Angelina’n Ymarferydd y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ar Waith oherwydd ei gwaith arloesol

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Mae ymarferydd dawnus sydd wedi arloesi gyda’r gwaith o gyflwyno’r Fframwaith Prentisiaethau Dylunio Dysgu Digidol yng Nghymru yn dathlu ar ôl ennill gwobr genedlaethol o bwys.

Angelina in the office

Angelina Mitchell, Ymarferydd y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ar Waith yng Nghymru.

Enwyd Angelina Mitchell, 28, sy’n swyddog sicrhau ansawdd mewnol digidol gyda’r darparwr hyfforddiant ACT yng Nghaerdydd, yn Ymarferydd y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ar Waith yn seremoni Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2022.

O’r Iseldiroedd y daw Angelina yn wreiddiol ac meddai: “Mae’r wobr hon yn dangos i fy nysgwyr a fy nghyd-aseswyr beth y gallwch ei gyflawni wrth wneud eich gorau a gweithio’n galed. Rwy wrth fy modd fod pobl eraill yn teimlo fy mod i’n gwneud gwahaniaeth.”

Roedd Gwobrau Prentisiaethau Cymru eleni’n tynnu sylw at y rhyfeddodau a gyflawnwyd gan gyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seliedig ar waith mewn cyfnod anodd.

Y gwobrau yw uchafbwynt y flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr, a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith. Cânt eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a’u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) a’r noddwr pennaf, Openreach.

Esboniodd Lucy Wilkinson, rheolwr llwybr gwasanaethau digidol ACT, fod Angelina wedi gorfod dygymod â’r Fframwaith Prentisiaethau Dylunio Dysgu Digidol ar ei phen ei hunan gan mai hi oedd unig asesydd y cymhwyster hwn yng Nghymru ar y pryd.

“Mae ei brwdfrydedd a’i hymroddiad i’w datblygiad proffesiynol parhaus o fewn y diwydiannau digidol yn eithriadol,” meddai.

Mae Angelina, sy’n byw yng Nghaerdydd, wedi bod wrth ei bodd â thechnoleg er pan oedd yn bedair oed pan gafodd ei chyfrifiadur cyntaf gan ei thad, datblygwr meddalwedd.

Ar ôl bod yn dysgu ieithoedd tramor modern i ddisgyblion ysgol uwchradd, ymunodd Angelina ag ACT fel asesydd dan hyfforddiant yn 2018 gan ei bod yn chwilio am her newydd yn ei gyrfa.

Er mwyn deall taith ei dysgwyr yn iawn, mae hithau wedi dilyn y prentisiaethau y mae’n eu cyflenwi ac mae wedi dysgu Cymraeg er mwyn iddi allu eu cyflwyno’n ddwyieithog.

Mae Angelina’n rhugl mewn chwe iaith ac mae wedi dysgu Cymraeg mor dda nes iddi ennill Gwobr Dysgwr y Flwyddyn ‘Cymraeg Gwaith’ (canolradd) gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Hi sy’n cael y canlyniadau gorau yn ei thîm – mae 90% o’i dysgwyr yn cwblhau eu cymhwyster ac mae’n cael sgôr ymgysylltu â chyflogwyr o 88%.

Ymhlith ei chymwysterau mae gradd Baglor mewn Addysg yn arbenigo mewn dysgu Ffrangeg, cymhwyster atodol mewn Dylunio Amlgyfrwng, Prentisiaethau yn y Cyfryngau Cymdeithasol ar gyfer Busnes, Asesu Hyfforddiant a Sicrwydd Ansawdd Mewnol.

Llongyfarchwyd Angelina a holl enillwyr eraill y gwobrau a’r rhai a gyrhaeddodd y rhestrau byrion gan Weinidog yr Economi, Vaughan Gething. “Mae gan Lywodraeth Cymru gynlluniau uchelgeisiol i wneud Cymru’n beiriant i greu twf cynaliadwy, cynhwysol ac i roi’r cychwyn gorau posibl ym myd gwaith i bob person ifanc,” meddai.

“Rwyf i o’r farn bod prentisiaethau’n hanfodol i’r weledigaeth hon a dyna pam yr ydyn ni’n buddsoddi £366 miliwn dros y tair blynedd nesaf yn darparu ein rhaglen brentisiaethau. Rwy’n benderfynol o wneud ein gorau glas fel llywodraeth i helpu i sicrhau’r manteision economaidd hirdymor y mae ein pobl ifanc yn eu haeddu.

“Er mai gwlad fach ydyn ni, mae gennym uchelgeisiau mawr a’n nod yw meithrin diwylliant lle mai recriwtio prentis yw’r norm i gyflogwyr.”

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF). Os hoffech wybod rhagor am recriwtio prentis, ewch i:

llyw.cymru/prentisiaethau-dewis-doeth neu ffonio 03000 603000.

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —