Technegydd fferyllol cydwybodol yn ennill gwobr Prentis y Flwyddyn

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Mae Kiera Dwyer wedi ennill gwobr genedlaethol o fri, diolch i’w phenderfyniad, ei hymroddiad a’i hymrwymiad wrth sicrhau cyfres o gymwysterau i gefnogi ei gwaith mewn fferyllfa gymunedol yn Abercynon.

kiera in her uniform at work

Kiera Dwyer, Prentis y Flwyddyn yng Nghymru.

Enwyd Kiera, 24, technegydd fferyllol o Rydyfelin, Pontypridd, yn Brentis y Flwyddyn yn seremoni Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2022.

Roedd Kiera, sydd â Syndrom Irlen, a elwir hefyd yn straen gweledol, yn gweithio ar reng flaen y GIG yn ystod y pandemig, a bu’n rhaid iddi ddelio â nifer o ddigwyddiadau trawmatig yn y teulu, gan gynnwys colli ei thad-cu a oedd yn annwyl iawn ganddi.

“Mae ennill y wobr yma’n meddwl y byd i mi,” meddai. “Er gwaetha’r anawsterau yn fy mywyd personol a fy anabledd, mae’n dangos bod gwaith caled yn talu’r ffordd. Roedd yn wych cael y bobl rwy’n meddwl fwyaf ohonyn nhw wrth fy ochr i ddathlu.

“Roedd cael fy enwebu ar gyfer y wobr yn rhyfeddol ac roedd ei hennill yn hollol anhygoel.

“Roeddwn i eisiau gwneud prentisiaeth er mwyn gallu cymhwyso’r wybodaeth rydw i’n ei dysgu, yn cynnwys sut y gall cyflyrau meddygol effeithio ar gleifion a sut mae gwahanol ddosbarthiadau cyffuriau’n gweithio mewn gwahanol ffyrdd.”

Roedd Gwobrau Prentisiaethau Cymru eleni’n tynnu sylw at y rhyfeddodau a gyflawnwyd gan gyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seliedig ar waith mewn cyfnod anodd.

Y gwobrau yw uchafbwynt y flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr, a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith. Cânt eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a’u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) a’r noddwr pennaf, Openreach.

Mae Kiera wedi cymryd cyfrifoldeb ychwanegol er mwyn rhoi mwy o amser i fferyllwyr yn Fferyllfa Sheppards, sy’n rhan o grŵp Avicenna, i ymdrin â chleifion. O ganlyniad i hyn, mae’r fferyllfa wedi cael sgôr o hyd at 100% gan gleifion.

Er mwyn dod dros y straen gweledol, buddsoddodd Kiera mewn cymhorthion dysgu ychwanegol ar gyfer gwaith ysgrifennu ac adolygu er mwyn cwblhau Prentisiaeth Rhaglen Hyfforddi Technegwyr Fferylliaeth Cyn-gofrestru a oedd yn cynnwys Diploma BTEC Lefel 3 mewn Gwyddor Fferyllol trwy’r corff dyfarnu Pearson, a City & Guilds Lefel 3 mewn Sgiliau Gwasanaethau Fferylliaeth.

Cyflwynwyd y brentisiaeth gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) gyda chymorth gan ALS Training. Ei bwriad yn awr yw parhau â’i thaith ddysgu fel y gall roi mwy o gefnogaeth i’r fferyllwyr yn y gwaith.

Llongyfarchwyd Kiera a holl enillwyr eraill y gwobrau a’r rhai a gyrhaeddodd y rhestrau byrion gan Weinidog yr Economi, Vaughan Gething. “Mae gan Lywodraeth Cymru gynlluniau uchelgeisiol i wneud Cymru’n beiriant i greu twf cynaliadwy, cynhwysol ac i roi’r cychwyn gorau posibl ym myd gwaith i bob person ifanc,” meddai.

“Rwyf i o’r farn bod prentisiaethau’n hanfodol i’r weledigaeth hon a dyna pam yr ydyn ni’n buddsoddi £366 miliwn dros y tair blynedd nesaf yn darparu ein rhaglen brentisiaethau. Rwy’n benderfynol o wneud ein gorau glas fel llywodraeth i helpu i sicrhau’r manteision economaidd hirdymor y mae ein pobl ifanc yn eu haeddu.

“Er mai gwlad fach ydyn ni, mae gennym uchelgeisiau mawr a’n nod yw meithrin diwylliant lle mai recriwtio prentis yw’r norm i gyflogwyr.”

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF). Os hoffech wybod rhagor am recriwtio prentis, ewch i: llyw.cymru/prentisiaethau-dewis-doeth neu ffonio 03000 603000.

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —