol ym maes hyfforddiant a phrentisiaethau, bydd 35 o ymgeiswyr yn cystadlu am wobrau mewn 12 categori mewn seremoni ddigidol.

Y seremoni wobrwyo yw uchafbwynt blwyddyn byd dysgu seiliedig ar waith. Mae’n rhoi sylw i fusnesau ac unigolion sydd wedi rhagori yn Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru ac wedi mynd yr ail filltir i lwyddo yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Trefnir Gwobrau Prentisiaethau Cymru ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig a chwmni sy’n frwd o blaid prentisiaethau, yw’r prif noddwr eleni eto.

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF). Mae 101,590 o bobl ledled Cymru wedi elwa ar raglenni prentisiaethau Llywodraeth Cymru ers mis Mai 2016.

Heddiw, cyflwynwn chwech o ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith a gaiff eu cydnabod â gwobrau mewn dau gategori.

Asesydd y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ar Waith

Mae Lydia Harris yn gweithio i JGR Training, Pen-y-bont ar Ogwr ers degawd, ac mae o’r farn mai hyblygrwydd, y gallu i dalu sylw i fanylion a sgiliau trefnu da sy’n gyfrifol am ei llwyddiant yn hyfforddi rheolwyr.

Ymhlith yr heriau mae Lydia wedi’u hwynebu’n ddiweddar mae dod yn gyfrifol am waith Sgiliau Hanfodol JGR, ymrwymo i ddysgu Cymraeg a gweithio tuag at Ddiploma Lefel 4 y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth (ILM).

Dywedodd Lydia, sy’n 37: “Roedd fy enwebiad yn dipyn o sioc ond mae’n braf cael eich cydnabod ac rwy’n credu fy mod i wir yn mynd yr ail filltir yn fy ngwaith.”

Mae Matt Redd wedi treulio dros 20 mlynedd yn gweithio ar flaen y gad ym myd y diwydiannau creadigol ac felly mae’n deall yn iawn beth yw anghenion hyfforddi pobl sy’n cychwyn ar yrfa yn y busnes.

Ac yntau’n awdur ac yn gynhyrchydd ym myd ffilm a theledu, mae Matt yn hyfforddwr llawrydd ar Brentisiaethau Lefel 3 yn y Cyfryngau Creadigol a Digidol gyda’r darparwr hyfforddiant Sgil Cymru yng Nghaerdydd.

Dywedodd Matt, sy’n rhedeg ei gwmni cynhyrchu ei hunan, Standoff Pictures Ltd: “Mae prentisiaethau’n fan cychwyn ar gyfer datblygu doniau mewn diwydiant heriol sy’n gallu bod yn eithriadol o gystadleuol.”

Rebecca Strange o Educ8 sydd yn rownd derfynol am wobr Asesydd y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ar Waith.

Mae gan Rebecca Strange angerdd dros ofal plant a chyfoeth o brofiad fel rheolwr meithrinfa.

Dywedodd y ferch ddiymhongar, 37 oed, o Gaerdydd: “Mae fy rheolwr yn dweud yn aml fy mod i’n gwneud mwy na’r disgwyl ond rwy’n ei weld fel rhan o ‘ngwaith o ddydd i ddydd. Rwy mor falch o fy nysgwyr pan fydda i’n eu gweld nhw’n datblygu.”

Mae Rebecca’n asesydd prentisiaid Gofal Plant, Lefelau 2 i 5, gyda’r darparwr hyfforddiant Educ8 ac mae’n ymweld â gwahanol feithrinfeydd, gwarchodwyr plant a sefydliadau cyn-ysgol. Bu ganddi ran allweddol yn sefydlu platfform dysgu Moodle ar gyfer y cwmni ac erbyn hyn mae’n cael ei ddefnyddio ym mhob rhan o’r busnes.

Tiwtor y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ar Waith

Stephanie Fry o Wales England Care sydd yn rownd derfynol am wobr Tiwtor y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ar Waith.

Mae llawer o bobl yn gweld dyslecsia fel rhwystr. Fodd bynnag, mae Stephanie Fry yn canolbwyntio ar y cyfle y mae’n ei roi iddi i helpu ei dysgwyr i wireddu eu potensial.

A hithau’n rheolwr sgiliau gyda Wales England Care, mae Stephanie, 29, o Gasnewydd, yn rheoli tîm bach o anogwyr sgiliau gan arbenigo mewn cefnogi dysgwyr â dyslecsia, a defnyddio’i phrofiad ei hunan o’r cyflwr i wneud hynny.

Cafodd Stephanie ddiagnosis o ddyslecsia tra oedd yn y coleg, ac aeth ymlaen i ennill gradd mewn Gwasanaethau Cyhoeddus. Mae’n sôn am ei thaith ddysgu ei hunan er mwyn helpu dysgwyr i ddod dros eu hofn o Fathemateg a Saesneg.

Ymunodd Stephanie â Wales England Care yn 2017 ac mae’n frwd o blaid dysgu parhaus. Mae wedi cwblhau cyfres o gymwysterau ac erbyn hyn mae’n gweithio ar Brentisiaeth mewn Arwain a Rheoli.

Mae Karen Richards, sy’n diwtor cyfrifeg, yn cyrraedd ei nod o ysbrydoli a chefnogi dysgwyr i gyflawni eu potensial. Mae cyfradd basio o 86% yn golygu bod ei dysgwyr yn ACT, Caerdydd yn gwneud dipyn yn well na’r cyfartaledd cenedlaethol.

Mae gan Karen bob amser dros 60 o ddysgwyr ar wahanol gamau o’u hyfforddiant AAT (Association of Accounting Technicians) ac mae’n dysgu mewn gweithdai dydd a rhai gyda’r nos, a hynny ar-lein yn ystod y pandemig.

Karen, 54, o’r Coed-duon, yw tiwtor a chydlynydd cyfrifeg ACT ers 2016 ac mae’n defnyddio’r cyfoeth o brofiad sydd ganddi i ddysgu Diploma Uwch a Diploma Proffesiynol mewn Cyfrifeg mewn ffordd ddifyr a hwyliog.

Yn ogystal â hyfforddi ei dysgwyr Lefel 4 hi ei hunan yn ACT, mae Karen yn cynnig cefnogaeth i ddarparwyr dysgu eraill pan fydd eu dysgwyr yn ei chael yn anodd gan addasu ei dull o ddysgu a’i hadnoddau yn ôl yr angen.

Un o’r pethau sy’n rhoi’r boddhad mwyaf i Hannah Kane-Roberts yw cefnogi dysgwyr ar eu taith a’u gweld yn ffynnu ac yn llwyddo.

Tiwtor ieuenctid yng nghanolfan y darparwr dysgu seiliedig ar waith Itec yng Nghaerdydd yw Hannah, 27, o Sblot. Yno, mae’n gweithio gyda dysgwyr sy’n cael trafferth ymgodymu ag addysg ac sy’n wynebu nifer o rwystrau ym maes addysg a gwaith.

Gall Hannah ymfalchïo bod 80% o’i dysgwyr yn llwyddo i symud ymlaen i waith, prentisiaeth neu ddysgu pellach a’i bod wedi sicrhau cyfradd lwyddiant o 100% yn y cymhwyster cyflogadwyedd y mae’n ei ddarparu ar gyfer ei dysgwyr.

A hithau’n frwd o blaid datblygiad proffesiynol parhaus (DPP), mae wedi ennill cymhwyster Lefel 4 Anogwr Dysgu, gradd BSc (Anrhydedd) mewn Chwaraeon ac Addysg Gorfforol a Thystysgrif Addysg Broffesiynol i Raddedigion.

More News Articles

  —