Gwobr i Rebecca sydd wedi gwireddu breuddwyd trwy agor meithrinfa

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Mae enillydd gwobr brentisiaethau genedlaethol wedi annog pobl i beidio â gadael i oedran eu rhwystro rhag cyflawni eu huchelgais i redeg busnes.

Rebecca standing outside Willow Day Care

Rebecca Davies, perchennog Willow Daycare.

Roedd Rebecca Davies yn 50 oed pan aeth ati i wireddu ei breuddwyd o lansio meithrinfa Willow Daycare yng Nghaerfyrddin yng nghanol pandemig Covid-19. Erbyn hyn mae’n cyflogi 22 o staff ac mae nifer y plant yn y feithrinfa wedi codi o saith ar y dechrau i 130 flwyddyn yn ddiweddarach.

Cafodd ymroddiad Rebecca i brentisiaethau a datblygu staff eu cydnabod pan enwyd Willow Daycare yn Gyflogwr Bach y Flwyddyn yn seremoni Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2022.

Roedd y gwobrau eleni’n tynnu sylw at y rhyfeddodau a gyflawnwyd gan gyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seliedig ar waith mewn cyfnod anodd.

Y gwobrau yw uchafbwynt y flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr, a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith. Cânt eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a’u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) a’r noddwr pennaf, Openreach.

“Mae’r wobr hon yn dangos y gallwch wireddu’ch breuddwyd faint bynnag yw eich oedran,” meddai Rebecca. “Feddyliais i ‘Os na wna i nawr, wna i ddim byth’ pan welais i’r cyfle i agor y feithrinfa.

“Rwy’n falch iawn ohonof fy hunan a’r tîm ac yn ddiolchgar fy mod wedi llwyddo i wireddu breuddwyd a rhedeg fy musnes fy hunan. Hoffwn i weld y feithrinfa’n ysbrydoli pobl sy’n awyddus i weithio yn y sector sy’n cael trafferth recriwtio staff.

“Mae prentisiaethau’n hynod bwysig i’r sector oherwydd mae llawer o bobl ddawnus allan yna nad ydyn nhw eisiau bod mewn ystafell ddosbarth ond sy’n ffynnu mewn sefyllfa dysgu seiliedig ar waith.”

Agorodd Rebecca fusnes Willow Daycare ar dir Ysbyty Cyffredinol Glangwili, ar ôl gweld bod prinder difrifol o gymorth gofal plant, yn enwedig i staff y GIG. Yn awr, mae’n awyddus i ehangu’r feithrinfa i ateb y galw.

Mae’r staff i gyd yn cael eu hannog i gofleidio addysg a, lle bo modd, i gynnwys y Gymraeg yn eu gwaith.

Mae Willow Daycare yn cynnig Prentisiaethau o Lefelau 2 i 5 mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant yn ogystal â Gwaith Chwarae Lefel 3. Fe’u cyflwynir ar y cyd â TSW Training.

Llongyfarchwyd Willow Daycare a holl enillwyr eraill y gwobrau a’r rhai a gyrhaeddodd y rhestrau byrion gan Weinidog yr Economi, Vaughan Gething. “Mae gan Lywodraeth Cymru gynlluniau uchelgeisiol i wneud Cymru’n beiriant i greu twf cynaliadwy, cynhwysol ac i roi’r cychwyn gorau posibl ym myd gwaith i bob person ifanc,” meddai.

“Rwyf i o’r farn bod prentisiaethau’n hanfodol i’r weledigaeth hon a dyna pam yr ydyn ni’n buddsoddi £366 miliwn dros y tair blynedd nesaf yn darparu ein rhaglen brentisiaethau. Rwy’n benderfynol o wneud ein gorau glas fel llywodraeth i helpu i sicrhau’r manteision economaidd hirdymor y mae ein pobl ifanc yn eu haeddu.

“Er mai gwlad fach ydyn ni, mae gennym uchelgeisiau mawr a’n nod yw meithrin diwylliant lle mai recriwtio prentis yw’r norm i gyflogwyr.”

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF). Os hoffech wybod rhagor am recriwtio prentis, ewch i: https://llyw.cymru/prentisiaethau-dewis-doeth neu ffonio 03000 603000.

llyw.cymru/prentisiaethau-dewis-doeth neu ffonio 03000 603000.

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —